Bydd Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Graffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod ar 9 Hydref yng Nghanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn ar Daf. Bydd yn edrych ar oblygiadau'r drafodaeth bresennol ar newid cyfansoddiadol yn dilyn y Refferendwm ar annibyniaeth yr Alban i Gymru.
Yn eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf o dymor yr hydref, bydd aelodau'r Pwyllgor yn ystyried pam bod y Prif Weinidog yn dymuno cael confensiwn cyfansoddiadol i'r DU;
- pwy ddylai fod yn rhan ohono,
- pa faterion y dylai eu trafod a phryd y dylid ei gynnal,
- a ddylid cynnig yr un pwerau i Gymru ag i'r Alban ac, yn ei farn ef,
- a ddylid cynnal refferendwm; ei farn ar gwestiwn Gorllewin Lothian,
- a ddylai'r Cynulliad gael pwerau dros drethi a beth fyddai hyn yn ei olygu i fformiwla Barnett.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn holi'r Prif Weinidog ar faterion sy'n peri pryder uniongyrchol i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngorllewin Cymru.
Cynhelir y cyfarfod ar 9 Hydref rhwng 13.30 a 15.30 yng Nghanolfan Hywel Dda, Hendy-gwyn ar Daf. Mae'r cyfarfod yn agored i'r cyhoedd, er y bydd lleoedd yn gyfyngedig. I gadw lle, cysylltwch â Thîm Archebu'r Cynulliad drwy ein switsfwrdd ar 0845 010 5500 / 01492 523 200 neu anfonwch e-bost at archebu@cymru.gov.uk
I gael rhagor o fanylion am y cyfarfod:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=302