Mae'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi amlinellu ei gweledigaeth gyfansoddiadol ar gyfer Cymru yn ei haraith i Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd.
Roedd y Llywydd yn ymateb yn uniongyrchol i ddadl yn y Cynulliad a oedd yn edrych ar sut y gallai corff deddfu Cymru efelychu'r nifer uchel a bleidleisiodd yn refferendwm yr Alban, a chynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio yng Nghymru.
Achubodd y Fonesig Rosemary ar y cyfle i alw ar San Steffan i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn glir wrth edrych ar batrwm cyfansoddiadol y DU yn y dyfodol.
Anogodd hwy i roi'r angen am gryfhau gallu'r Cynulliad i graffu ar ddeddfwriaeth a dal Llywodraeth Cymru i gyfrif wrth wraidd y trafodaethau hynny.
Mae tair thema allweddol yn ganolog i'w gweledigaeth:
- Ei gwneud yn haws i bawb ddeall y pwerau sydd gan y Cynulliad drwy symud at fodel pwerau a gedwir yn ôl, fel yr Alban;
- Sofraniaeth i'r Cynulliad fel na all San Steffan benderfynu ar ddyfodol y Cynulliad, neu reoli penderfyniadau ar faterion fel enw'r Cynulliad a'r trefniadau etholiadol;
- Cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i adlewyrchu cyfrifoldebau ychwanegol y Cynulliad a chyfrifoldebau posibl yn y dyfodol.
"Sbardunodd refferendwm yr Alban adfywiad democrataidd i'r gogledd o'r ffin, a chafwyd lefel heb ei thebyg o ddiddordeb o du'r cyhoedd," meddai'r Llywydd.
"Felly, beth sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru i wneud pleidleisio yn fwy ystyrlon ar gyfer ein pobl a'n cymunedau? Mae'r ymateb i ddigwyddiadau yn yr Alban, a hynt Bil Cymru, wedi creu momentwm i ni wneud rhai newidiadau hanfodol a fydd yn sylfaen gynaliadwy i'r sefydliad, fel deddfwrfa aeddfed, gyflawni ar ran pobl Cymru.
"Pan fyddwn ni wedi cael pwerau ychwanegol sy'n glir a dealladwy, bydd pobl eisiau ymwneud fwyfwy â'r Cynulliad a byddan nhw am i'w lleisiau gael eu clywed, drwy gyfrannu at ein gwaith yma yn y Cynulliad a thrwy bleidleisio adeg etholiad."
Ychwanegodd y Llywydd na fyddai newid cyfansoddiadol yn ddigon, wrtho'i hun, i sicrhau "democratiaeth iach".
"Er mwyn gwneud hynny, rhaid i ni feithrin perthynas ddeinamig gyda'r bobl rydym yn eu cynrychioli," meddai'r Fonesig Rosemary.
"Nid yw hyn yn newydd i mi na'r Comisiwn. Drwy gydol y Cynulliad hwn, un o flaenoriaethau allweddol y Comisiwn oedd annog mwy o ymwneud ar lefel ddemocrataidd. Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hyn."
Mae'r Fonesig Rosemary wedi gwneud ymgysylltu â phobl ifanc yn ganolog i'r strategaeth honno.
"Wrth symud ymlaen yn sgil y refferendwm yr Alban, ac fel rhan o'n gwaith ymgysylltu â phobl ifanc, byddwn yn cynnal sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc Cymru, i drafod a ddylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16," meddai.
"Siarad gwag ydy dweud nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae ganddyn nhw ddiddordeb. Ein lle ni ydy gwneud yn siŵr ein bod yn gwrando arnyn nhw, ac yn gweithredu ar y sgyrsiau rydyn ni'n eu cael gyda nhw."