Y Pwyllgor Archwilio i holi pennaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch defnyddio llawdriniaeth undydd yng Nghymru yn well

Cyhoeddwyd 21/12/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio i holi pennaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch defnyddio llawdriniaeth undydd yng Nghymru yn well

Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn holi Ann Lloyd, pennaeth Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad, ynghylch defnyddio llawdriniaeth undydd yng Nghymru yn well. Yn yr un cyfarfod bydd y Pwyllgor yn trafod cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Gweinyddu Grantiau Cynnal Addysg a Hyfforddiant (GCAH) a’r Gronfa Ysgolion Gwell. Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd yn rhoi cyngor ynglyn ag ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yng Nghymru: Adolygiad Sylfaenol o’r Gwasanaethau a Ddarperir. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, am 1.30pm ddydd Iau 21 Rhagfyr. Manylion llawn ac agenda