Y Llywydd yn ymateb i ddadl y Cynulliad ar “Ddyfodol Datganoli yng Nghymru”

Cyhoeddwyd 21/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unfrydol brynhawn heddiw (21 Hydref) ar gynnig sy'n pennu ei flaenoriaethau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru.

Roedd y cynnig trawsbleidiol yn nodi naw pwynt yr roedd pedair plaid y Cynulliad yn cytuno arnynt.

Yn dilyn y ddadl, dywedodd y Fonesig Rosemary Butler:

"Mae'r Cynulliad wedi siarad ag un llais heddiw, gan bennu ei flaenoriaethau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru.

"Mae'r cynnig trawsbleidiol hwn yn pennu blaenoriaethau clir.  Rwyf bellach yn disgwyl i Lywodraeth y DU gadw at ei haddewid i roi Cymru wrth wraidd dadl datganoli y DU.

"Mae'n amser i'r Cynulliad gael ei gydnabod fel deddfwrfa barhaol gyda'r hawliau, y capasiti a'r statws cywir i ddarparu'r hyn y mae pobl Cymru yn disgwyl ei gael.

"Byddaf yn parhau i alw am y newidiadau hynny y credaf y mae eu hangen ar y Cynulliad - gan gynnwys cynyddu capasiti, symud at fodel pwerau a gedwir yn ôl, a chydnabod sofraniaeth y Cynulliad fel camau cyntaf hanfodol i sicrhau bod y Cynulliad a'r Llywodraeth yn darparu ar gyfer pobl Cymru.

"Byddaf yn parhau i chwarae fy rhan innau.  Fel Llywydd a Chadeirydd y Cynulliad, byddaf yn hyrwyddo buddiannau a safbwyntiau'r Cynulliad.  Byddaf yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf ac edrychaf ymlaen at drafod y materion hyn ag ef.  Byddaf hefyd yn parhau i siarad â Phrif Weinidog Cymru i sicrhau ein bod yn cael y setliad datganoli sydd ei angen arnom."