Ymgyrchydd byd-enwog ym maes cydraddoldeb i roi'r brif araith mewn cynhadledd a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 20/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymgyrchydd byd-enwog ym maes cydraddoldeb i roi'r brif araith mewn cynhadledd a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol

Bydd ymgyrchydd rhyngwladol blaenllaw ym maes cydraddoldeb yn rhoi'r brif araith yng Nghynhadledd Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, a gynhelir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Tachwedd.

Bydd Zarin Hainsworth, sydd wedi ymgyrchu dros hawliau menywod ledled y byd, yn dwyn y gynhadledd i ben gan roi'r brif araith.

Mae Mrs Hainsworth yn gyn Lywydd ar UNIFEM UK (Cronfa Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig i Fenywod) ac yn gyn Gadeirydd ar NAWO (Cynghrair Cenedlaethol Sefydliadau Menywod). Mae hi wedi gweithio gyda menywod busnes mewn lleoedd cyn belled i ffwrdd â Tanzania, Uganda ac Irac.

Dywedodd Mrs Hainsworth: "Mae gan fenywod drwy'r byd i gyd lawer i'w gynnig ar sail eu profiadau yn y gymuned, a gallant ei gynnig. Ond, er hynny, nid ydynt yn ymgeisio am swyddi cyhoeddus. Mae angen i systemau penodi cyhoeddus gydnabod y profiad a'r gallu eang y gellid eu defnyddio mewn gwasanaethau cyhoeddus, ond na chânt eu defnyddio fyth. Mae angen rhoi dulliau ar waith a gefnogir i sicrhau bod y system benodi yn annog menywod i ymgeisio am swyddi ac i aros ynddynt. Byddai ein cymdeithas yn un well o ganlyniad i hynny."

"Mae cynadleddau fel yr un hon yn cynnig cyfle arbennig inni ddysgu oddi wrth ein gilydd. Drwy glywed am yr hyn sy'n gweithio'n dda mewn mannau eraill, gallwn weld beth sy'n gweithio'n dda yng Nghymru a chael budd o hynny. Mae cyfarfod â gweithredwragedd o bob cefndir a dysgu ganddynt bob tro'n rhoi hwb anhygoel i mi. Rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad yn fawr."

Bydd y sesiwn gyda Mrs Hainsworth yn cael ei chynnal yn Siambr Hywel yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 22 Tachwedd, am 15.30.

Hon fydd y sesiwn olaf mewn cyfres o seminarau a gaiff eu cynnal drwy gydol y dydd. Bydd un o'r sesiynau hyn yn cael ei chadeirio gan yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru. Bydd y sesiwn hon yn gofyn a ddylai cymdeithas wneud mwy i annog cyfranogiad gan fenywod.

Bydd y panelwyr yn cynnwys Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty, Stephen Brooks o'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, a Norma Jarboe, a sefydlodd yr elusen Women Count.

Bydd sesiwn a fydd yn ystyried sut y mae menywod yn cael eu portreadu yn y cyfryngau yn cael ei chadeirio gan Carolyn Hitt, yr ysgrifenwr a darlledwr o Gymru. Yn ogystal, bydd Betsan Powys, golygydd gwleidyddol BBC Cymru, yn arwain sesiwn agored lle caiff cynrychiolwyr gyfle i holi panel a fydd yn cynnwys menywod blaenllaw ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: "Dros yr wyth mis diwethaf, rwyf wedi bod yn gwrando ar sylwadau gan fenywod ym mhum rhanbarth etholiadol Cymru.

"Er ein bod wedi cymryd camau bras o ran cyfranogiad menywod ym mywyd cyhoeddus dros y ddegawd ddiwethaf, mae'n amlwg o'r sesiynau hyn bod angen gwneud llawer mwy o waith o ran annog menywod i wneud cyfraniad.

"Nid yw menywod yn well na dynion, ond maent yn wahanol. Felly, gallant fynegi safbwynt gwahanol a phwysig dros ben ar fywyd cyhoeddus—safbwynt sy'n cael ei golli'n aml.

"Mae nifer o fenywod wedi dweud wrthyf fod problemau'n dal i fodoli o ran hyder, taro cydbwysedd rhwng bywyd yn y cartref a bywyd yn y gwaith, canfyddiadau o fenywod ym mywyd cyhoeddus, a sut y mae menywod yn cael eu portreadu yn y cyfryngau.

"Dyna pam y penderfynais ddechrau trafodaeth genedlaethol ar y mater hwn, fel un o'm gweithrediadau cyntaf fel Llywydd y Cynulliad. Gobeithiaf y bydd y fforwm trafod undydd hwn, y byddaf yn ei gynnal yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn sicrhau bod y materion hyn yn esgyn i frig yr agenda ac yn sicrhau bod atebion yn cael eu canfod i'r problemau hyn."

Cynhelir y sesiynau hyn yn Siambr Hywel, siambr drafod wreiddiol y Cynulliad Cenedlaethol, yn Nhy Hywel ar Stryd y Pierhead, Caerdydd.