Janet Finch Saunders AS

Janet Finch Saunders AS

Y Pwyllgor Deisebau yn croesawu newidiadau i’r drefn roi gwaed

Cyhoeddwyd 17/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi ystyried deiseb gyhoeddus a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi’r ‘gwaharddiad gwaed hoyw’. Ar hyn o bryd yng Nghymru does dim hawl i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed - oni bai eu bod wedi ymatal rhag cael rhyw am chwe mis.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi fod gweinidogion Iechyd o bedair gwlad y DU wedi cytuno i godi’r gwaharddiad sydd wedi rhwystro dynion sydd wedi cal rhyw gyda dynion (MSM) rhag rhoi gwaed.

Meddai Janet Finch Saunders AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau:

“Rwy’n falch iawn dros y rhai a sefydlodd ac a lofnododd y ddeiseb hon i godi’r gwaharddiad ar ddynion hoyw a deurywiol rhag rhoi gwaed – mae eu dymuniad wedi ei wireddu. Rwy’n falch fod y Gweinidogion wedi gwrando ar yr ymgyrchwyr sydd bod yn galw am hyn ers blynyddoedd a’r flwyddyn nesaf mi fydd dull personol o asesu pwy sy’n gymwys i roi gwaed yn dechrau.”

Roedd y ddeiseb a gyflwynwyd i'r Senedd wedi casglu 2,726 o lofnodion ac roedd yn galw am gyflwyno “dull personol sy’n seiliedig ar risg i asesu ymddygiad rhywiol, yn hytrach na phroses lle caiff pobl eu grwpio gyda’i gilydd ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol gan eu gwahardd rhag rhoi gwaed.” Roedd y Pwyllgor Deisebau wedi mynegi ei gefnogaeth i'r ddeiseb hon i Lywodraeth Cymru.