Y Llywydd yn gosod torch ym Mhorth Menin

Cyhoeddwyd 20/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Mae'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi gosod torch ym Mhorth Menin i gofio'r aberth a wnaed gan filiynau o filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymunodd â dirprwyaeth o Lefarwyr a dirprwy Lefarwyr o sefydliadau seneddol y DU ac Iwerddon yn y seremoni.

Roedd y ddirprwyaeth yn westeion Senedd Fflandrys, ac ymwelodd hefyd â Senedd Fflandrys ar gyfer Seremoni Goffa ac Amgueddfa Goffa Passchendaele yn Zonnebeke.

Dywedodd y Fonesig Rosemary - "Mae gan lawer ohonom gysylltiad personol â'r dynion dewr a wnaeth yr aberth eithaf ar feysydd y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Collodd fy hen ewythr, John William Peacey, ei fywyd yn ystod y rhyfel hwnnw - un o'r miliynau o ddynion a gollodd eu bywydau'n ifanc.

"Mae'n anrhydedd mawr imi gael fy ngwahodd i osod torch, ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, ym Mhorth Menin - efallai un o'r cofebau mwyaf teimladwy o'r aberth fawr."

Ymunodd Sandy Mewies AC a Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â'r Llywydd, yn ogystal â dirprwy Lefarwyr Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, Llefarydd Senedd Iwerddon a Chadeirydd Seanad Iwerddon.