Y Pwyllgor Deisebau i drafod rhwydwaith di draffig ar gyfer Cymru

Cyhoeddwyd 06/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Deisebau i drafod rhwydwaith di draffig ar gyfer Cymru

Bydd yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, Sustrans Cymru, yn trafod y ddeiseb mae wedi’i chyflwyno i’r Cynulliad gyda’r Pwyllgor Deisebau ddydd Iau, Rhagfyr 6ed . Mae’r ddeiseb yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru geisio Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol i ddatblygu a chynnal rhwydwaith  lwybrau di draffig i gerddwyr, beicwyr a phobl anabl trwy Gymru. Mae’r ddeiseb a gyflwynwyd wedi cael cefnogaeth gan nifer o sefydliadau yn cynnwys Cyfeillion y Ddaear  Cymru, Age Concern Cymru, a’r Cyngor dros Barciau Cenedlaethol,.

Bydd y pwyllgor hefyd yn clywed gan staff, disgyblion a rhieni Ysgol Gyfun Garth Olwg, am eu deiseb hwy yn erbyn newid yr enw o Rydfelen yn dilyn adleoli safle’r ysgol yn ddiweddar.

Bydd grwp Gweithredu Ysgolion Cymunedol Powys yn galw am adolygiad o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, yn arbennig addysg, er mwyn darganfod ffyrdd effeithiol o warchod cymunedau gwledig yng Nghymru.   

Bydd y deisebau canlynol hefyd yn cael eu trafod:

  • Cefnogaeth i ofalwyr ifanc

  • Newidiad i’r Rheoliadau Benthyciadau ar gyfer Myfyrwyr  mewn perthynas ag Astudio Blaenorol

  • Dwbl y Dreth Cyngor i gael ei Chodi ar Berchnogion Cartrefi Gwyliau yng Nghymru

Bydd y cyfarfod yn digwydd yn Ystafell bwyllgora 1, y Senedd rhwng 1.00pm hyd 3.00pm. Manylion llawn am y pwyllgor ac agenda