Y Llywydd yn dymuno pob hwyl i Baralympwyr o Gymru wrth i’w hymgyrch am fedalau aur ddechrau

Cyhoeddwyd 28/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn dymuno pob hwyl i Baralympwyr o Gymru wrth i’w hymgyrch am fedalau aur ddechrau

28 Awst 2012

Mae Gemau Paralympaidd Llundain yn dechrau ar 29 Awst gyda 38 o athletwyr o Gymru yn cystadlu am fedalau aur, y nifer uchaf erioed.

Byddant yn cystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon o nofio i hwylio, ar y trac a’r maes i saethyddiaeth ac o bêl foli i seiclo.

Mae gan Gymru garfan gref o athletwyr yn y Gemau Paralympaidd ac athletwyr o Gymru oedd yn gyfrifol am tua 25% o’r medalau aur a enillwyd gan Dîm Prydain Fawr yn y Gemau yn Beijing.

Dywedodd Rosemary Butler AC: “Heb os, roedd perfformiadau athletwyr o Gymru yn y Gemau Olympaidd diweddar yn ysbrydoledig.

“Fodd bynnag, mae’r ffordd mae ein Paralympwyr yn defnyddio’u hanableddau ac yn perfformio i safon mor uchel yn mynd ag ysbrydoliaeth i lefel newydd.

“Roedd Gemau Beijing yn rhai llwyddiannus iawn i Gymru ac, wrth i fwy o athletwyr gystadlu nag erioed o’r blaen, rwy’n siwr y byddwn ni’n rhagori ar hyn yn Llundain.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn, ar ran holl Aelodau’r Cynulliad a’r staff, i ddymuno pob hwyl i gystadleuwyr o Gymru wrth iddynt gystadlu am fedalau aur.”