Mewn ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru heddiw am y Pas COVID (17 Medi 2021), dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Iaith Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd:
“Mae datganiad Llywodraeth Cymru heddiw i’w groesawu, ond mae’r datganiad hefyd yn codi nifer o gwestiynau y mae angen eu hateb:
- Beth yw amcan craidd cyflwyno'r pasys hyn? Ai'r bwriad yw cynyddu cyfraddau brechu ymhlith y rhai sydd heb eu brechu neu ai'r bwriad yw rheoli lledaeniad y firws mewn ystod gyfyngedig iawn o leoliadau?
- Nifer fach o leoliadau, ar wahân i glybiau nos, fydd yn cael eu heffeithio gan y datganiad hwn. Faint o ddigwyddiadau a / neu leoliadau y bydd y pasys yn berthnasol iddynt dros yr hydref a'r gaeaf i ddod?
- A allai Llywodraeth Cymru gadarnhau ei diffiniad o “glybiau nos a lleoliadau tebyg”?
- Pa gymorth sy’n cael ei ddarparu i drefnwyr digwyddiadau sydd wedi'u hamserlennu ar hyn o bryd i hysbysu pobl sydd eisoes wedi prynu tocynnau am y gofynion newydd yma, gan gynnwys pobl o'r tu allan i Gymru?
- Pa dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru o drosglwyddo ymhlith pobl sydd heb eu brechu yn y lleoliadau sydd wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad heddiw? Pa effaith berthnasol sydd i’w ddisgwyl gan y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw ar yr achosion trosglwyddo hyn?
- A fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniadau’r ymchwil i’r digwyddiadau prawf a gynhaliwyd yng Nghymru, ac yn amlinellu’r hyn a ddysgwyd o’r ymchwil hon cyn cyhoeddi datganiad heddiw?
“Mae'n hanfodol ein bod yn derbyn atebion i'r cwestiynau hyn er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn deall ac yn cymryd rhan yn y broses hon. Mae sicrhau cefnogaeth y cyhoedd yn ganolog i lwyddiant y mesurau hyn."