Y Llywydd yn gobeithio y bydd tîm rygbi Cymru yn cael bri’r Gamp Lawn
16 Mawrth 2012
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gobeithio y bydd tîm rygbi Cymru yn goresgyn yr her o du’r Ffrancwyr ddydd Sadwrn (17 Mawrth) ac yn ennill bri’r Gamp Lawn.
Rhaid i dîm Cymru guro tîm Ffrainc yn ei gêm olaf yn y bencampwriaeth, yn Stadiwm y Mileniwm, er mwyn cyflawni trydedd Gamp Lawn y Chwe Gwlad mewn wyth mlynedd.
Dywedodd Mrs Butler: “Rwy’n siwr y bydd Cymru gyfan yn sefyll yn stond brynhawn dydd Sadwrn i gefnogi’r tîm. Os byddwn yn ennill, bydd yn ganlyniad gwych a theilwng ar ôl twrnamaint arbennig.”
“Bydd cyflawni tair Camp Lawn mewn wyth mlynedd yn llwyddiant anhygoel a fydd yn rhoi’r chwaraewyr hyn ar yr un lefel â chewri’r saithdegau.
“Felly, ar ran holl Aelodau’r Cynulliad a’r staff, hoffwn ddymuno pob lwc i’r tîm ar gyfer y gêm.”