Dechreuodd yr Ymgynulliad Mawr yng Nghymru heddiw gyda digwyddiad yn y Senedd. Croesawodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ysgolion, grwpiau cymunedol, Aelodau'r Cynulliad a Phrif Weinidog Cymru i ddathlu bywyd Jo Cox AS a phopeth sydd gennym yn gyffredin.
Gwrandawodd disgyblion Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Sant Paul ac Ysgol Gynradd Albany Road ar gerddorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a buont yn ysgrifennu eu negeseuon eu hunain ar wal "Yr hyn a garwn" yn y digwyddiad. Bydd y negeseuon yn cael eu harddangos yn y Senedd dros y penwythnos wrth i ddigwyddiadau’r Ymgynulliad Mawr gael eu cynnal ledled Cymru a gweddill y DU.
Dywedodd Elin Jones AC: "O drychineb marwolaeth Jo, mae ei gŵr, Brendan Cox yn gweithio i ddod â chymdogaethau a chymunedau at ei gilydd, a dyna pam ein bod ninnau hefyd wedi dod ynghyd i ddathlu bywyd Jo. Bydd pobl ledled Cymru yn cynnal eu Hymgynulliadau Mawr eu hunain y penwythnos hwn hefyd. Fel y dywedodd Jo, mae gennym lawer mwy yn gyffredin nag sy'n ein rhannu, ac rwyf am ddiolch i bawb am ddangos eu cefnogaeth heddiw. "
Meddai Brendan Cox:
"Cefais fy nghyffwrdd gan y ffordd y mae pobl Cymru wedi uno y tu ôl i'r syniad o’r Ymgynulliad Mawr. Mae’n anrhydedd i mi fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ei ddigwyddiad ei hun. Bydd yn gosod esiampl ar gyfer y llu o ddigwyddiadau y gwn sy’n cael eu cynnal ledled Cymru y penwythnos canlynol.
"O bicnic yn Theatr Clwyd yng Ngogledd Cymru i’r Sgowtiaid a’r Girl Guides yn dod ynghyd yng Nghaerfyrddin, a chydganu ym Mae Caerdydd, bydd naws yr Ymgynulliad Mawr yn cael ei deimlo mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
"Pan fydd pobl yn ceisio ein rhannu a gyrru cymunedau ar wahân rydym yn dangos ein cryfder drwy wrthod casineb a dod at ein gilydd gyda phenderfyniad i beidio byth â gadael i'r eithafwyr ennill."
Dywedodd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog: “Rydym i gyd wedi cael ein heffeithio’n ddwfn gan yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion , ond mae’n rhaid inni uno yn wyneb trallod.
Er y bydd llawer ohonom yn teimlo’n drist, yn ofnus ac yn flin, mae’n bwysig ein bod yn cofio geiriau Jo Cox: mae gennym lawer mwy yn gyffredin nag sy’n ein rhannu.
Mae’r Ymgynulliad Mawr yn gyfle amserol i wrthod rhaniadau ac, yn lle hynny, i ddod â phobl at ei gilydd. Bydd ein gobaith, ein hagosatrwydd a’n hundod bob amser yn trechu casineb, a’r rheini sy’n ceisio’n gwahanu.”