Y Llywydd yn derbyn ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones

Cyhoeddwyd 20/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn derbyn ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones

20 Mehefin 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi talu teyrnged i Ieuan Wyn Jones, cyn-Arweinydd Plaid Cymru, yn dilyn ei ymddiswyddiad.

Yn gynharach heddiw (20 Mehefin), derbyniodd y Llywydd ymddiswyddiad Mr Jones, sy'n dod i rym ar unwaith.

Dywedodd y Llywydd: “Mae Ieuan Wyn Jones wedi gwneud cyfraniadau meddylgar ac angerddol yn y Siambr dros y pedair mlynedd ar ddeg diwethaf, a bydd colled fawr ar ei ôl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.”

“Arweiniodd ei blaid mewn modd urddasol ac awdurdodol, yn ogystal â chynrychioli ei etholwyr yn Ynys Môn yn ddiwyd.”

“Bydd colled fawr ar ei ôl ond, ar ran holl Aelodau'r Cynulliad, hoffwn ddiolch iddo am ei gyfraniad a dymuno'n dda iddo gyda'i yrfa newydd.”

Mae ymddiswyddiad Mr Jones yn golygu bod sedd etholaethol Ynys Môn i'r Cynulliad yn wag.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi bod yn rhaid i'r Llywydd bennu dyddiad etholiad unwaith y daw sedd etholaethol yn wag, a bod yn rhaid i'r dyddiad hwnnw fod o fewn tri mis i'r sedd ddod yn wag.

Yr unig eithriad i'r rheol hon yw os bydd y dyddiad olaf y gellir cynnal is-etholiad o fewn tri mis i'r dyddiad y cynhelir etholiad Cynulliad cyffredin. Os digwydd hynny, bydd y sedd yn aros yn wag.

Ar ôl dewis dyddiad, rhaid i'r Llywydd ysgrifennu at y Swyddog Canlyniadau i'w hysbysu o'i phenderfyniad.

Ar ôl rhoi gwybod i'r Swyddog Canlyniadau am y dyddiad, dylid dilyn yr amserlen a ganlyn:

Cyhoeddi hysbysiad ynghylch etholiad, heb fod yn hwyrach na hanner dydd ar y pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad;

Cyflwyno papurau enwebu erbyn y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad;

Cyflwyno hysbysiadau o dynnu ymgeisyddiaeth yn ôl, heb fod yn hwyrach na hanner dydd ar yr ail ddiwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad;

Cyhoeddi rhestr yr ymgeiswyr, heb fod yn hwyrach na hanner dydd ar yr unfed diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad;

Bydd pleidleisio yn digwydd rhwng 07.00 a 22.00 ar ddiwrnod yr etholiad.

Wrth gyfrif unrhyw gyfnod o amser ar gyfer yr amserlen, ni chaiff diwrnodau penodol, fel gwyliau banc a phenwythnosau eu hystyried.

Gellir cynnal is-etholiad yn ystod y toriad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodyn briff atodedig.