Y Pwyllgor Cyllid yn cyhoeddi adroddiad ar gyllideb Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 03/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cyllid yn cyhoeddi adroddiad ar gyllideb Llywodraeth Cymru

Heddiw, mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad wedi cyhoeddi’i adroddiad ar gyllideb ddrafft lywodraeth Cynulliad Cymru.

Sefydlwyd y Pwyllgor Cyllid am y tro cyntaf yn y Trydydd Cynulliad a rhan allweddol o’i swyddogaeth yw craffu ar y gyllideb.

Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Dyma’r tro cyntaf i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar y gyllideb, ac rwyf yn falch iawn o’r ffordd adeiladol y mae’r Pwyllgor a’r Llywodraeth wedi gallu cydweithio er mwyn sicrhau bod seiliau cadarn i’r gyllideb. Rydyn ni i gyd fel Aelodau wedi trin ein gorchwyl o graffu’n llawn ac yn briodol ar y gyllideb yn ddifrifol iawn ac wedi cymryd tystiolaeth gan y Gweinidogion, y GIG a Chymdeithas LlLC, yn ogystal ag ystyried adroddiadau gan Bwyllgorau eraill. R ydw i’n hyderus ein bod wedi cynhyrchu adroddiad cadarn, a buaswn yn  annog y  Llywodraeth i ystyried  ein hargymhellion i gyd yn ofalus iawn

Yr Adroddiad