Ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Cyhoeddwyd 07/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

7 Chwefror 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwahodd barn y cyhoedd ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

Cafodd y Bil ei gynnig gan Rhodri Glyn Thomas AC yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

Mae’r Bil, a gaiff ei ystyried gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn darparu ar gyfer defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol ac wrth i Gomisiwn y Cynulliad arfer ei swyddogaethau.

Yn unol ag egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol, nid yw’r Cynulliad na’r Comisiwn yn ddarostyngedig i drefniadau Mesur y Gymraeg 2011, felly mae Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd i reoli ei wasanaethau dwyieithog.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, “Dyma Fil cyntaf Comisiwn y Llywodraeth ers yr etholiad fis Mai y llynedd.

“Dim ond â thrafodion a rheolaeth fewnol y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad yn unig y mae’n berthnasol a’r nod y tu ôl iddo yw rhoi dyletswyddau’r ddau gorff, o ran darparu gwasanaethau dwyieithog, ar sail gyfreithiol gadarn.

“Mae’r Pwyllgor yn croesawu barn ar gynnwys y Bil ac o ran a fydd yn cyflawni amcanion y Comisiwn.”

Mae’r Pwyllgor hefyd yn gofyn i bobl fynegi barn am Gynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft a baratowyd gyda’r Bil.

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth ei hanfon at: Pwyllgor.CCLlL@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA.  

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a Chynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft a ddarparwyd gyda’r Bil yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, gan gynnwys yr aelodau ac ymchwiliadau cyfredol a blaenorol yma.