Y Senedd i groesawu cerflun eiconig o babïau fel rhan o daith 14-18 NOW

Cyhoeddwyd 06/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/03/2017

 

​Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn cyflwyno Weeping Window gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper fel rhan o daith pabïau eiconig 14-18 NOW o amgylch y DU. Bydd y gosodiad yn y Senedd rhwng 8 Awst a 24 Medi.

Bydd y cyflwyniadau gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau’r DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, yn rhoi cyfle i bobl ledled y DU brofi effaith y cerfluniau seramig o babïau mewn amrywiaeth o leoedd o arwyddocâd neilltuol i’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymrwymo i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy gyfres o ddigwyddiadau ar ei ystâd, a ledled Cymru. Bydd y gosodiad hwn yn rhan o’r rhaglen.

Dywedodd Elin Jones, y Llywydd: “Mae’n anrhydedd fawr i’r Senedd, a’r Cynulliad Cenedlaethol, groesawu’r gosodiad eiconig hwn.”

“Y Senedd yw canolbwynt bywyd dinesig a gwleidyddol Cymru ac mae’n briodol ein bod yn nodi’r aberth a wnaed gan gymaint o fechgyn o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf drwy groesawu’r darn teimladwy hwn o gelf.

“Mae’r gosodiad wedi chwarae rhan ganolog ledled y DU i goffáu’r gwrthdaro creulon hwn. Ni ddylem fyth anghofio’r effaith ofnadwy a gafodd ar gymaint o bobl ledled Cymru a’r byd.”

Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW: “The poppies have captivated millions of people across the UK, and we are delighted to present Weeping Window at the Senedd in Cardiff in 2017 as part of the ongoing tour. Artist Paul Cummins and designer Tom Piper have created two enormously powerful artworks of national significance that continue to inspire all who see them.”

Daw Weeping Window o’r gosodiad Blood Swept Lands and Seas of Red – y pabïau a’r syniad gwreiddiol gan yr artist Paul Cummins a dyluniwyd y gosodiad gan Tom Piper – gan Paul Cummins Ceramics Limited mewn cydweithrediad â Historic Royal Palaces. Roedd y gosodiad yn Nhŵr Llundain EM yn wreiddiol rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014 pan arddangoswyd 888,246 o babïau, un i anrhydeddu pob marwolaeth yn lluoedd Prydain a lluoedd Trefedigaethol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y ddau gerflun o babïau sy’n cael eu cyflwyno ledled y DU, sy’n cynnwys dros 10,000 o babïau i gyd, eu harbed ar gyfer y genedl gan Ymddiriedolaeth Backstage a’r Clore Duffield Foundation, ac fe’u rhoddwyd i 14-18 NOW a’r Imperial War Museums. Cafwyd cymorth ariannol ar gyfer y cyflwyniadau gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a Chronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae ymdrechion codi arian ar gyfer y cyflwyniadau’n parhau.

DAF Trucks yw’r noddwr cludiant ar gyfer cyflwyniadau’r DU, ac mae 14-18 NOW yn falch o gydweithio gyda DAF i wneud y prosiect hanesyddol hwn yn realiti. Cefnogir y rhaglen dysgu ac ymgysylltu ar gyfer taith y pabïau gan Sefydliad Foyle.

Ar gyfer rhagor o ymholiadau’r wasg cysylltwch â:

Alex Feeney
Swyddog Cyswllt â'r Cyfryngau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
0300 200 6252
Alex.Feeney@cynulliad.cymru

Ymholiadau’r Wasg Genedlaethol:

Erica Bolton neu Lara Delaney, Bolton & Quinn
6 Addison Avenue
London W11 4QR
Ffôn: 020 7221 5000
E-bost: erica@boltonquin.com / lara@boltonquinn.com