Y Pwyllgor Safonau am gael Mesur newydd i sicrhau bod swydd y Comisiynydd Safonau yn un statudol

Cyhoeddwyd 31/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Safonau am gael Mesur newydd i sicrhau bod swydd y Comisiynydd Safonau yn un statudol

Mae Pwyllgor Safonau’r Cynulliad wedi cytuno i gyflwyno Mesur arfaethedig i greu swydd Comisiynydd Safonau statudol. Rôl y Comisiynydd fydd ymchwilio i gwynion bod Aelodau’r Cynulliad wedi torri Cod Ymddygiad y Cynulliad.

Mae gan y Cynulliad y pwer i greu swydd o’r fath o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’r Pwyllgor am ddefnyddio’r pwer hwn i efelychu’r Alban, lle mae swydd y Comisiynydd eisoes yn un statudol. Er bod gan y Cynulliad Gomisiynydd Safonau anstatudol eisoes, nid oes ganddo’r pwerau i’w gwneud yn ofynnol i Aelodau’r Cynulliad ac eraill roi gwybodaeth iddo sy’n ymwneud â chwynion. Fe’i penodwyd hefyd gan y Cynulliad, yn hytrach na’i fod yn hollol annibynnol.

Dyma’r tro cyntaf i Bwyllgor y Cynulliad gynnig Mesur - mae Mesur yn ddarn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad ac iddo effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodiad 5 i Ddeddf 2006. Mater 13.1 yn y Ddeddf yw creu a chyflwyno swyddogaethau i swydd neu gorff ar gyfer ymchwilio i gwynion ynglyn ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad ac mewn cysylltiad â’r ymchwiliadau hynny a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar ganlyniadau ymchwiliadau o’r fath.

Dywedodd Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau: “Bydd gwneud y swydd hon yn un statudol yn sicrhau bod y Comisiynydd yn cael ei ystyried yn hollol annibynnol ar y Cynulliad ac felly’n gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad yn hollol wrthrychol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod gan y Comisiynydd amrywiaeth gynhwysfawr ac effeithiol o bwerau i’w galluogi hi neu ei alluogi ef i ymchwilio i gwynion yn drylwyr.”