Ymgynghori ar ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cyhoeddwyd 20/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/12/2019

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn ymgynghori ar Fil drafft sy'n diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (PAWA 2013). Daw hyn yn dilyn galwadau dro ar ôl tro gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), ac Archwilydd Cyffredinol presennol a blaenorol Cymru, i ystyried diwygio rhai darpariaethau o Ddeddf 2013.

Ym mis Ionawr 2019, cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr achos dros ddiwygio PAWA 2013, o ystyried ei bod bellach wedi bod ar waith ers pum mlynedd.

Roedd gwaith craffu ar ôl deddfu gan y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ddau faes:
  • Trafod materion a godwyd gan ACC a SAC o ran PAWA 2013; gan gynnwys:
    • Codi ffioedd;
    • Trefniadau cworwm Bwrdd SAC;
    • Trefniadau adrodd SAC;
    • Problemau gyda gosod cyfrifon ac adrodd arnynt.
  • Ystyried pa fudd sydd o adolygu agweddau eraill ar PAWA 2013.
Yn sgil y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei ymchwiliad, mae'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod angen diwygiadau ar PAWA 2013 er mwyn gwella effeithlonrwydd swyddogaethau y mae SAC a'r Cynulliad yn ymgymryd â hwy.

Y Bil Drafft

Mae’r Bil drafft wedi ei rannu yn 3 rhan sy'n cynnwys 20 adran a 3 atodlen. Mae'r Bil yn cynnig diwygiadau i PAWA 2013 mewn perthynas â’r canlynol:
  • Codi ffioedd
  • Trefniadau cworwm Bwrdd SAC
  • Trefniadau adrodd SAC
  • Problemau gyda gosod adroddiadau a chyfrifon
  • Dyddiadau cau ardystio
  • Materion yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Cynulliad
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 7 Chwefror 2020.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol y canlynol:

“Roeddem yn teimlo mai nawr yw’r adeg briodol i adolygu’r ffordd y mae’r ddeddfwriaeth yn gweithredu, bum mlynedd ar ôl ei deddfu ac, o ystyried rôl y Pwyllgor ei hun wrth oruchwylio agweddau ar y ddeddfwriaeth, roeddem hefyd yn croesawu'r cyfle i fyfyrio ar y darpariaethau a osodwyd ar y Cynulliad.

“Er i ni glywed bod llawer o agweddau ar y ddeddfwriaeth yn gweithio'n effeithiol, cawsom ein perswadio gan y dystiolaeth a gafwyd bod rhai darpariaethau’n rhy gymhleth, yn gostus i'w gweinyddu neu'n anghymesur.

“Rydym wedi dod i'r casgliad bod angen diwygio'r ddeddfwriaeth ac rydym bellach yn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer newid deddfwriaethol, a nodir ym Mil ddrafft y Pwyllgor sy'n cyd-fynd â'n hadroddiad.

“Os bydd y dystiolaeth a gawn yn cefnogi'r newidiadau deddfwriaethol, bydd y Pwyllgor yn ystyried cyflwyno Bil Pwyllgor yn y Cynulliad hwn."