Ymchwiliad i newidiadau cyfansoddiadol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 29/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2019

Bydd ymchwiliad newydd yn ystyried yr effaith y mae Brexit yn ei chael ar ddatganoli a chyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn galw am dystiolaeth sy'n edrych ar weithrediad Confensiwn Sewel, sy'n nodi sut mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi caniatâd i Senedd y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig, a hefyd sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw AC:

“Yn gynyddol, mae strwythur cyfansoddiadol y DU yn ansefydlog ac yn gamweithredol. Rydym bellach yn nesáu at gyfnod hollbwysig wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae angen i ni ystyried beth mae hyn yn ei olygu i Gymru ac a yw Brexit yn arwain at sefyllfa lle caiff rhai pwerau datganoledig eu canoli yn Llundain ar draul Cymru.

“Roedd ein hadroddiad ‘Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd’, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018, yn tynnu sylw at ein pryderon am oblygiadau cyfansoddiadol anfwriadol wrth i'r DU adael yr UE. Yn ogystal â hynny, rydym wedi lleisio ein pryder ynghylch faint mae Llywodraeth y DU yn gweithredu o fewn meysydd sydd wedi eu datganoli a'r posibilrwydd y gallem ni golli’r pŵer i wneud rhai cyfreithiau o ganlyniad i gyflwyno rheoliadau i gywiro'r llyfr statud.

“Mae Confensiwn Sewel yn un o gonglfeini'r setliad datganoli, ond nid yw bellach yn addas ar gyfer y diben. Mae'n hanfodol bod y broses o roi cydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn cael ei hatgyfnerthu a byddwn yn edrych ar sut y gellir gwneud hyn.

“Rydym yn poeni mwy a mwy am effaith Brexit ar ddatganoli. Teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnom ymchwilio i'r materion hyn yn fanwl er mwyn sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol sy'n dod i'r amlwg ar ôl Brexit yn ddiduedd, yn deg i Gymru ac yn parchu datganoli”.

Mae'r ymchwiliad newydd yn caniatáu i’r Pwyllgor weithio’n hyblyg fel bod modd ystyried unrhyw heriau sy'n codi os daw manylion y broses o adael yr UE yn gliriach wrth i dymor yr hydref agosáu. O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn debygol o gyhoeddi adroddiadau ar themâu amrywiol wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen, gan ymateb, o bosibl, i faterion penodol wrth iddynt godi.  

Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori'n eang ac yn cynnal sesiwn grwpiau trafod ym mis Hydref.