Y Llywydd yn llongyfarch Wrecsam ar ennill Tlws yr FA
25 Mawrth 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi llongyfarch Clwb Pêl-droed Wrecsam ar ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Tlws yr FA.
Bu’r Dreigiau yn fuddugol yn erbyn Tref Grimsby ar yr achlysur cyntaf iddynt gyrraedd y rownd derfynol yn Wembley.
“Hoffwn longyfarch Andy Morrell a’r tîm,” meddai Rosemary Butler, y Llywydd.
“Dyma newyddion gwych i’r clwb a’i gefnogwyr, sydd wedi wynebu cryn ansicrwydd ynghylch dyfodol y clwb dros y blynyddoedd diwethaf.
“Gobeithio y bydd y tîm yn cyflawni ail gamp ac yn cael ei ddyrchafu yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed drwy ennill cystadleuaeth y Gyngres.”