Y Llywydd yn llongyfarch Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar gyrraedd y safon uchaf yn y byd pêl-droed
17 Ebrill 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi llongyfarch Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
“Mae hyn yn newyddion ardderchog i gefnogwyr Caerdydd sydd, o'r diwedd, yn gweld eu tîm yn ennill dyrchafiad i'r uwch gynghrair ar ôl bod o fewn trwch blewyn i wneud hynny yn ystod y pedair blynedd diwethaf," meddai'r Llywydd.
“Yn ystod y cyfnod hwnnw fe'u gwelwyd yn colli dair gwaith mewn gemau ail gyfle ond, dan arweiniad Malky Mackay, maent wedi dangos y penderfyniad a'r gallu i ennill sy'n golygu eu bod yn cael eu dyrchafu a hwythau â tair gêm i'w chwarae eto.
“Rwy'n siwr y bydd y tîm yn awr yn mynd ymlaen i ennill y teitl gan ei bod bob amser yn swnio'n well cael eich dyrchafu fel pencampwyr.
“Mae hefyd yn ganlyniad gwych arall mewn blwyddyn sy'n prysur ddatblygu'n un o'r blynyddoedd mwyaf llwyddiannus i bêl-droed Cymru. Dymuniadau gorau i Ddinas Caerdydd a'u cefnogwyr yn yr uwch gynghrair y tymor nesaf."