Bydd ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad yn ystyried y sefyllfa o ran amrywiaeth mewn llywodraeth leol.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn i bobl rannu eu profiadau o ran eu gwaith fel cynrychiolwyr etholedig, fel cynghorwyr sir, neu o ran eu hymdrechion i geisio bod yn gynrychiolwyr etholedig.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddileu unrhyw rwystrau sydd ar waith.
Dyma rai o'r materion a gaiff eu hystyried:
Deall pwysigrwydd amrywiaeth ymhlith cynghorwyr lleol, gan gynnwys yr effaith ar ymgysylltu â'r cyhoedd, trafod a gwneud penderfyniadau.
Deall y prif rwystrau i ddenu cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
Trafod meysydd arloesedd ac arfer da a all helpu i gynyddu amrywiaeth ym maes llywodraeth leol.
Trafod effaith bosibl y cynigion ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol, ar gyfer cynyddu amrywiaeth yn siambrau'r cynghorau.
Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: "Mae Cymru'n wlad sy'n gyfoethog o ran amrywiaeth, ac mae'n bwysig bod ein cyrff etholedig yn cynrychioli'r amrywiaeth honno mewn modd priodol.
"Bydd yr ymchwiliad hwn nid yn unig yn edrych ar y rhwystrau y mae pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig neu bobl sy'n rhan o'r gymuned LGBT yn eu hwynebu. Rydym am glywed am brofiadau pobl sy'n dymuno gwasanaethu ond nad ydynt yn teimlo y gallant wneud hynny am resymau teuluol, resymau gwaith neu resymau eraill.
"Rydym am ddeall y rhwystrau hyn a'r bobl y maent yn effeithio arnynt, ac rydym am archwilio meysydd arloesi ac arfer da er mwyn ceisio goresgyn y rhwystrau hynny."
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar agor hyd at 24 Awst 2018. Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu neu gael rhagor o wybodaeth fynd i dudalennau'r Pwyllgor ar y we.