Y Llywydd yn cyhoeddi enw enillydd y balot deddfwriaethol nad yw'n ddeddfwriaeth y Llywodraeth

Cyhoeddwyd 22/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn cyhoeddi enw enillydd y balot deddfwriaethol nad yw'n ddeddfwriaeth y Llywodraeth

22 Tachwedd 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi enw enillydd y balot deddfwriaethol diweddaraf nad yw'n ddeddfwriaeth y Llywodraeth.

Tynnwyd enw Mark Isherwood AC ar hap yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 21 Tachwedd.

Mae'r cynnig yn nodi:

“Cynlluniwyd y Bil arfaethedig i ddiwygio system gofal cymdeithasol yn ymwneud â Thaliadau Uniongyrchol yng Nghymru, gan ei newid o fod yn system ble y mae defnyddwyr y gwasanaeth yn dewis bod yn rhan ohoni i fod yn un ble y byddant yn dewis peidio â bod yn rhan ohoni.”

Dywedodd Mr Isherwood: “Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy newis. Mae Taliadau Uniongyrchol yn caniatáu i bobl wneud rhagor o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Os bydd person yn cael Taliadau Uniongyrchol, gall ef benderfynu sut y bydd ei anghenion yn cael eu diwallu, gan bwy a phryd. Maent yn caniatáu gofal sy'n hyblyg ac yn annog pobl i fod yn annibynnol.

“Drwy sicrhau y bydd Taliadau Uniongyrchol yn ddull gweithredu arferol yn hytrach nag yn eithriad byddai'r Bil hwn yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u gofalwyr i gynllunio eu gofal a'u gwasanaethau cymorth eu hunain.”

Linc i ragor o wybodaeth am y Bil Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru).

Linc i ragor o wybodaeth am falotau deddfwriaethol y Llywydd.