Ymgynghoriad yn cael ei gynnal ledled Cymru wrth i Gomisiwn y Cynulliad fabwysiadu ymagwedd newydd tuag at ei wasanaethau dwyieithog

Cyhoeddwyd 22/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymgynghoriad yn cael ei gynnal ledled Cymru wrth i Gomisiwn y Cynulliad fabwysiadu ymagwedd newydd tuag at ei wasanaethau dwyieithog

22 Medi 2011

Ar hyn o bryd, mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn i bobl Cymru ddweud eu dweud am y fframwaith newydd i reoli ei wasanaethau dwyieithog.

Fel rhan o’r broses, bydd gweithdai’n cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o Gymru y mis hwn (Medi) er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl gael dweud eu dweud am y cynigion.

Byddai Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) yn gwneud darpariaeth ar gyfer y defnydd o Gymraeg a Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad a busnes Comisiwn y Cynulliad.

Byddai’r Bil hwn yn gosod dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i gyflwyno Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog sy’n nodi’r fframwaith a fyddai’n rheoli ei wasanaethau dwyieithog.

Cynhelir y gweithdai fel a ganlyn:

  • 26 Medi yn swyddfeydd y Cynulliad, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, rhwng 9.30 a 11.30;

  • 26 Medi yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, rhwng 15.00 a 17.00; a

  • 28 Medi yn y Pierhead, Bae Caerdydd, rhwng 9.30 a 11.30.

Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, a Keith Bush, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad, fydd yn cadeirio’r sesiynau.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas: “Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft a’r cynllun iaith arfaethedig yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog mewn ffordd arloesol i sicrhau bod trafodion a gwaith y Cynulliad mor hygyrch â phosibl i bawb yng Nghymru.

“Fel rhan o’n hymrwymiad, rydym am glywed barn cynifer o bobl â phosibl, o bob rhan o Gymru. Dyna pam ein bod yn cynnal y sesiynau hyn mewn gwahanol rannau o’r wlad.”

Ar ôl cyflwyniad gan y Comisiynydd a Mr Bush, bydd aelodau’r gynulleidfa’n gallu gofyn cwestiynau. Yn unol ag ymrwymiad y Comisiwn i ddwyieithrwydd, gall y gynulleidfa gymryd rhan yn Gymraeg a Saesneg, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Gall aelodau’r cyhoedd archebu lle yn y gynulleidfa ar gyfer unrhyw un o’r sesiynau drwy alw llinell archebu’r Cynulliad ar 0845 0105500.

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn parhau drwy fis Medi, a disgwylir i’r Bil a’r Cynllun fod yn barod i’w hystyried gan y Cynulliad tua diwedd y flwyddyn.

Gellir gweld y Bil a’r Cynllun drafft yma.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth anfon copi electronig ohoni at GwasanaethauDwyieithog@cymru.gov.uk gan ddefnyddio’r teitl ‘Ymgynghoriad-Gwasanaethau Dwyieithog’. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Rheolwr y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylid anfon unrhyw dystiolaeth erbyn 14 Hydref 2011. Efallai na fydd yn bosibl ystyried yr ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. Bydd Comisiwn y Cynulliad yn ystyried unrhyw sylwadau a gwelliannau yn ystod tymor yr hydref, cyn y cyflwynir y Bil i wneud gwaith craffu arno.