Y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd am y Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007

Cyhoeddwyd 15/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd am y Mesur ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007

Bydd Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn holi Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, yfory ynghylch y ddeddfwriaeth newydd arfaethedig ynghylch iawndal y GIG.

Bydd y Pwyllgor yn trafod y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007 yn ei gyfarfod nesaf yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Caerdydd ddydd Mawrth 16 Hydref 2007.

I sicrhau bod y gwaith o graffu ar y Mesur hwn yn cael ei gwblhau mor effeithiol â phosibl, bydd y Pwyllgor yn ystyried cyfraniadau o ffynonellau mewnol ac allanol. Yn y cyfarfod yfory bydd yr Aelodau yn cynnal trafodaeth â’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart MBE AC.

Dywedodd Dr Dai Lloyd, AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Heddiw, cawn gyfle i drafod pryderon tystion eraill â’r Gweinidog. Caiff gyfle i ateb awgrymiadau y byddai’r Mesur yn trosglwyddo gormod o gyfrifoldebau deddfwriaethol o’r Cynulliad i Weinidogion Cymru. Dylai fod yn gyfarfod diddorol."

Caiff y cyfarfod ei gynnal yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Caerdydd rhwng 8.15am and 9.15am ddydd Mawrth 16 Hydref  2007. Manylion llawn a'r agenda

I archebu sedd, ffoniwch 08450105500 neu e-bostiwch archebu@gsi.gov.uk. Rhowch wybod i staff y swyddfa archebu os oes gennych unrhyw anghenion arbennig.