Y Pwyllgor i drafod Pêl-droed yn y Stadiwm Liberty

Cyhoeddwyd 23/03/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor i drafod Pêl-droed yn y Stadiwm Liberty

23 Mawrth 2006

Bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnal yn Ystafelloedd y Morfa, Y Stadiwm Liberty, Abertawe. Testun y cyfarfod fydd adolygiad polisi’r Pwyllgor o bêl-droed yng Nghymru.

Bydd yr Aelodau’n gwrando ar dystiolaeth gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Phrif Gynghrair Cymru. Dyma’r ail sesiwn dystiolaeth yn ystod adolygiad y Pwyllgor. Mae eraill wedi’u cynllunio ar gyfer tymor yr haf a bydd hyn yn cynnwys ymweliad â Gogledd Cymru. Dywedodd Rosemary Butler, Cadeirydd y Pwyllgor, “Mae pêl-droed yn gêm boblogaidd iawn yng Nghymru, yn rhoi mwynhad i oedolion a phlant wrth chwarae ac wrth wylio. Mae hi’n bwysig felly ein bod yn adolygu’n polisïau yn y maes i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y cyfle gorau i fwynhau’r gêm a rhagori ynddi. Mae hi’n briodol iawn ein bod yn ymweld â stadiwm fwyaf newydd Cymru i wrando ar dystiolaeth am ddyfodol y gêm” Bydd y Pwyllgor yn derbyn hefyd adroddiad gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ac yn cytuno’r amodau diwygiedig ar gyfer adolygu’r Celfyddydau yng Nghymru. Cynhelir y cyfarfod Ddydd Iau Mawrth 23 o 1.30pm tan 4.00pm yn Ystafelloedd y Morfa, Stadiwm Liberty, Abertawe. Manylion llawn ac agenda