Y Senedd i ddiffodd ei goleuadau i gefnogi'r Awr Ddaear

Cyhoeddwyd 28/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Senedd i ddiffodd ei goleuadau i gefnogi'r Awr Ddaear

28 Mawrth 2014

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi Awr Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) ddydd Sadwrn (29 Mawrth) drwy ddiffodd pob golau yn y Senedd rhwng 20.30 a 21.30.

Bob blwyddyn, bydd WWF yn trefnu'r Awr Ddaear i ganolbwyntio sylw'r byd ar y defnydd a wneir o ynni drwy annog unigolion a sefydliadau i ddiffodd pob golau am un awr.

Dywedodd Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am Ystâd y Cynulliad a Chynaliadwyedd: “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru a'r byd ehangach yn fwy gwyrdd ac ecogyfeillgar.”

“Dyna pam y cafodd yr amgylchedd ei roi wrth wraidd y gwaith o ddylunio'r Senedd, ac mae nifer o nodweddion gwyrdd arloesol yn rhan ganolog o'r adeilad.

“Felly, rydym yn falch iawn i gefnogi digwyddiad Awr Ddaear WWF, a hoffwn annog pawb ledled Cymru i ddangos eu cefnogaeth, os gallant, drwy ymuno â ni gan ddiffodd eu goleuadau nos Sadwrn.”

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi Awr Ddaear WWF dros y tair blynedd diwethaf.

Yn ogystal â defnyddio boeler biomas, mae gan y Senedd bwmp gwres daearwresol, ac mae'r nodweddion ar ddyluniad yr adeilad, fel y cwfl a'r twndis, yn ei gwneud yn bosibl defnyddio ynni yn fwy effeithlon drwy ddefnyddio golau a gwres naturiol.

Ers 2008, mae'r Cynulliad wedi lleihau 35% ar ei ôl troed carbon.

Dywedodd Y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Rwy'n falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi ymgyrch Awr Ddaear WWF.

“Mae lle inni hefyd fod yn falch o'n nodweddion gwyrdd yn y Cynulliad Cenedlaethol, ond mae llawer o waith i'w wneud eto yn y maes hwn.”