Y Pwyllgor Diwylliant i Graffu ar Bolisi Chwaraeon
8 Mawrth 2006Yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 8 Mawrth yn Ystafell Bwyllgora 3 y Senedd, bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn craffu ar Bolisi Chwaraeon.
Bydd y Pwyllgor yn cael adroddiad gan y Gweinidog am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ym maes chwaraeon. Yn ystod y cyfarfod, bydd y Pwyllgor hefyd yn adolygu Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys y broses o ariannu'r celfyddydau yng Nghymru, ac yn adolygu Papurau Newydd Saesneg yng Nghymru. Cynhelir y cyfarfod am 9.00am yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda