Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn galw am gyfathrebu’n well â phobl Cymru

Cyhoeddwyd 18/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn galw am gyfathrebu’n well â phobl Cymru

Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn galw heddiw am fwy o eglurder wrth ddisgrifio swyddogaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Wrth siarad ar 10fed penblwydd y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru,  bydd yn dweud mai nawr yw’r amser i fabwysiadu’r termau “Cynulliad Cenedlaethol” a “Llywodraeth Cymru” i’w gwneud hi’n haws i bobl ddeall y gwahanol swyddogaethau. Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn annerch Aelodau’r Cynulliad, newyddiadurwyr a chefnogwyr yr ymgyrchoedd Ie a Nage mewn derbynfa yn y Senedd ar ôl y cyfarfod llawn heddiw. Bydd yn croesawu’r pwerau newydd a roddwyd i’r Cynulliad yn Neddf Llywodraeth Cymru, gan ddweud eu bod yn gam sylweddol ymlaen ers y setliad datganoli cyntaf, a oedd â diffygion difrifol ac a oedd yn gyfyngedig o ran yr hyn y gellid ei gyflawni ar ran etholaeth Cymru. Bydd hefyd yn dweud ei bod hi gryn dipyn yn haws cyfathrebu â phobl Cymru ar ôl i’r Ddeddf newydd wahanu’r Cynulliad a’r Llywodraeth yn ffurfiol, ond bod angen i’r ddau gorff yn awr dderbyn yr her. “Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i egluro’n swyddogaethau a’n cyfrifoldebau. Sut fedrwn ni ddisgwyl i’r cyhoedd ein dal i gyfrif ac i gymryd rhan lawn yn nemocratiaeth Cymru pan mae cymaint o ddryswch rhwng y ddeddfwriaeth, y Cynulliad, a’r Weithrediaeth, y Llywodraeth. Onid yw hi’n hen bryd i ni’n awr ddefnyddio termau cliriach wrth gyfeirio atom ni’n hunain ac at ein gilydd er mwyn i Gymru symud ymlaen fel y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.”