Y Llywydd yn cefnogi Wrecsam yng nghystadleuaeth Tlws yr FA
22 Mawrth 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gobeithio mai Clwb Pêl-droed Wrecsam a fydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Tlws yr FA ddydd Sul (24 Mawrth).
Bydd y Dreigiau yn chwarae yn erbyn Tref Grimsby ar yr achlysur cyntaf iddynt gyrraedd y rownd derfynol yn Wembley.
“Mae Wrecsam wedi gwneud camp aruthrol i gyrraedd y rownd derfynol,” meddai Rosemary Butler, y Llywydd.
“Mae Andy Morrell yn cael cryn lwyddiant gyda’r tîm, sydd hefyd yn gwneud ymdrech fawr i ennill cystadleuaeth y Gyngres a chael ei ddyrchafu yn ôl i’r Gynghrair Bêl-Droed.
“Mae’n dymor ardderchog i’r cefnogwyr, yn enwedig o ystyried y problemau y mae’r clwb wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rwyf yn hynod falch ei fod bellach yn llwyddo gryn dipyn ar y cae a hoffwn ddymuno’n dda i’r tîm yn y gêm dyngedfennol hon yn Wembley.”