Y Pwyllgor Cyllid yn cyhoeddi ei adroddiad ar gyllideb atodol Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyhoeddwyd 10/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cyllid yn cyhoeddi ei adroddiad ar gyllideb atodol Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gyllideb atodol ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru heddiw.

Mae’r gyllideb atodol yn nodi’r newidiadau y mae’r Llywodraeth am eu gwneud er mwyn rhoi cyfrif am ddatblygiadau polisi a symudiadau ariannol yn ystod y flwyddyn. Mae’r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gynnig cyllideb atodol cyn i’r cynnig hwnnw gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfynodd y pwyllgor nad oedd angen newid y symiau a gynigwyd yn y cynnig cyllideb atodol. Fodd bynnag, roedd yr Aelodau’n pryderu am dryloywder y broses. Mae’r aelodau wedi argymell nifer o ffyrdd posib o wella’r broses yn y dyfodol. Daeth un mater penodol i’r amlwg mewn perthynas â hyblygrwydd diwedd blwyddyn ac mae’r pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gadarnhau lefel yr adnoddau sydd ar gael iddi o’r ffynhonnell hon ac i nodi o ble y daeth yr arbedion cronedig.