Ymgynghoriad ar gyfraith arfaethedig i roi pwerau newydd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd 26/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/10/2015

Mae cynigion newydd a allai gryfhau pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael eu hystyried gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid fod yr Ombwdsmon yn cael pwerau mewn meysydd fyddai yn cynnwys:

  • Dechrau ei ymchwiliadau ei hun;
  • Derbyn cwynion llafar;
  • Ymdrin â chwynion ar draws y gwasanaethau cyhoeddus; ac
  • Ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat (mewn rhai amgylchiadau).

Mae'r Pwyllgor nawr yn ystyried deddfwriaeth ddrafft er mwyn cyflwyno hyn.

Mae'n gofyn i bobl ystyried y cynigion ac i ateb cwestiynau gan gynnwys:

  • A fyddai'r Bil drafft yn gwella effeithiolrwydd rôl yr Ombwdsmon? Os felly, sut?
  • Os oes rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil drafft, beth ydynt? Ac
  • A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil drafft?

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Mae'r Pwyllgor yn credu bod yr Ombwdsmon wedi perfformio'n dda hyd yma, ond yn teimlo y dylai ei rôl gael ei ehangu er mwyn ei diogelu rhag newidiadau yn y dyfodol a'i gwneud yn fwy ymatebol i anghenion pobl yng Nghymru.

"Dywedon ni hefyd y byddai angen deddfwriaeth newydd i wneud i hynny ddigwydd.

"Hoffem i bobl ystyried ein cynigion drafft a dweud wrthym a ydynt yn credu y byddant yn gweithio. Hoffem wybod hefyd a fyddai modd iddynt fod yn well ac, os felly, sut?"

Gellir gweld cynigion y Pwyllgor ar y dudalen hon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cynnwys lincs i'r adroddiad ar rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r cwestiynau y mae'r Pwyllgor yn eu gofyn fel rhan o'i ymgynghoriad.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gael yma.