Y Senedd yn croesawu ei miliynfed ymwelydd

Cyhoeddwyd 18/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Senedd yn croesawu ei miliynfed ymwelydd

18 Ionawr 2012

Mae’r Senedd, sef cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi croesawu ei miliynfed ymwelydd.

Cyfarchwyd Samantha Hailes o Caerdydd gan Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a chafodd dystysgrif a thaith o amgylch yr adeilad.

Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad (canol) gyda Samantha Hailes (chwith) a ffrind.

Dywedodd Samantha, “Mae’n syrpreis hyfryd. Dim ond cerdded yn hamddenol wrth lan y dwr oeddwn i, ac fe drodd yn rhywbeth hollol wahanol.

“Rwy’n byw yng Nghaerdydd ac yn cerdded heibio’r adeilad yn aml ond does gen i byth yr amser i ddod i mewn.

“Mae’n adeilad trawiadol mewn lle delfrydol ac rwy’n falch fy mod i wedi gwneud y penderfyniad i ddod i mewn heddiw.”

“Roeddwn yn hynod o falch o groesawu Samantha fel y miliynfed ymwelydd â’r Senedd,” dywedodd Rosemary Butler.

“Ers ei hagor chwe blynedd yn ôl, mae’r Senedd wedi bod yn adeilad eiconig sy’n denu ymwelwyr ac edmygwyr o bob rhan o’r byd.


“Mae hygyrchedd, tryloywder a chynaliadwyedd wrth galon yr adeilad.

“Mae’r tair egwyddor hon wedi’u gweu i mewn i ddeunydd yr adeilad yn yr un modd ag y maent wedi’u gweu i mewn i waith y Cynulliad Cenedlaethol wrth gynrychioli pobl Cymru.”

Mae’r Senedd, a gafodd ei hagor yn swyddogol gan EM y Frenhines ar Ddydd Gwyl Dewi 2006, yn un o adeiladau trawiadol datblygiad Bae Caerdydd ac mae’n adnabyddus ledled y byd.

Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan benseiri Rogers Stirk Harbour and Partners gyda’r bwriad o fod yn dryloyw a hygyrch i’r cyhoedd ond hefyd i fod yn un o adeiladau seneddol mwyaf ystyriol i’r amgylchedd yn y byd.

Dywedodd Ivan Harbour o Rogers Stirk Harbour + Partners, “Mae’r Senedd yn parhau i fod yn agos iawn at ein calonnau; hi oedd ein comisiwn mwyaf cyhoeddus, a’r adeilad mwyaf uchelgeisiol o safbwynt amgylcheddol rydym wedi’i hadeiladu.”

“Fe’i lluniwyd i ymgysylltu â phobl sy’n ymweld â hi a bod yn barchus tuag atynt, i hyrwyddo democratiaeth dryloyw ar gyfer canrif newydd.

“Rydym yn hapus iawn bod cymaint o bobl wedi treulio amser yn ei hystafell fyw gyhoeddus grand, o dan ei chanopi o bren tonnog yn edrych dros Fae Caerdydd.

“Yn yr ychydig flynyddoedd ers adeiladu’r Senedd, mae pobl Cymru wedi ei chofleidio ac yn teimlo perchnogaeth drosti.”

Mae cymwysterau amgylcheddol y Senedd wedi arwain at nifer o wobrau, gan gynnwys tystysgrif “ardderchog” llawn bri o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM). Dyma’r dystysgrif gyntaf i gael ei dyfarnu yng Nghymru.

Cafodd ei henwi hefyd yn ‘adeilad llywodraethu mwyaf gwyrdd y DU’ gan feddalwedd y cwmni IRT Energy yn 2009. Cyfrannodd y cynllun at sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud arbedion gross o £100,000 dros y ddwy flynedd diwethaf, yn ogystal â lleihau ei allyriadau carbon.

Mae anrhydeddau pensaernïol wedi dod i’n rhan hefyd, gyda’r Senedd yn ennill un o Wobrau’r Ymddiriedolaeth Ddinesig yn 2008, Gwobr Ryngwladol Darllenfa Chicago yn 2006 a gwobr ryngwladol gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain y flwyddyn honno hefyd.