Mae'r Llywydd wedi llongyfarch tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 UEFA.
Mae hyn yn golygu y bydd Cymru yn ymddangos mewn rowndiau terfynol twrnamaint mawr am y tro cyntaf er 1958.
Dywedodd y Fonesig Rosemary, "Heb os, mae hwn yn gyflawniad gwych a hanesyddol i dîm pêl-droed Cymru, ac yn haeddiannol iawn.
"Llongyfarchiadau i Chris Coleman a'i chwaraewyr a gobeithio y bydd llwyddiant y tîm yn parhau yn Ffrainc y flwyddyn nesaf."