Ymwelwyr â’r Sioe Frenhinol yn cael eu hannog i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol
24 Gorffennaf 2012
Bydd ymwelwyr â maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn cael cyfle i ddysgu rhagor am waith Cynulliad Cymru a chyfle i gwrdd ag Aelodau’r Cynulliad yn ystod yr wythnos (rhwng 23 a 26 Gorffennaf).
Ddydd Mawrth 24 Gorffennaf, bydd ymwelwyr â bws allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol ar faes y sioe yn cael dau gyfle i gwrdd â William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, i ddysgu rhagor am y broses ddeisebu a sut y gallant gyflwyno deiseb i’w hystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Mae’r broses ddeisebu’n gyfle i’r cyhoedd ddod ag ystod o faterion i’n sylw fel aelodau’r Pwyllgor ac i ymgymryd yn uniongyrchol â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol.”
“Mae deisebau’n ddull effeithiol o ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ystyried mater sy’n effeithio ar Gymru ac y mae ganddo’r pwer i wneud rhywbeth yn ei gylch.”
“Edrychaf ymlaen at gwrdd ag ymwelwyr â maes y Sioe Frenhinol ac at esbonio gwaith y Pwyllgor mewn rhagor o fanylder.”
Bydd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hefyd ar y bws allgymorth ddydd Mawrth 24 Gorffennaf. Bydd yn cynnal sesiwn galw heibio i drafod Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
Mae Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn cynnwys darpariaeth i awdurdodau bwyd weithredu cynllun sgorio hylendid bwyd ac yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn eu sefydliadau. Mae egwyddorion cyffredinol y Bil yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor ar hyn o bryd.
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae hylendid bwyd yn fater pwysig i’r cyhoedd yng Nghymru, ac wedi bod yn bwnc emosiynol ers yr achosion o E.coli yn 2005.”
“Dyma’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gael ei ystyried gan aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.”
“Rwy’n awyddus i drafod y Bil hwn gydag ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru ac i glywed eu barn a’u syniadau am y mater.”