Ymweliad Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC â gogledd Cymru

Cyhoeddwyd 01/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymweliad Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC â gogledd Cymru

Mi wnaeth Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gwrdd â nifer o fudiadau gogledd Cymru brynhawn Iau, 13 Hydref 2011.

Cynhaliwyd y derbyniad yn swyddfa’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Colwyn a hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a gaiff eu cynnal ym mhob un o’r pum rhanbarth yng Nghymru.

Rhoddodd y derbyniad gyfle i Lywydd y Cynulliad gwrdd â phobl a meithrin cysylltiadau ar gyfer y dyfodol.

Ddydd Gwener 14 Hydref 2011, treuliodd y Llywydd fore yng nghwmni rhai o aelodau cynghorau ysgol gogledd Sir Ddinbych yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.

Cymerodd ddeuddeg disgybl o Ysgolion Y Rhyl, Prestatyn, Blessed Edward Jones a Glan Clwyd ran mewn trafodaeth am rôl pobl ifanc mewn democratiaeth.

Roedd Bws Allgymorth y Cynulliad hefyd yn Ysgol Glan Clwyd a daeth llawer o ddisgyblion ar ei bwrdd er mwyn dysgu am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.