Ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gwaddol y Gemau Olympaidd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 02/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gwaddol y Gemau Olympaidd yng Nghymru  

2 Mai 2013

Mae un o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gwaddol y Gemau Olympaidd.

Bwriad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yw canolbwyntio’n benodol ar chwaraeon, ond o fewn cyd-destun ehangach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn fwy cyffredinol.

Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried y meysydd canlynol mewn mwy o fanylder:

·       I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn cyflawni’r nodau a amlinellwyd yn y Rhaglen Lywodraethu, yn y cynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol ac yn y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru o ran lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon;

·       I ba raddau y mae setiau data ac ystadegau ar gael ar gyfer mesur lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon, yn enwedig rhai a gaiff eu dadgyfuno yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol;

·       Y cyfleoedd a’r rhwystrau y mae gwahanol grwpiau o bobl yn eu hwynebu o ran cymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol;

·       Beth yw’r cysylltiadau rhwng rhaglenni ar gyfer datblygu chwaraeon yng Nghymru a mentrau eraill Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol; ac

·       Effaith gwaddol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Cwpan Ryder a digwyddiadau proffil uchel eraill ym maes chwaraeon yng Nghymru ar lefelau cyfranogi yng Nghymru.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Cafodd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd effaith ddofn ar y wlad gyfan ac roedd perfformiadau’r cystadleuwyr o Gymru yn ysbrydoledig,”

“Ond mae bloeddio’r tyrfaoedd wedi hen dawelu ac mae’r Pwyllgor eisiau darganfod sut y defnyddiwyd yr ysbrydoliaeth a’r brwdfrydedd hynny ac y manteisiwyd arnynt.  

“Byddwn hefyd yn ystyried pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a pha gyfleoedd a rhwystrau sy’n bodoli ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl.”

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad naill ai anfon e-bost at: pwyllgor.CCLll@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol  

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

Dylai unrhyw gyfraniadau gyrraedd cyn dydd Gwener 31 Mai. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.