Cefndir yr ymchwiliad hwn gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, yw’r pryder y bydd llawer o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn dioddef o ganlyniad i Brexit, os yw’n golygu na fydd ganddynt fynediad dilyffethair i un o’r marchnadoedd allforio pwysicaf.
Nod yr ymchwiliad yw ystyried sut y gall Cymru ddatblygu diwylliant bwyd fforddiadwy, hygyrch, lleol, gan droi Cymru yn gyrchfan rhyngwladol ar gyfer bwyd a diod.
"Mae llawer o enghreifftiau gwych o gynhyrchion bwyd a diod o safon, gan gynnwys halen môr, siocled a gwin pefriog Cymraeg, heb sôn am ein diwydiant ffermio hollbwysig," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
"Rydym yn bwriadu ystyried sut y gallwn ailedrych ar y diwydiant yng Nghymru i'w droi’n fwy cynaliadwy a chystadleuol mewn marchnad orlawn, ac ystyried sut y gellir ei hyrwyddo'n well i'r byd.
"Hoffem glywed gan ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, perchnogion bwytai, a pherchnogion siopau. Pawb sy'n ymwneud â gweld bwyd yn symud o’r cae i'r oergell."
Dyma gylch gorchwyl llawn yr ymchwiliad:
Beth yw'r dyfodol ar gyfer bwyd a diod yng Nghymru? Sut allwn ni ailystyried bwyd yng Nghymru i sicrhau bod gennym:
- Fwyd iach, a gynhyrchir yn lleol sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy;
- Diwydiant bwyd arloesol sy'n cynnal swyddi o ansawdd uchel;
- Bwyd a gynhyrchir yn gynaliadwy ynghyd â safonau uchel o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid uchel; a
- Chyrchfan enwog yn rhyngwladol ar gyfer y rhai sy'n hoff o fwyd?
Beth yw’ch gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru a beth y mae angen ei wneud i gyflawni hyn?
Cynhelir ymgynghoriad i bobl gyflwyno’u syniadau a'u hawgrymiadau eu hunain. Y dyddiad cau yw 14 Medi 2017. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe’r Pwyllgor a thrwy Twitter @SeneddNHAMG.
Bydd yr ymchwiliad i fwyd a diod yn cael ei lansio'n ffurfiol yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddydd Iau, 27 Gorffennaf.