Y Senedd yn troi’n fwy gwyrdd gyda graddfa effeithlonrwydd ynni newydd

Cyhoeddwyd 28/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Senedd yn troi’n fwy gwyrdd gyda graddfa effeithlonrwydd ynni newydd

Mae adeilad y Senedd yn parhau i gadarnhau ei gymwysterau gwyrdd.

Yn ddiweddar, uwchraddiwyd graddfa Tystysgrif Ynni cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ‘C’ i ‘B’, sy’n ei wneud yn un o’r adeiladau cyhoeddus mwyaf effeithlon o ran ynni yn y DU.

O’r cychwyn, bwriadwyd i’r Senedd fod yn adeilad cynaliadwy sy’n garedig i’r amgylchedd.

Mae ei amryw nodweddion yn cynnwys boeler biomas, pwmp gwres geothermaidd a’r defnydd o wres a golau naturiol i arbed ynni.

Cesglir dwr glaw hefyd o do’r Senedd ac fe’i defnyddir ar gyfer dyfrhau, gwaith cynnal a chadw ac i dynnu dwr yn y tai bach.

“Mae hyn yn newyddion ardderchog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cadarnhau’r syniad bod y Senedd wedi cael ei adeiladu i fod yn agored, yn hygyrch ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Nid yn unig y mae’n ganolbwynt democratiaeth yng Nghymru, ond mae’n arwain y ffordd o ran cynllunio adeiladau sy’n amgylcheddol ymwybodol,” dywedodd Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy.

O ran adeiladau eraill Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mae Caerdydd, uwchraddiwyd graddfa’r Pierhead hefyd o ‘C’ i ‘B’. Yn ogystal, newidiwyd graddfa Ty Hywel, sef prif swyddfa weinyddol y Cynulliad, o ‘G’ i ‘F’.

Adeiladwyd Ty Hywel ar ddiwedd yr 1980au, ac roedd y safle a’r cyfarpar yn addas bryd hynny. Fodd bynnag, mae nifer o’r mentrau a gyflwynwyd gan dîm amgylchedd a chynaliadwyedd y Cynulliad wedi lleihau ôl-troed carbon y tua 800 o weithwyr sydd yn yr adeilad, gan gynnwys staff y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth.

“Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i leihau ôl-troed carbon Ty Hywel ymhellach, ond mae’r mesurau sydd eisoes ar waith yn dangos ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Garbon ac Arup, yr ymgynghorwyr peirianyddol, i sicrhau ein bod yn fwy effeithlon fyth,” ychwanegodd Lorraine Barrett, yr

Aelod Cynulliad dros De Caerdydd a Phenarth.   

Dyma restr o rai o’r mentrau a gyflwynwyd gan y Cynulliad:

  • Ail-raglenwyd y system i reoli’r adeilad er mwyn ail-gyflunio sut y mae’r adeilad a’r cyfarpar yn gweithredu a’r berthynas rhyngddynt fel nad yw’r systemau gwresogi ac oeri, er enghraifft, yn gweithredu ar yr un pryd.  

  • Addaswyd y gosodiadau ar gyfer gwresogi yn y gaeaf ac oeri yn yr haf ychydig gyfraddau, sydd wedi arwain at leihau’r defnydd o ynni.

  • Gweithredwyd strategaeth gyffredinol i reoli effeithlonrwydd ynni nad yw’n effeithio ar yr amodau amgylcheddol pan fydd pobl yn yr adeilad, ond sy’n atal boeleri ac oerwyr rhag gweithio heb fod angen iddynt pan nad oes galw neu pan fydd y galw’n isel.

  • Fel rhan o’r rhaglen a drefnwyd i adnewyddu’r adeilad, gosodwyd cyfarpar sy’n fwy effeithlon o ran ynni, fel oerwyr newydd.  

  • Gosodwyd mwy o oleuadau PIR sy’n effeithlon o ran ynni (a reolir gan synwyryddion symudiad) yn yr adeilad fel rhan o’r broses o ailwampio’r swyddfa. Canlyniad hyn yw nad yw goleuadau’n cael eu cadw ymlaen mewn mannau gwag a chafwyd lleihad yn y defnydd o ynni o ganlyniad i hynny.

  • Gosodwyd is-fesuryddion ynni i wella ein data a’n gwybodaeth ar gyfer rheoli ynni a nodi’r mannau y gellid eu gwella ymhellach.