Y Senedd yn cyhoeddi Addroddiadau Blynydol a Chyfrifon 2019-2020

Cyhoeddwyd 18/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/01/2021   |   Amser darllen munudau

​Mae'r Senedd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau blynyddol a chyfrifon 2019-2020.

Adroddiad Blynyddol

Ddechrau'r flwyddyn, bu'r Senedd yn dathlu 20 mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a daeth y flwyddyn i ben gydag enw newydd: Senedd Cymru. Dyma senedd sydd wedi parhau i ddwyn y llywodraeth i gyfrif ar ran pobl Cymru yn ystod pandemig byd-eang. Yn ystod y flwyddyn, Brexit oedd y nodwedd amlycaf o fusnes y Senedd ac fe brofwyd ei rôl fel deddfwrfa i'r eithaf wrth iddi orfod ymdopi â chryn dipyn o ddeddfwriaeth yn ymwneud â Brexit, a chraffu ar y ddeddfwriaeth honno.

Ar 15 Ionawr 2020, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth, cyflwynwyd y Bil gan y Llywydd, ar ran y Comisiwn. Mae'r ddeddf newydd yn ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau'r Senedd i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys. Dyma'r newid mwyaf i'r etholfraint yng Nghymru er 1969. Roedd y Ddeddf hefyd yn ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru.

Yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20, bu'r Senedd yn dathlu'r gorffennol ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Dros gyfnod o flwyddyn, fel rhan o raglen i nodi 20 mlynedd ers etholiadau cyntaf y Cynulliad ym 1999, fe gafodd Gŵyl Gwlad ei chynnal. Bu'n ŵyl lwyddiannus gyda digwyddiadau ledled y wlad. Gyda ffocws y rhaglen ar y ffordd ymlaen, bu Aelodau llewyrchus ein Senedd Ieuenctid yn allweddol gydol y flwyddyn wrth drafod dyfodol Cymru, Daeth Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru, sef 60 o bobl a ddewiswyd yn annibynnol i adlewyrchu'r genedl, at ei gilydd am benwythnos i drafod sut y mae pleidleiswyr yn dymuno bod yn rhan o waith y Senedd.

O ran cymorth seneddol, cyflwynwyd chwe Bil newydd yn y Senedd, daeth chwe Bil arall yn Ddeddfau (gan gynnwys y Bil Senedd ac Etholiadau), cefnogwyd 70 sesiwn o'r Cyfarfod Llawn, 377 cyfarfod pwyllgor a chyhoeddwyd 97 o adroddiadau pwyllgor.

Yn ôl Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

"Mae ein hymroddiad i barhau i gwrdd fel Senedd yn ystod y pandemig presennol yn adlewyrchu ein dymuniad i ddwyn Gweinidogion i gyfrif ac adlewyrchu barn y cyhoedd. Mae hyn yn rhywbeth sy'n greiddiol drwy gydol yr Adroddiad Blynyddol; o ymchwiliadau pwyllgor i ddatblygiad ein Senedd Ieuenctid."

Yn ei chyflwyniad i'r adroddiadau blynyddol, dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

"Rwy'n falch o gyflwyno crynodeb o flwyddyn llawn arloesi wrth inni arwain y sector gyda threfniadau cadarn o ran defnyddio ein hadnoddau i wasanaethu'r Senedd a phobl Cymru. 

Wrth i lywodraethau ar draws y DU gynllunio sut i ddod allan o'r cyfyngiadau symud, bydd seneddau hefyd yn ystyried sut y gall rhai o'u ffyrdd newydd o weithio ddod yn barhaol. Ac er y bydd hynny'n esgor ar heriau newydd, rwy'n parhau i fod yn hyderus y byddwn ni, fel staff Comisiwn y Senedd, yn sicrhau bod gan ein Senedd bopeth sydd ei angen arni i aros wrth graidd bywyd cyhoeddus Cymru."

Adroddiadau eraill

Mae ymrwymiad y Senedd i hybu amrywiaeth a chynhwysiant, trwy ei gwaith seneddol ac ymgysylltu ac fel cyflogwr, yn amlwg yn yr Adroddiad Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae'r Senedd yn cydnabod bod angen gwneud mwy i gynyddu amrywiaeth ei gweithlu er mwyn cynrychioli'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu yn well. Serch hynny, yn sgil ymdrechion diweddar, bu cynnydd o 43% mewn ymgeiswyr prentisiaethau o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Mae data'r sefydliad o ran cyflogau cyfartal yn gadarnhaol ac mae'r bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion wedi gostwng ers y llynedd.

Mae ymrwymiad y Senedd i ymgorffori diwylliant o urddas a pharch o fewn y sefydliad yn parhau, gyda sesiynau hyfforddi ar gyfer staff ac Aelodau yn ogystal â'r ymgyrch "Hawl i Herio" er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol.

O flwyddyn i flwyddyn, mae ymdrechion i wneud y Senedd yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn sefydliad mwy gwyrdd yn dwyn ffrwyth, fel sy'n cael ei amlinellu yn Adroddiad yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae ôl troed ynni'r Senedd wedi ei hanneru ers 2012-2013 (y gwaelodlin) ac mae teithiau busnes yn dod yn fwyfwy effeithlon, diolch i gar trydan newydd at ddefnydd pawb a dim gwastraff o gwbl yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Y llynedd, gosodwyd cychod gwenyn ar yr ystâd ac eleni bu staff yn cydweithio â'r RSPB a Bug Life i wella cynefinoedd er mwyn helpu peillwyr, gan gynnwys creu pwll bychan.

Yn olaf, mae Adroddiad Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd yn disgrifio sut y bu'r arolwg sgiliau iaith cyntaf yn fodd o sicrhau bod gan dimau ar draws y sefydliad y sgiliau iaith angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol.