Y Llywydd yn ymrwymo i sefydlu Senedd Ieuenctid

Cyhoeddwyd 19/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/10/2016

​Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi ei bwriad i weithio tuag at sefydlu Senedd Ieuenctid.

Gwnaeth yr ymrwymiad tra'n ymateb i gwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn heddiw (19 Hydref).

Dywedodd y Llywydd, "Mae'r Comisiwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran ymgysylltu â phobl ifanc, gan roi cyfleoedd i nifer fawr o bobl ifanc ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau a chyfrannu at y gwaith hwnnw.

"Yn gynharach eleni gwnaethom gytuno, fel rhan o'n strategaeth newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad, ein bod am ddatblygu'r llwyddiant hwn ymhellach.

"Yn sicr, rwyf am weld senedd ieuenctid yn cael ei sefydlu'n gynnar yn nhymor cyfredol y Cynulliad.

"Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant ac Ymgyrch Cynulliad Pobl Ifanc Cymru (CYPAW) ar y ffordd orau ymlaen.

"Mae'n rhaid i ni gynnwys pobl ifanc yn y gwaith hwn. Mae'r penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar eu dyfodol ac felly mae'n rhaid i ni wrando ar eu llais fel rhan annatod o'n trafodaethau.

"Byddwn yn trafod ein camau nesaf yng Nghyfarfod y Comisiwn ddechrau mis Tachwedd."

Mae gan y Cynulliad hanes balch o ymgysylltu â phobl ifanc.

Mae tîm cyfathrebu'r Cynulliad yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu seneddol ac mae gennym berthynas gynhyrchiol hirsefydledig gyda phlant a phobl ifanc Cymru.

Yn ystod y Cynulliad diwethaf, gwnaeth y Comisiwn benderfyniad pendant i ganolbwyntio ar ei ymdrechion i ymgysylltu â phobl ifanc gan gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol ym musnes ffurfiol y Cynulliad, gan roi cyfle iddynt ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau.

Ers hynny, mae'r Cynulliad wedi sefydlu rhaglen waith ieuenctid sydd wedi cynnwys dros 200 o grwpiau ieuenctid ac ystod eang o safbwyntiau yng ngwaith y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sy'n aml heb lais (plant sy'n derbyn gofal, plant anabl a gofalwyr ifanc).

Mae dros 20,000 yn ymweld â Siambr Hywel neu'n cyfarfod ag Aelodau a'n swyddogion bob blwyddyn.