Y Llywydd yn cynrychioli Cymru yn nathliad canmlwyddiant y Dáil Eireann

Cyhoeddwyd 22/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/01/2019

​Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymryd rhan mewn sesiwn arbennig i nodi 100 mlynedd ers cyfarfod cyntaf y Dáil Eireann yn Nulyn.

Y Dáil Eireann yw'r Tŷ Isaf neu Dŷ'r Cynrychiolwyr yn Senedd Iwerddon.

Ymunodd Elin Jones AC â llywyddion o bob rhan o Ewrop ynghyd â disgynyddion aelodau cyntaf y Tŷ ar gyfer y sesiwn hon.

Cynhelir y prif ddigwyddiad coffa ddydd Llun 21 Ionawr yn yr Ystafell Gron yn y Mansion House ym mhrifddinas Iwerddon, cyn derbyniad mawreddog yng nghastell Dulyn.

"Roedd yn anrhydedd bod yn Nulyn y penwythnos hwn gyda chymheiriaid o seneddau ledled Ewrop a thu hwnt i ddathlu canmlwyddiant y Dáil.

"Wrth i ni yn y Senedd baratoi i ddathlu ugain mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad, mae'n bleser croesi môr Iwerddon i ymuno â digwyddiadau i nodi'r garreg filltir arbennig hon yn hanes yr Oireachtas.

"Llongyfarchiadau mwyaf, felly, oddi wrth bawb yng Nghymru i'r Dáil Éireann ar y dathliad arbennig hwn.

"Mae'r cyfeillgarwch rhwng ein cenhedloedd Celtaidd yn enwog, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod."

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Dáil Éireann ar 21 Ionawr 1919.

Y Dáil yw Tŷ Isaf yr Oireachtas. Teitl swyddogol Gwyddelig Aelod o'r Dáil yw "Teachta Dala" sy'n golygu "Dirprwy i'r Dáil". Yn gyffredinol, caiff yr Aelodau eu galw'n "TDau" neu'n "Ddirprwyon".

Nid yw nifer Aelodau'r Dáil yn sefydlog, ond mae'r Cyfansoddiad yn nodi bod yn rhaid cael o leiaf un TD i bob 20,000-30,000 o bobl. Ceir 158 o TDau ar hyn o bryd.

https://www.dail100.ie/en/events/special-centenary-sitting-of-dail-eireann/