Y Llywydd yn derbyn ffolios hanesyddol i nodi aberth awyrenwyr o Gymru

Cyhoeddwyd 28/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn derbyn ffolios hanesyddol i nodi aberth awyrenwyr o Gymru

28 Tachwedd 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi derbyn, ar ran pobl Cymru, ddau ffolio hanesyddol sy'n coffáu aberth awyrenwyr o Gymru.

Cawsant eu cyflwyno iddi gan Farsial yr Awyrlu Chris Nickols, Rheolwr Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol, mewn seremoni yn y Senedd heddiw (28 Tachwedd).

Mae'r ddau ffolio, sy’n dwyn yr enwau “The Few” a “The Many”, yn dathlu a choffáu’r awyrenwyr hynny a oedd yn rhan o Frwydr Prydain a Rheolaeth yr Awyrennau Bomio, yn y drefn honno.

Dywedodd Mrs Butler: "Mae’n anrhydedd derbyn y dogfennau hyn ar ran pobl Cymru.

"Roeddent yn ddyddiau tywyll yn ystod haf a hydref 1940 pan safodd Prydain ar ei phen ei hun yn erbyn y Natsïaid, pan gollodd dynion ifanc dewr eu bywydau yn yr awyr uwchlaw Prydain er mwyn amddiffyn y rhyddid a gymerwn yn ganiataol heddiw.

"Hefyd, drwy gydol yr Ail Ryfel Byd aeth ein criwiau bomiau dewr â’r frwydr at y gelyn yn aml ar deithiau mentrus a pheryglus uwchlaw’r Almaen.

"Rydym oll yn ddyledus i’r dynion dewr hyn, ac mae’r ffolios yn gam tuag at goffáu a dathlu eu haberth."

Mae nifer o awyrenwyr llu awyr sy’n dal yn fyw wedi llofnodi’r ffolios hyn, a fydd i’w gweld yn y Pierhead am fis.

Ym mis Medi eleni dathlwyd 72 mlynedd ers Brwydr Prydain ac ym mis Mehefin dadorchuddiwyd cofeb i goffáu'r 55,573 o ddynion a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu Rheolaeth yr Awyrennau Bomio yn yr Ail Ryfel Byd, yn Green Park, Llundain.

Dywedodd Marsial yr Awyrlu Chris Nickols: “Mae gan Gymru draddodiad balch o gefnogi’r Llu Awyr Brenhinol, a ddangoswyd gan y ffaith iddi brynu awyrennau Spitfire yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

“Ar ran Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol, pleser mawr felly yw cyflwyno’r ffolios argraffiad cyfyngedig arbennig hyn i bobl Cymru.

“Collodd miloedd o ddynion ifanc eu bywydau yn ystod ymgyrch Rheolaeth yr Awyrennau Bomio a Brwydr Prydain, ond rwy’n gobeithio, drwy arddangos y llyfrau hyn yn yr Amgueddfa, y gall pobl Cymru fod yn falch o’r rhan y gwnaethant ei chwarae.”