Y Llywydd yn dymuno pob lwc i glwb pêl-droed Casnewydd cyn yr ornest yn Wembley

Cyhoeddwyd 11/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn dymuno pob lwc i glwb pêl-droed Casnewydd cyn yr ornest yn Wembley

11 Mai 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dymuno llwyddiant i Glwb Pêl-droed Casnewydd yn Wembley ddydd Sadwrn (12 Mai).

Byddant yn chwarae yn erbyn dinas Caerefrog yn rownd derfynol cystadleuaeth Tlws y Gymdeithas Bêl-droed yn Wembley.

Dywedodd Mrs Butler, sydd hefyd yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd: “Byddaf fi, fel miloedd o gefnogwyr eraill o Gasnewydd, yn teithio i Wembley ddydd Sadwrn i gefnogi’r tîm.”

“Mae’r ddinas, a Chymru’n falch bod y tîm wedi cyrraedd y rownd derfynol yn Wembley a hyderaf y byddant yn codi’r tlws yn fuddugoliaethus.

“Mae eu llwyddiant wedi ychwanegu at flwyddyn wych yn y byd chwaraeon yn gyffredinol yng Nghymru. Bydd pob llygad ar Gasnewydd ddydd Sadwrn fodd bynnag, a hei lwc, y bydd pawb yng Nghasnewydd yn cerdded gyda sbonc fore dydd Sul.”