Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar ei rôl yn y rhaglen ddeddfwriaethol a’i weledigaeth ar gyfer hybu menter his vision for promoting enterprise

Cyhoeddwyd 12/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar ei rôl yn y rhaglen ddeddfwriaethol a’i weledigaeth ar gyfer hybu menter

12 Gorffennaf 2012

Cyhoeddwyd y bydd Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarfod unwaith bob tymor y Cynulliad, gyda’r bwriad o gynnal o leiaf un cyfarfod y flwyddyn yn y gogledd, y gorllewin neu’r canolbarth.

Yn ystod tymor yr hydref, bydd y Pwyllgor yn craffu ar rôl y Prif Weinidog o ran ffurfio, cynllunio a chydlynu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cynnydd a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad hyd yma, perthynas y Llywodraeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gallu ac arbenigedd o fewn y gwasanaeth sifil a’r gymdeithas ddinesig ar gyfer cyflawni’r rhaglen, a hyblygrwydd wrth ymateb i newid.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn holi’r Prif Weinidog am ei weledigaeth i hybu menter yn economi Cymru, gan gynnwys sut y caiff ei brif ffrydio a’i gydlynu drwy Lywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ddatblygu meysydd polisi trawsbynciol megis Ardaloedd Menter a mentrau cymdeithasol.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Mae’n bwysig craffu ar rôl y Prif Weinidog, fel pennaeth Llywodraeth Cymru. Byddwn yn canolbwyntio ar faterion strategol a’r weledigaeth sydd gan y Prif Weinidog i wella gwasanaethau cyhoeddus a rhagolygon economaidd Cymru.”

Bydd cyfarfod cyhoeddus cyntaf y Pwyllgor yn ystod tymor yr hydref.

Dylai unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am y Pwyllgor gysylltu â’r Clerc, Siân Phipps dros e-bost: CraffuPW@cymru.gov.uk