Ymateb i'r penderfyniad i osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl o dan fesurau arbennig

Cyhoeddwyd 28/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/02/2023   |   Amser darllen munudau

Mewn ymateb i’r datganiad a wnaed yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 28 Chwefror), gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, am y penderfyniad i osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl o dan fesurau arbennig, dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd:


“Ddwy flynedd ers i’r mesurau arbennig gael eu codi, mae’n siomedig nad ydi’r gwelliannau angenrheidiol wedi eu gwireddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.


“Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi denu sylw’n gyson at bryderon ynghylch goruchwyliaeth y Bwrdd Iechyd gan Lywodraeth Cymru ac wedi codi cwestiynau dro ar ôl tro pam nad yw problemau ymhlith arweinyddiaeth y Bwrdd wedi’u nodi na’u datrys yn gynt. Mae cleifion gogledd Cymru yn haeddu cymaint gwell na hyn, fel y mae’r gweithwyr rheng flaen ymroddedig sy’n cael eu siomi’n barhaus gan fethiannau’r rhai sydd i fod i arwain.


“Bydd y Pwyllgor yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau hyn ac yn gwneud gwaith craffu cynhwysfawr ei hun ar y materion hyn mewn modd amserol.”

Fe wnaeth Mark Isherwood AS gyfrannu at y drafodaeth yn dilyn datganiad y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023. Gwyliwch y drafodaeth ar Senedd.tv