Ymchwiliad newydd: Sut mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu ac a yw'n ddigon?

Cyhoeddwyd 18/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2018

Mae ymchwiliad newydd yn cychwyn i edrych ar sut mae ysgolion Cymru yn cael eu hariannu ac a yw'n ddigon ar gyfer eu hanghenion.

Mae cyllid ysgolion wedi codi fel thema mewn sawl ymchwiliad yn ddiweddar ac mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei bod yn bryd iddo graffu'n fanwl ar y mater sylfaenol hwn.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y berthynas a'r cydbwysedd rhwng y gwahanol ffynonellau o gyllid i ysgolion, ynghyd ag i ba raddau y mae'r perthnasoedd hyn yn dryloyw. Yn bennaf, bydd yn cynnwys cyllidebau craidd ysgolion, ond bydd hefyd yn ymchwilio i ffrydiau ariannu penodol, megis y Grant Datblygiad Disgyblion (PDG), a ddefnyddir i wella canlyniadau dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd) a Phlant sy'n Derbyn Gofal.

Bydd yr ymchwiliad yn craffu ar ddigonolrwydd y ddarpariaeth i gyllidebau ysgolion, a hynny yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill, ac ymysg pethau eraill bydd yr ymchwiliad hefyd yn canolbwyntio ar y pwysoliad a roddir i addysg ac i gyllidebau ysgolion yn benodol yn fformiwla setliad llywodraeth leol a'r broses a ddilynir gan awdurdodau lleol wedyn i bennu cyllideb pob ysgol. 

"Wrth ymateb i bryderon a glywsom mewn ymchwiliadau eraill, bydd y Pwyllgor hwn yn edrych yn fanwl ar sut y mae ysgolion Cymru yn cael eu hariannu, o ble y daw'r arian hwnnw ac a yw'n ddigon ar gyfer anghenion ein plant ysgol," meddai Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

"Byddwn yn ystyried a yw lefel bresennol y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yn ategu ynteu'n rhwystro'r gwaith o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o'r hinsawdd bresennol o ran gwariant ac o'r angen i gydbwyso anghenion ysgolion yn erbyn gofynion gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Felly, nid oes a wnelo'n hymchwiliad â digonolrwydd cyllid ysgolion yn unig; mae'n ymwneud hefyd â'r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion unigol eu pennu a'u dyrannu".

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg tan ddydd Gwener 14 Rhagfyr. Os ydych am gyfrannu, ewch i wefan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg www.cynulliad.cymru/SeneddCYPE