Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill

Cyhoeddwyd 05/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

  • Diweddarwyd ddiwethaf: Hydref 2023
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno
  • Ffeiliau PDF

 

Mae'r dudalen hon yn rhan o gyfres sy'n cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r holl Reolau a Chanllawiau Cysylltiedig.

Ymweld y gyfres lawn

 

 

Mae'r Canllawiau yn cynnwys y naw adran ganlynol a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd:

 

1. Cyflwyniad

1. Diben y canllawiau hyn yw cynorthwyo Aelodau o'r Senedd i gyflawni eu dyletswyddau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol ac eraill, fel y nodir o dan Adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ('Deddf 2006') a Rheolau Sefydlog y Senedd. Mae hefyd yn cynnwys manylion am fuddiannau y mae'n rhaid i'r Aelodau gyflwyno adroddiad ar wahân arnynt i'r Comisiwn Etholiadol.

2. Nid yw'r canllawiau hyn, fodd bynnag, yn disodli Deddf 2006, na Rheolau Sefydlog y Senedd, y mae'n rhaid i'r Aelodau gydymffurfio â hwy wrth gofrestru eu buddiannau a'u haelodaeth yn y lle cyntaf, ac wrth eu hadolygu wedyn, a'u datgan a'u cofnodi. Sylwer hefyd na all unrhyw ganllawiau ysgrifenedig ddarparu ar gyfer pob amgylchiad, ac na ddylid ystyried yr enghreifftiau yn y canllawiau hyn yn rhestr gynhwysfawr.

3.  Nid yw'r canllawiau hyn yn cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â chyflogi aelodau o'r teulu, na'r rheolau ynghylch rhan Aelodau mewn lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth. Mae'r rhain ar gael ar wahân yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ynghylch Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn a Chanllawiau ar Lobïo a Mynediad at Aelodau o'r Senedd.

4. Mae cyfeiriadau yn y canllawiau hyn at drafodion y Senedd yn golygu unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

2. Y Cefndir a'r Fframwaith Statudol

5. Mae Adran 36 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol bod Rheolau Sefydlog y Seneddyn cynnwys darpariaeth ar gyfer cofrestr o fuddiannau'r Aelodaua bod y gofrestr honno i'w chyhoeddi ac ar gael i'r cyhoedd. Mae'r Ddeddf hefyd yn pennu categorïau penodol o fuddiant y mae'n rhaid ymdrin â hwy yn unol â Rheolau Sefydlog y Senedd. Hefyd, mae Deddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan buddiannau ariannol a buddiannau eraillar lafar (rhaid nodi hynny yn y Rheolau Sefydlog) cyn cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd sy'n ymwneud â'r mater hwnnw. Ar hyn o bryd mae'r darpariaethau hyn wedi'u nodi yn Rheol Sefydlog 2, yr Atodiad i Reol Sefydlog 2, a Rheolau Sefydlog 13.8A ac 17.24A. Y prif elfennau yw:

  • 2.1 - cofrestru buddiannau mewn cofrestr sy'n agored i'w harchwilio gan y cyhoedd;
  • 2.6 - datgan buddiannau cofrestradwy cyn i Aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd;
  • 2.9 - gwaharddiad ar bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant y mae'n ofynnol ei gofrestru neu ei ddatgan lle bo'r penderfyniad yn debygol o arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, sy'n fwy na'r fantais a ddaw i ran yr etholwyr yn gyffredinol;
  • 13.8A and 17.24A – datgan buddiannau perthnasol ar yr adeg briodol yn ystod unrhyw rai o drafodion y Senedd.

6. Trafodir y darpariaethau hyn yn fanwl ym Mhenod 5.

7. Yn ychwanegol at y gofynion a nodir o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi buddiannau penodol eraill yn unol â Rheolau Sefydlog 3, 4, a 5. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 8 o'r canllawiau hyn.

8. Yn unol â Rheol Sefydlog 22.2, Pwyllgor Cyfrifol (Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar hyn o bryd) sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o lunio a chynnal y gofrestr a'r canllawiau perthnasol, a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd. Mae rhagor o wybodaeth am rôl y Pwyllgor Cyfrifol yn Adran 3.2.

9. Yn ogystal â'r dyletswyddau a nodir yn Neddf 2006 ac yn Rheolau Sefydlog y Senedd, mae cyfrifoldeb statudol ar yr Aelodau i wirio, cofnodi ac adrodd rhai buddiannau'n uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol, fel y nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ('PPERA 2000') ac, os ydynt yn ymgeiswyr etholaethol, i hysbysu am roddion a gafwyd tuag at y gwariant ar eu hymgyrch etholiadol o dan Orchymyn Senedd Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Gorchymyn 2007). Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 6.

3. Methiant i gydymffurfio, a'r drefn gwyno

10. Yr Aelodau unigol sy'n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â gofynion Rheolau Sefydlog 2 i 5, ond gallant ofyn cyngor y Llywydd, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, neu Gofrestrydd Buddiannau'r Aelodau (drwy Swyddfa Gyflwyno'r Senedd). Priodol felly yw i'r canllawiau hyn amlinellu'r trefniadau ar gyfer gorfodi a chosbi mewn achosion o beidio â chydymffurfio.

3.1. Beth fydd yn digwydd os na chydymffurfir â'r rheolau?

11. Mae Adran 36(7) o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn drosedd i Aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodion heb fod wedi cydymffurfio â'r gofynion yn Rheol Sefydlog 2.

12. Mae Aelod sy'n euog o drosedd o'r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.  Ni all erlyniad ar sail peidio â chydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog gael ei gychwyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ei hun, neu gyda'i ganiatâd.

13. Mae protocol ar gyfer delio â chwynion am weithredu'n groes i adran 36(7) o'r Ddeddf wedi'i gytuno rhwng y Senedd, y Comisiynydd Safonau a'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. Mae protocol yn ffurfio rhan o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd a’r Dogfennau Cysylltiedig.

3.2. Rôl y 'pwyllgor cyfrifol'

14. Mae Rheol Sefydlog 22 yn nodi rôl y Pwyllgor Cyfrifol (Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar hyn o bryd) mewn perthynas â'r materion yr ymdrinnir â hwy yn y canllawiau hyn. Ei brif rôl yw ymchwilio i unrhyw gŵyn a gaiff ei chyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau, llunio adroddiad ar y gŵyn ac, os yw hynny'n briodol, argymell camau gweithredu. Os cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifol ynghylch methiant i gydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, neu unrhyw benderfyniad gan y Senedd sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau, caiff y Senedd benderfynu gwahardd Aelod am gyfnod penodol, tynnu hawliau a breintiau oddi arno, neu ei geryddu.

15. Yn ystod y cyfnod tra bo'r Aelod wedi ei wahardd nid oes hawl gan yr Aelod i dderbyn unrhyw gyflog gan y Senedd ac nid oes hawl ganddo neu ganddi i fynychu'r Senedd nac unrhyw un o'i bwyllgorau na'i is-bwyllgorau. O dan Reol Sefydlog 22.10(ii) caiff y Pwyllgor Cyfrifol ddewis tynnu'n ôl unrhyw hawliau neu freintiau eraill sy'n gysylltiedig â bod yn Aelod o'r Senedd, fel y nodir yn y gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 22.2(iv). Mae'r sancsiynau uchod yn ychwanegol at y posibilrwydd o erlyniad o dan adran 36(7) o Ddeddf 2006.

3.3. Gweithdrefnau cwyno

16. Mae'r trefniadau ar gyfer cwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd wedi'i nodi yng ngweithdrefn Senedd Cenedlaethol Cymru ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, sydd ar gael ar wefan y  Senedd a gwefan y Comisiynydd Safonau.

17. Rhaid i'r Comisiynydd Safonau wneud ymchwiliad cychwynnol i gwynion am ymddygiad Aelodau o'r Senedd. Dylid cyfeirio cwynion, boed y rheini gan Aelodau o'r Senedd neu aelodau o'r cyhoedd, at y Comisiynydd Safonau ar ffurf ysgrifenedig gan ddefnyddio'r manylion cysylltu canlynol. Nid yw cydnabyddiaeth bod cwyn wedi'i derbyn gan y Comisiynydd Safonau i'w dehongli fel arwydd bod yna achos i ymchwilio iddo.

Y Comisiynydd Safonau
Senedd
Bae Caerdydd
CF99 1SN

E-bost: comisiynydd.safonau@senedd.cymru

Tel: 0300 200 6542

18. Dylai Aelodau fod yn ymwybodol bod Adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau 2009 hefyd yn gosod dyletswydd ar y Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd i gyfeirio mater at y Comisiynydd, os oes gan y Clerc sail resymol dros amau:

  • bod ymddygiad Aelod y Senedd, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
  • bod yr ymddygiad dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o Ddeddf 2006 (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu'r Comisiwn).
4. Cofrestr Buddiannau'r Aelodau: Gwybodaeth Gyffredinol

4.1. Pwrpas y Gofrestr o Fuddiannau'r Aelodau

19. Pwrpas y Gofrestr o Fuddiannau'r Aelodau ('y gofrestr') yw rhoi gwybod ar sail barhaus i Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd am y buddiannau ariannol hynny a buddiannau eraill y gellid tybio'n rhesymol eu bod yn dylanwadu ar ymddygiad neu weithredoedd yr Aelodau yn y Senedd.

20. Nid gofynion dewisol na gwirfoddol mohonynt. Fel y sonnir ym Mhennod 3, mae cymryd rhan mewn trafodion, heb gofrestru'r buddiannau a bennir ym mharagraff 5 o'r atodiad i Reol Sefydlog 2, yn drosedd o dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

4.2. Sut mae cofrestru buddiant?

21. Gall Aelodau gofrestru buddiant drwy lenwi a llofnodi ffurflen Gofrestru a Chofnodi Buddiant, sydd ar gael ar wefan y Senedd.

22. Mae modd cofrestru buddiant sy'n ymwneud â chyflogi aelodau o'r teulu gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd drwy lenwi’r ffurflen Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu sydd ar gael ar yr un dudalen. Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau sy'n ymwneud â chyflogi aelodau o'r teulu wedi'i nodi yn adran 8.1 o'r ddogfen hon ac yn y Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ynghylch Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn.

4.3. Pryd ddylech lenwi ffurflen?

23. O dan Reolau Sefydlog 2.3 a 5.5, mae'n rhaid i'r Aelodau lenwi ffurflen gofrestru a chofnodi buddiant, ei llofnodi a'i chyflwyno cyn pen wyth wythnos ar ôl tyngu'r llw neu roi'r cadarnhad.

24. Cyfrifoldeb yr Aelodau wedyn yw rhoi gwybod am newidiadau yn eu buddiannau cofrestradwy a chofnodadwy cyn pen pedair wythnos ar ôl pob newid. Oherwydd hyn, cynghorir yr Aelodau i adolygu eu cofrestr buddiannau'n rheolaidd.

25. Gallai methu â chydymffurfio â'r amserlenni hyn mewn perthynas â'r gofynion o dan Reol Sefydlog 2, fod yn drosedd o dan Adran 36 o Ddeddf 2006.

4.4. Sut y dylai eich ffurflen gael ei llenwi?

26. Caiff y ffurflen ei llenwi ar-lein ar fewnrwyd yr Aelodau, a'i chyflwyno'n electronig.

27. Mae'r ffurflen ar-lein wedi'i dylunio fel y gellir ei llenwi naill ai gan yr Aelod ei hun, neu gan aelod o staff cymorth. Os caiff y ffurflen ei llenwi gan aelod o staff, mae’n rhaid iddi gael ei hawdurdodi gan yr Aelod cyn ei chyflwyno i'r Swyddfa Gyflwyno.

4.5. Beth fydd yn digwydd wedyn?

28. Ar ôl i’r ffurflen ddod i law, bydd ei manylion yn cael eu cyhoeddi ar y gofrestr ar-lein cyn gynted â phosibl a bydd copi o'r ffurflen a gyflwynwyd yn cael ei ffeilio gan y Swyddfa Gyflwyno.

29. Mae cynnwys y gofrestr ar gael i'w cyhoedd ei weld. Cyhoeddir fersiwn ar-lein wedi'i diweddaru o gofrestr Aelod ar wefan y Senedd cyn gynted â phosibl ar ôl i gofnod cofrestr ddod i law, a chyhoeddir cofrestr wedi'i llunio unwaith y tymor. Gellir sicrhau bod copïau o'r ffurflenni a gyflwynir gan yr Aelodau ar gael drwy'r Swyddfa Gyflwyno ar gais.

30. Mae'r fersiwn ar-lein o'r gofrestr hefyd yn cynnwys manylion am gyflogaeth aelodau o'r teulu (Rheol Sefydlog 3), yr amser a dreulia'r aelod ar 'weithgarwch cofrestradwy' (Rheol Sefydlog 4) ac aelodaeth o gymdeithasau (Rheol Sefydlog 5).

4.6. Pwy all eich helpu?

31. Mae'r Swyddfa Gyflwyno wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau gan Aelodau mewn perthynas â'r rheolau hyn. Fodd bynnag, yr Aelodau eu hunain yn unig sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r gofynion o ran cofrestru a chofnodi buddiannau. Dylai'r Aelodau nodi hefyd na all y canllawiau hyn nac unrhyw gyngor a roddir yn ddiweddarach fod yn ddehongliad pendant o ofynion Deddf 2006 a'r Rheolau Sefydlog, oherwydd y llysoedd piau'r dehongliad cyfreithiol terfynol.

32. Gweler isod fanylion cyswllt y Swyddfa Gyflwyno:

Y Swyddfa Gyflwyno
Trydydd Llawr, Tŷ Hywel
Senedd
Bae Caerdydd
CF99 1SN

E-bost: swyddfagyflwyno@senedd.cymru

Tel: 0300 200 6542

5. Beth ddylai gael ei gofrestru?

33. Yn unol â'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 rhaid i Aelodau o'r Senedd gofrestru eu buddiannau yn y categorïau canlynol (a elwir yn 'fuddiannau cofrestradwy').

34. Cyn ystyried y manylion, dylai'r Aelodau nodi'r ddau ofyniad cyffredinol yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2:

  • Rhaid i unrhyw weithgarwch y ceir tâl amdano ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a chynghori ac ymgynghori gwleidyddol mewn perthynas â swyddogaethau'r Senedd, gael ei gynnwys yng nghategori 2;
  • Mae mwyafrif y buddiannau a bennir yn y categorïau isod yn cynnwys cyfeiriad at fuddiannau y meddir arnynt yn annibynnol gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod neu a roddir iddynt, a rhaid cofrestru'r rhain hefyd os yw'r buddiannau hynny yn hysbys i'r Aelod.

35. Yn ogystal â'r gofynion statudol i gofrestru buddiannau o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi buddiannau mewn perthynas â Rheol Sefydlog 3 (Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn), Rheol Sefydlog 4 (Cofnodi Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy), a Rheol Sefydlog 5 (Cofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau). Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 8.

36. Mae diffiniadau o 'partner' a 'plant dibynnol' yn yr Eirfa ar ddiwedd y canllaw hwn.

5.1. Categori 1: Swyddi Cyfarwyddwyr

Swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan yr Aelod neu hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, mewn cwmnïau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr nad ydynt yn cael tâl amdanynt yn unigol ond lle telir cyflog drwy gwmni arall yn yr un grŵp.

37. Yn y categori hwn, ac mewn categorïau eraill perthnasol, cynghorir Aelodau i gynnwys fel "tâl" nid yn unig gyflogau a ffioedd, ond hefyd unrhyw dreuliau, lwfansau a buddion trethadwy a dderbynnir, megis car cwmni.

38. Dylai Aelod ddatgan enw'r cwmni y mae'n dal swydd cyfarwyddwr ynddo a rhoi disgrifiad bras o fusnes y cwmni, lle nad yw hynny'n amlwg o'i enw.

39. Yn ychwanegol at unrhyw swyddi cyfarwyddwyr am dâl, mae gofyn hefyd i Aelodau gofrestru unrhyw swyddi cyfarwyddwyr y maent yn eu dal ac sydd eu hunain heb dâl ond lle mae'r cwmnïau dan sylw yn gysylltiedig â, neu'n is-gwmnïau o, gwmni y mae ganddo ef neu ganddi hi swydd cyfarwyddwr am dâl ynddo.

40. Mae'r buddiannau sydd wedi'u cofrestru o dan Gategori 1 yn cael eu hystyried i fod yn 'weithgarwch cofrestradwy'. Felly, rhaid i'r Aelodau ddatgan y buddiannau hyn hefyd o dan Reol Sefydlog 4. Rhaid i hysbysiad o dan Reol Sefydlog 4 sy'n ymwneud â chofnodi'r amser a dreulir ar fuddiannau cofrestradwy, gael ei wneud ar yr un pryd â chofrestriad o dan Gategori 1. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion a nodir yn Rheol Sefydlog 4 ym Mhennod 8 y canllawiau hyn.

5.2. Categori 2: Cyflogaeth, Swydd, Proffesiwn ayyb. am dâl

Cyflogaeth, swydd, masnach, proffesiwn neu alwedigaeth (heblaw aelodaeth o'r Senedd) y mae'r Aelod neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod, yn cael tâl amdanynt, neu y mae gan yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed unrhyw fuddiant ariannol ynddynt.

41. Yn y categori hwn, dylid rhoi manylion unrhyw gyflogaeth y tu allan i'r Senedd ac unrhyw ffynonellau tâl nad ydynt yn disgyn yn glir o fewn unrhyw gategori arall.

42. O ran cyflogaeth, dylai Aelodau ddatgan y cyflogwr neu'r cwmni, natur y busnes, a nodi natur y swydd sy'n cael ei dal yn y cwmni neu'r gwasanaethau y mae'r cwmni yn talu iddynt amdanynt. Dylai Aelodau sydd â swyddi â thâl fel ymgynghorwyr neu gynghorwyr nodi natur yr ymgynghoriaeth, er enghraifft "ymgynghorydd rheoli", "cynghorydd cyfreithiol", "ymgynghorydd seneddol a materion cyhoeddus".

43. Os bydd yr Aelod, neu bartner yr Aelod, yn derbyn arian cyhoeddus, yna dylid nodi hynny hefyd, ynghyd â ffynhonnell yr arian hwnnw (ee graniau ffermio neu chelfyddydau ac ati), ond nid oes yn rhaid datgelu faint a dderbyniwyd. Nid yw 'arian cyhoeddus', at ddibenion y categori hwn, yn cynnwys cyflogau yn y sector cyhoeddus, ac felly nid oes angen i Aelodau ddatgan hefyd bod person a gyflogir yn y sector cyhoeddus (ee athrawon, nyrsys ac ati) yn derbyn arian cyhoeddus. Fodd bynnag, dylid cynnwys unrhyw arian cyhoeddus a dderbyniwyd gan y rhai a gyflogir mewn proffesiynau o'r fath, ac eithrio cyflog (er enghraifft drwy waith contractiol ychwanegol).

44. Yn y categori hwn rhaid cynnwys unrhyw weithgaredd am dâl ym maes cysylltiadau cyhoeddus, a gwaith cynghori ac ymgynghori gwleidyddol sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Senedd.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgaredd am dâl sy'n gysylltiedig ag unrhyw drafodion yn y Senedd, pwyllgor neu is-bwyllgor, noddi digwyddiadau yn adeiladau'r Senedd a chyflwyno sylwadau i Gabinet y Senedd neu unrhyw rai o'i aelodau.  Dylai Aelodau o'r Senedd ofalu nad yw gweithgaredd o'r fath am dâl yn mynd yn groes i'r gwaharddiad ar lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth. (Mae rhagor o wybodaeth am reolau'r Senedd mewn perthynas â lobïo ar gael yn y Canllawiau ar Lobïo a Mynediad at Aelodau o'r Senedd).

45. O dan y categori hwn, mae angen cofrestru hefyd fanylion cytundebau sy'n golygu darparu gwasanaethau am dâl yn rhinwedd swydd yr Aelod fel Aelod y Senedd.

46. Mae'r buddiannau sydd wedi'u cofrestru o dan Gategori 2 yn cael eu hystyried i fod yn 'weithgarwch cofrestradwy'. Felly, rhaid i'r Aelodau ddatgan y buddiannau hyn hefyd o dan Reol Sefydlog 4. Dylid datgan y buddiannau o dan Reol Sefydlog 4 ar yr un pryd a chofrestru'r buddiannau o dan Gategori 2. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion a nodir yn Rheol Sefydlog 4 ym Mhennod 8 y canllawiau hyn.

5.3. Categori 3: Enwau Cleientiaid (Gwasanaethau)

O ran Categorïau 1 (Swyddi Cyfarwyddwyr) a 2 (cyflogaeth, swydd, proffesiwn etc am dâl), mae hefyd yn ofynnol bod Aelodau'n cofrestru enwau cleientiaid pan fydd y buddiannau y cyfeirir atynt uchod yn cynnwys gwasanaethau gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu gan unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod sy'n hŷn nag 16 oed, sy'n deillio o'i aelodaeth o'r Senedd, neu sy'n gysylltiedig â hynny mewn unrhyw fodd.

47. Mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth am dâl a gofrestrwyd/datganwyd yng Nghategori 1 (Swyddi Cyfarwyddwyr) a Chategori 2 (Cyflogaeth, Swydd, Proffesiwn, ac ati am dâl), dylai unrhyw wasanaethau a ddarperir sydd a wnelont â, neu sy'n deillio o, sefyllfa'r Aelod fel Aelod gael eu cofrestru o dan y categori hwn.

48. Dylid rhestru enwau pob cleient gan gynnwys cwmnïau a phartneriaethau y darperir gwasanaethau iddynt gyda'i gilydd ynghyd â natur busnes y cleient ym mhob achos. Lle bo Aelod neu hyd y gŵyr yr Aelod, bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed, yn derbyn tâl gan gwmni neu bartneriaeth sy'n gweithio mewn busnes ymgynghoriaeth ac sydd â'i gleientiaid neu ei chleientiaid ei hun, dylai'r Aelod restru unrhyw rai o'r cleientiaid hynny y darperir gwasanaethau neu gyngor iddynt, un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

49. Mae'r mathau o wasanaethau y bwriedir eu cynnwys yma yn cynnwys y rheini sy'n gysylltiedig ag unrhyw drafodion yn y Senedd, neu wasanaethau eraill sydd a wnelont ag aelodaeth.  Os oes gan Aelod neu hyd y gwyr yr Aelod, bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed, gleientiaid drwy gymhwyster proffesiynol nad oes a wnelo â'r Senedd (er enghraifft fel meddyg, cyfreithiwr neu gyfrifydd) nid oes gofyn i'r Aelod gofrestru enwau'r cleientiaid hynny, cyhyd â'i bod yn glir y tu hwnt i unrhyw amheuaeth nad yw'r gwasanaethau a ddarperir yn cael eu darparu nac yn ymwneud mewn unrhyw fodd â swydd yr Aelod fel Aelod Senedd.

50. O dan y categori hwn, os cyflogir Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod sydd dros 16 oed, fel cynghorydd Senedd gan gwmni sydd ei hun yn ymgynghoriaeth ac sydd felly yn darparu cyngor a gwasanaethau o'r fath i'w gleientiaid, dylai'r Aelod ddatgelu'r rheini o blith cleientiaid yr ymgynghoriaeth y mae ganddo ef neu ganddi hi gyswllt uniongyrchol â hwy i'r diben o ddarparu cyngor neu wasanaethau sy'n ymwneud â'r Senedd neu sy'n elwa yn sgil darparu cyngor neu wasanaethau o'r fath. Lle'r enwir cwmni neu bartneriaeth fel cleient, dylid nodi natur busnes y cwmni neu bartneriaeth.

5.4. Categori 4: Rhoddion, Lletygarwch, Buddion Materol neu Fantais Faterol

Rhoddion, lletygarwch, buddiannau materol neu fantais faterol, y mae eu gwerth yn uwch na'r hyn a bennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd, a geir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gan gwmni, corff neu unigolyn mewn perthynas ag aelodaeth o'r Senedd neu'n deillio o hynny.

Gwerth presennol y rhoddion, lletygarwch, y buddiannau materol neu'r fantais faterol, y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru yw 0.5 y cant o gyflog blynyddol crynswth sylfaenol Aelod (£350 ydyw ar hyn o bryd).

Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai'r Aelodau sylweddoli, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, fod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un rhoddion, lletygarwch, buddiannau materol neu fantais faterol ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 6.

51. Ar 10 Mai 2006, penderfynodd y Cynulliad [Cofnod y Trafodion] mai'r gwerthoedd ariannol penodedig y mae'n rhaid cofrestru rhoddion, lletygarwch ac unrhyw fuddiannau eraill uwchlaw iddynt yw £350. Ar wahân i roddion a lletygarwch, gallai buddiannau materol neu fantais faterol gynnwys rhyddhau rhag dyled, benthyciadau gostyngol, darparu gwasanaethau, ac ati.

52. Dylid cofrestru unrhyw rodd, neu fuddiant, sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag aelodaeth o'r Senedd ac a roddir am ddim, neu am gost is nag sydd ar gael i aelodau'r cyhoedd fel arfer, pa bryd bynnag y mae gwerth y rhodd neu'r buddiant yn fwy na'r swm a bennir uchod.  Dylid cofrestru hefyd unrhyw rodd neu fuddiant cyffelyb a dderbynnir gan unrhyw gwmni neu gorff y mae gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, fuddiant rheolaethol ynddo.

53. Mae rhoddion a buddion materol yn y categori hwn (a chategorïau eraill) wedi'u heithrio rhag yr angen i gofrestru/datgan os nad ydynt yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag aelodaeth o'r Senedd.  O ganlyniad, nid oes angen cofrestru/datgan rhoddion a dderbynnir gan Aelod ar ran y Senedd cyfan cyhyd â'u bod yn cael eu trosglwyddo i'r Senedd ac y cedwir cofnod o berchnogaeth y Senedd o'r rhodd. Mater i'r Aelod unigol yw penderfynu yn y lle cyntaf a yw'r eithriad hwn yn berthnasol mewn unrhyw achos penodol. Os oes unrhyw ansicrwydd, dylid cofrestru'r rhodd.

54. Nid yw pensiynau ynddynt eu hunain yn gofrestradwy; fodd bynnag, gall Aelodau sy'n pryderu am dryloywder ddatgan buddiannau sy'n ymwneud ag incwm pensiwn o dan Reol Sefydlog 13.8A a 17.24A (lle gall Aelod ddatgan ar lafar unrhyw fuddiant perthnasol sydd gan yr Aelod neu aelod o'r teulu, neu fuddiant y mae'r Aelod neu aelod o'r teulu yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn).

5.5 Categori 5: Contractau gyda Comisiwn y Senedd neu Llywodraeth Cymru

Unrhyw dâl neu fudd materol y mae'r Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, yn ei gael gan unrhyw gwmni preifat neu gyhoeddus neu unrhyw gorff arall, sydd, hyd y gŵyr yr Aelod, wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontract gyda Chomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru neu sy'n meddu ar gontract o'r fath.

55. Dylai Aelodau gofrestru/datgan ffynhonnell pob tâl neu fudd materol a dderbynnir gan unrhyw gwmni neu gorff arall sydd, hyd y gŵyr yr Aelod, wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontractau gyda'r Senedd. Fel yn achos Categori 4 (Rhoddion, Lletygarwch, Buddiannau Materol neu Fantais Faterol), nid oes yn rhaid i Aelodau gofrestru incwm pensiwn o dan y categori hwn, nac o dan unrhyw gategori arall.

56. Mater i'r Aelod yw penderfynu beth sydd yn fuddiant materol, ond yn amlwg byddai angen i unrhyw roddion neu letygarwch nad ydynt yn gofrestradwy o dan Gategori 4 uchod ond a roddir gan gwmni sydd â chysylltiadau contractiol â'r Senedd gael ei nodi yn y categori hwn.

5.6. Categori 6: Nawdd Ariannol

Nawdd ariannol mewn perthynas â'r canlynol:

(a) fel ymgeisydd i'w ethol i'r Senedd, lle mae'r nawdd, hyd y gŵyr yr Aelod, mewn unrhyw achos yn fwy na 25 y cant o gostau etholiadol yr ymgeisydd; neu

(b) fel Aelod o'r Senedd gan unrhyw berson neu sefydliad, gan ddatgan a yw nawdd o'r fath yn cynnwys unrhyw daliad i'r Aelod neu unrhyw fuddiant materol neu fantais faterol.

Gofynion ychwanegol o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007:

  • Dylai'r Aelodau sylweddoli bod yn rhaid i unrhyw roddion dros £50 a roddir iddynt fel ymgeiswyr etholaethol i'w wario ar eu hymgyrch o dan Orchymyn 2007 ddod o ffynhonnell a ganiateir a chael eu datgan ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd ar ôl yr etholiad.

Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai Aelodau sylweddoli, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, fod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un nawdd ariannol ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhennod 6.

57. Mae'r categori hwn yn ymwneud â nawdd gan gwmnïau, undebau llafur, cyrff proffesiynol, cymdeithasau masnach a chyrff eraill. O dan y categori hwn a pharagraff 1 o destun cyffredinol yr atodiad i Reol Sefydlog 2, mae gofyn i'r Aelod gofrestru ffynhonnell unrhyw gyfraniad tuag at ei gostau etholiad ef neu ei chostau etholiad hi sydd yn fwy na 25 y cant o gyfanswm y costau hynny.

58. Dylai'r Aelodau sylweddoli fodd bynnag, na ellir defnyddio eu lwfansau a'u tâl fel Aelod Senedd at ddibenion etholiad. Yn ymarferol, golyga hyn na all Aelodau wneud cais i'r Senedd am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â deunydd etholiadol a threuliau eraill etholiad.

59. O dan y categori hwn, mae'n ofynnol i Aelodau etholaeth gofrestru ffynhonnell unrhyw gyfraniad at eu treuliau etholiad sy'n fwy na 25 y cant o gyfanswm y treuliau fel y'u nodwyd yn y ffurflen gwariant ymgyrch sy'n ofynnol o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007. Nid yw'n ofynnol bod gwariant ymgeiswyr rhanbarthol yn cael ei gofrestru, gan fod y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn trin y gwariant fel gwariant gan y blaid.

60. Mae canllawiau pellach i ymgeiswyr ac asiantau ar wariant a rhoddion ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol ac yn y Gorchymyn Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021.

61. Mae isadran (b) o'r categori hwn yn ymdrin â mathau eraill o nawdd ariannol. Bwriedir i hyn gynnwys unrhyw gefnogaeth reolaidd neu barhaus oddi wrth bersonau gan gynnwys cwmnïau neu gyrff y mae'r Aelod yn derbyn unrhyw fudd ariannol neu faterol oddi wrthynt i'w gynorthwyo/i'w chynorthwyo gyda'i rôl fel Aelod o'r Senedd.

62. Os mai cwmni yw'r noddwr, dylid nodi natur ei fusnes.  Dylai Aelodau gofrestru unrhyw drefniant nawdd ariannol y mae ganddynt hwy yn bersonol ran ynddo, pa un a ydynt yn derbyn tâl personol ai peidio.

63. Lle darperir gwasanaeth cynorthwyydd ymchwil neu ysgrifenyddes gyda'r cyflog yn cael ei dalu, yn llwyr neu yn rhannol, gan gorff allanol, a lle darperir llety am ddim neu gyda nawdd at ddefnydd yr Aelod, ar wahân i lety a ddarperir yn gyfan gwbl gan gangen y blaid yn yr etholaeth, dylid cofrestru hynny, fel sy'n briodol, un ai yn yr adran hon neu o dan gategori 5 "Rhoddion, lletygarwch, buddiannau materol neu fantais faterol".

64. Ar 19 Mai 1999, penderfynodd y Senedd [Cofnod y Trafodion] fod llety a ddarperir gan awdurdod lleol neu gorff arall heb unrhyw gost, neu am gost noddedig, i Aelod yn unswydd at y pwrpas o gynnal cymorthfeydd etholaeth wedi ei eithrio rhag yr angen i gofrestru.

65. Dylai Aelodau hefyd gofrestru a datgan unrhyw roddion ariannol sylweddol a roddir gan gorff neu gwmni ar sail reolaidd i gangen eu plaid yn yr etholaeth lle bo cyswllt uniongyrchol rhwng rhoddion o'r fath â'u hymgeisyddiaeth neu eu haelodaeth hwy o'r Senedd.

66. Ar 19 Mai 1999, penderfynodd y Senedd fod "rhoddion i gael eu hystyried yn nawdd ariannol os oes perthynas uniongyrchol rhwng rhoddion o'r fath mewn unrhyw flwyddyn ag ymgeisyddiaeth y person i gael ei ethol i, neu aelodaeth y person o, y Senedd a'u bod yn werth o leiaf £500 (ac mae'r cyfeiriadau uchod at roddion yn cynnwys rhodd unigol)."  Fodd bynnag, nid yw rhoddion a roddir yn uniongyrchol i gangen plaid mewn etholaeth fel mynegiant o gefnogaeth wleidyddol gyffredinol, nad ydynt yn gysylltiedig ag ymgeisyddiaeth yr Aelod neu ei (h)aelodaeth o'r Senedd, yn rhan o benderfyniad y Senedd.

67. Yn yr un modd, nid oes yn rhaid cofrestru rhodd gan undeb llafur i gangen plaid mewn etholaeth lle nad yw'n gysylltiedig â hyrwyddo ymgeisydd penodol am sedd yn y Senedd neu Aelod penodol. Fodd bynnag, dylid ystyried bod cefnogaeth ariannol i Aelod gan undeb llafur yn dod oddi mewn i baragraff 6 a dylid ei chofrestru (ar yr amod wrth gwrs ei bod yn fwy na 25 y cant o'r costau etholiad) hyd yn oed lle bo'r undeb llafur ynghlwm wrth y blaid wleidyddol dan sylw.

5.7. Categori 7: Ymweliadau Tramor

Gyda'r eithriadau a bennir mewn unrhyw benderfyniad a wneir gan y Senedd, ymweliadau tramor a wneir gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, mewn perthynas ag aelodaeth o'r Senedd neu'n deillio o hynny pan na fydd cost yr ymweliad wedi'i thalu'n llwyr gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, neu gan Lywodraeth Cymru neu arian cyhoeddus Comisiwn y Senedd.

Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai'r Aelodau sylweddoli, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, fod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un ymweliad tramor ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhennod 6.

68. Dylai'r Aelod roi dyddiad, cyrchfan a diben yr ymweliad, ac enw'r llywodraeth, corff, cwmni neu unigolyn a dalodd y gost.  Lle'r ysgwyddwyd rhan yn unig o'r gost gan ffynhonnell allanol (er enghraifft, cost llety ond nid y costau teithio), dylid nodi'r manylion hynny'n gryno. Lle trefnwyd ymweliad tramor gan Grŵp Trawsbleidiol o'r Senedd, ond na thalwyd amdano gan y Senedd na chan grŵp, nid yw'n ddigon enwi'r grŵp fel noddwr yr ymweliad: dylid enwi'r Llywodraeth, corff, cwmni neu berson sy'n talu'r gost yn y pen draw.

69. Penderfynodd y Senedd ar 19 Mai 1999 Senedd Cenedlaethol Cymru, [Cofnod y Trafodion]  nad oes angen cofrestru'r categorïau isod o ymweliadau ond y dylid eu datgan pan fônt yn berthnasol yn nhrafodion y Senedd.

  • Ymweliadau y telir amdanynt gan, neu yr ymgymerir â hwy ar ran y Senedd neu a wneir ar ran corff rhyngwladol y perthyn y Senedd iddo;
  • Ymweliadau tramor gyda, neu ar ran, un o bwyllgorau'r Senedd;
  • Ymweliadau a drefnir gan ac y telir amdanynt yn gyfan gwbl gan blaid wleidyddol yr Aelod ei hun;
  • Ymweliadau y telir amdanynt yn gyfan gwbl gan un o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd neu gan un o grwpiau gwleidyddol Senedd Ewrop.

70. Mae ymweliadau nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddynt ag aelodaeth o'r Senedd hefyd wedi'u heithrio rhag yr angen i gofrestru, ond dylid cofrestru ymweliadau sy'n cyfuno dyletswyddau cyhoeddus gyda dibenion preifat onid ymgymerir â'r dyletswyddau cyhoeddus yn ystod ymweliadau y darperir ar eu cyfer gan unrhyw rai o'r eithriadau uchod neu oni bai bo'r Aelod neu bartner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod yn talu'r gost yn llawn.

5.8. Categori 8: Tir ac Eiddo

Unrhyw dir neu eiddo sydd gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, y mae iddo werth sylweddol fel y'i pennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd neu y ceir incwm sylweddol drwyddo, heblaw unrhyw gartref a ddefnyddir fel preswylfan bersonol gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod.

71. Dylai Aelodau nodi natur yr eiddo a'r lleoliad cyffredinol (er enghraifft: "Coetir ym Meirionnydd", "Fferm laeth ym Mro Morgannwg", "3 eiddo preswyl ar rent yn Llandudno").

72. Penderfynodd y Senedd ar 19 Mai 1999 [Cofnod y Trafodion] fod "gwerth sylweddol" yn golygu swm sy'n cyfateb i gyflog blynyddol crynswth sylfaenol Aelod o'r Senedd (£67,649 ar hyn o bryd) a bod "incwm sylweddol" yn golygu swm sy'n cyfateb i 10 y cant o gyflog blynyddol crynswth sylfaenol Aelod o'r Senedd.(£6,794.90 ar hyn o bryd). Nid oes angen, fodd bynnag, cofrestru symiau penodol.

73. Nid oes diffiniad cwbl eglur o eiddo 'a ddefnyddir fel preswylfan bersonol'. Mater i'r Aelodau eu hunain fydd barnu a yw eiddo wedi'i eithrio rhag ei gofrestru am y rheswm hwn ai peidio. Mae nifer o ffactorau y dylai'r Aelodau eu hystyried, a fydd o gymorth iddynt wrth benderfynu a oes yn rhaid cofrestru eiddo ai peidio - maent wedi'u rhestru isod. Dylid pwysleisio nad yw'r ffactorau a restrir yn gynhwysfawr na phenodol, ac y gallai ffactorau eraill fod yn bwysig o dan rai amgylchiadau:

  • A geir incwm sylweddol drwy'r eiddo. Fel rheol, nid yw eiddo y bydd yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod yn cael incwm drwyddo (yn enwedig os ydyw'n incwm sylweddol yn ôl y diffiniad uchod) yn un sy'n debygol o'i weld fel un a ddefnyddir fel 'preswylfan bersonol'.
  • A yw'r eiddo yn cael ei ddefnyddio gan yr Aelod, gan bartner yr Aelod, plant yr Aelod neu deulu agos yn unig.
  • A yw'r dreth gyngor neu'r biliau am wasanaethau ar gyfer yr eiddo yn cael eu talu gan yr Aelod neu bartner yr Aelod neu blant dibynnol.
  • A ddylid cofrestru eiddo, megis fferm, sy'n cael ei ddefnyddio fel preswylfan gan yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod, os oes ganddo werth sylweddol ar wahân i'w ddefnydd fel preswylfan.

74. Mae'n bosibl i Aelod neu bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gael mwy nag un cartref 'a ddefnyddir fel preswylfan bersonol yr Aelod neu bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod'. Nid oes yn rhaid cofrestru eiddo o'r fath.

5.9. Categori 9: Cyfranddaliadau

Enwau cwmnïau neu gyrff eraill yn y rhai y mae gan yr Aelod, naill ai ar ei ben neu ar ei phen ei hun neu gyda phartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, neu ar eu rhan hwy, fuddiant llesiannol, neu yn y rhai neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod fuddiant llesiannol, mewn cyfranddaliadau:

(a) y mae eu gwerth ar y farchnad yn fwy nag un y cant o'r cyfalaf cyfranddaliadol a ddyroddwyd; neu

(b) yn llai nag un y cant ond yn fwy na swm a bennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd.

Mae'r gofyniad hwn yn cynnwys unrhyw opsiwn i gaffael cyfranddaliadau.

Lle mae'r Aelod, naill ai ar ei ben ei hun, neu gyda'i bartner neu blant dibynnol, yn fuddiolwr ymddiriedolaeth ddall, rhaid cofrestru hyn hefyd.

Penderfynodd y Senedd ar 10 Mai 2006 fod "yn rhaid cofrestru yng nghyswllt cyfranddaliadau y mae eu gwerth ar y farchnad yn llai nag 1% o‟r cyfalaf cyfranddaliadol a ddyroddwyd lle bo gwerth y cyfranddaliadau hynny yn fwy na 50 y cant o gyflog Senedd blynyddol crynswth sylfaenol Aelod o‟r Senedd" ar 5 Ebrill blaenorol.

75. Mae gwerth y cyfranddaliadau yn cael ei bennu gan bris y cyfranddaliad ar y farchnad ar: ddyddiad ethol yr Aelod i'r Senedd, neu ddyddiad prynu'r cyfranddaliad os yw ar ôl y dyddiad hwnnw; neu ar ôl y dyddiad ethol neu'r dyddiad prynu, ei werth ar 5 Ebrill bob blwyddyn.

76. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i'r Aelodau wneud asesiad blynyddol o'u cyfranddaliadau, a chofrestru unrhyw gyfranddaliad sydd â'i werth yn uwch na'r trothwy ar 5 Ebrill, er efallai y bu ei werth yn is na'r trothwy yn flaenorol.  Mae'n ofynnol i Aelodau gofrestru cyfranddaliadau cyn pen 8 wythnos i'w hethol i'r Senedd, neu cyn pen 4 wythnos i brynu'r cyfranddaliadau, neu ar 5 Ebrill bob blwyddyn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

77. Gall Aelodau hefyd nodi bod gwerth y cyfranddaliad ar 5 Ebrill wedi disgyn yn is na'r trothwy.  O dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd yn rhaid i'r Aelod ddatgan y cyfranddaliadau yn nhrafodion perthnasol y Senedd.

78. Os na ellir canfod y pris ar y farchnad (ee oherwydd nad yw'r cwmni wedi'i restru ac nad yw'r cyfranddaliadau ar y farchnad), dylid defnyddio'r gwerth mewn enw.

79. Mae buddiant mewn cyfranddaliadau yn cynnwys cyfranddaliadau opsiwn. Gall fod yn anodd cyfrifo gwerth cyfranddaliadau opsiwn at ddibenion cofrestru, bernir bod eu gwerth yr un fath â gwerth y cyfranddaliadau ar unrhyw adeg benodol. Fel yn achos cyfranddaliadau, rhaid i'r Aelodau wneud asesiad blynyddol o'u cyfranddaliadau opsiwn, a chofrestru unrhyw opsiynau sydd â'u gwerth yn uwch na'r trothwy ar 5 Ebrill, er efallai y bu eu gwerth yn is na'r trothwy yn flaenorol.

80. Mae buddiannau mewn cyfranddaliadau hefyd yn cynnwys buddiannau llesiannol mewn ymddiriedolaethau dall. Dylid cofrestru ymddiriedolaethau dall ynghyd â'u gwerth (os yw'n hysbys).

81. Wrth benderfynu a yw cyfranddaliadau yn gofrestradwy o dan y meini prawf a nodir uchod, dylai Aelodau gynnwys nid yn unig ddaliadau y mae ganddynt hwy eu hunain fuddiant llesiannol ynddynt ond hefyd y rheini lle mae'r buddiant yn cael ei ddal ar y cyd â, neu ar ran, eu priod neu blant dibynnol. Ar gyfer pob cyfranddaliad, dylai'r cofnod ddatgan enw'r cwmni neu'r corff, nodi'n fyr natur ei fusnes a'i gwneud yn glir pa un neu rai o'r meini prawf cofrestru sydd yn gymwys.

5.10. Categori 10: Aelodaeth/Cadeiryddiaeth o gyrff sy'n derbyn cyllid gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru

Aelodaeth neu gadeiryddiaeth gyda thâl neu'n ddi-dâl a ddelir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, ar unrhyw gorff a ariennir yn llwyr neu'n rhannol gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru.

82. Mae gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd bwerau ariannu helaeth mewn perthynas â chyrff cyhoeddus, a dylid cofrestru unrhyw gysylltiad ffurfiol sydd gan Aelod gyda chyrff o'r fath fel aelod neu gadeirydd.

83. Lle bo Aelod Senedd yn gwybod, neu y dylai wybod, fod gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gysylltiad fel aelod neu gadeirydd â chorff gwirfoddol neu gorff arall sy'n derbyn cyllid gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru, dylid cofrestru hynny.

84. Dylid ceisio cyngor y Llywydd, y Clerc neu Gofrestrydd Buddiannau'r Aelodau, i ganfod a yw corff yn cael ei gyllido'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

85. Mae'r diffiniad o'r term 'aelodaeth' yn y categori hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Unrhyw un sy'n dal swydd, er enghraifft, cadeirydd, trysorydd neu lywydd sefydliad, ond mae hefyd yn cynnwys ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr, noddwyr ac is-lywyddion.
  • Aelodaeth o gorff llywodraethu neu fwrdd sefydliad.
  • Unrhyw swydd sy'n derbyn tâl, boed yn weithredol neu'n weinyddol, o fewn y sefydliad neu sy'n ymwneud â'r sefydliad.
6. Adrodd am Fuddiannau wrth y Comisiwn Etholiadol

86. Yn ogystal â'r dyletswyddau a nodir yn Neddf 2006 ac yn Rheolau Sefydlog y Senedd, mae cyfrifoldeb statudol ar yr Aelodau i wirio, cofnodi ac adrodd rhai buddiannau'n uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol, fel y nodir yn PPERA 2000 ac, os ydynt yn ymgeiswyr etholaethol, i adrodd am roddion tuag at y gwariant ar eu hymgyrch etholiadol o dan Orchymyn 2007. Anogir aelodau i ddarllen canllawiau'r Comisiwn Etholiadol neu i gysylltu â'r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynghylch y gofynion hyn.

87. Wrth roi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am fuddiant, dylai Aelodau hefyd sylweddoli:

  • bod rhaid i unrhyw nawdd ariannol, rhodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol (gan gynnwys unrhyw rodd neu fenthyciad) dros £500 sydd i'w defnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol, naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol, fod o ffynhonnell a ganiateir;
  • bod rhaid i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu i'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â benthyciadau a roddir iddynt ar gyfer eu defnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol; a
  • bod ganddynt 30 diwrnod i ddarparu'r adroddiad sy'n ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol.

6.1. Rhoddion, Lletygarwch, Buddiant Materol neu Fantais Faterol

88. Rhaid i'r Aelodau gofnodi unrhyw rodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol (gan gynnwys unrhyw rodd ariannol neu fenthyciad) sydd i'w defnyddio gan yr Aelod mewn cysylltiad â'i weithgareddau gwleidyddol naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol, a'i bod naill ai:

  • dros £2,230 ac o ffynhonnell a ganiateir (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â rhoddion eraill o'r un ffynhonnell), neu
  • dros £500 ac o ffynhonnell na chaniateir neu na ellir ei hadnabod.

6.2. Nawdd Ariannol

89. Rhaid i'r Aelodau roi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol os byddant yn cael nawdd ariannol i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol, a'i fod naill ai:

  • dros £2,230 ac o ffynhonnell a ganiateir (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â rhoddion eraill o'r un ffynhonnell); neu
  • dros £500 ac o ffynhonnell na chaniateir neu na ellir ei hadnabod.

6.3. Ymweliadau Tramor

90. Rhaid i'r Aelodau roi gwybodaeth benodol i'r Comisiwn Etholiadol os yw cost taith dramor yn fwy na £2,230 (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag ymweliadau eraill y telir amdanynt o'r un ffynhonnell), ac os oedd hynny mewn cysylltiad â gweithgareddau gwleidyddol yr Aelod naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol.

91. Fodd bynnag, dylai'r Aelodau sylweddoli:

  • nad yw gofynion PPERA 2000, o ran caniatâd, yn berthnasol i ymweliadau tramor;
  • nad yw PPERA 2000 yn eithrio rhag hysbysu lle mae cost yr ymweliad tramor wedi'i dalu'n llwyr gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod; ac
  • bod PPERA 2000 yn nodi na ddylai gwerth unrhyw rodd a dderbynnir fod yn fwy na ‘chostau rhesymol’ yr ymweliad tramor.

Y Comisiwn Etholiadol
Tŷ'r Cwmnïau, Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

E-bost: infowales@electoralcommission.org.uk

Tel: 02920 346800

Canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar roddion i unigolion a reoleiddir.

Canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar ymgeiswyr ac asiantau mewn etholiadau i Senedd Cymru.

7. Datgan buddiant ar lafar a chyfyngu ar bleidleisio

7.1. Pwrpas y datganiadau llafar

92. Yn ei hanfod, diben datganiadau llafar yw sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am unrhyw fuddiant ariannol yn y gorffennol, buddiant ariannol presennol neu fuddiant ariannol yn y dyfodol y gallai eraill eu hystyried, o fewn rheswm, eu bod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i ddadl neu drafodaeth.

7.2. Pryd y dylai'r Aelodau ddatgan buddiant?

93. Rhannwyd yr achosion lle mae'n ofynnol i Aelodau ddatgan buddiant yn ddau gategori, sy'n destun sancsiynau troseddol ac anhroseddol fel a ganlyn:

Datgan Buddiannau Cofrestradwy (Troseddol)

Mae Rheolau Sefydlog 2.6 a 2.7 yn datgan fel a ganlyn:

"Yn yr amgylchiadau a bennir yn Rheol Sefydlog 2, cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd, rhaid i Aelod ddatgan ar lafar unrhyw fuddiant ariannol sydd ganddo, neu y gall fod yn disgwyl ei gael, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, unrhyw fuddiant ariannol sydd gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, neu y gallant fod yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hynny.

Rhaid i ddatganiad llafar o dan Reol Sefydlog 2.6 gael ei wneud mewn perthynas ag unrhyw fuddiant a bennir ym mharagraff 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 os gallai penderfyniad penodol yn y trafodion hynny arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, i bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, a fyddai'n fwy na'r fantais a allai ddod i ran etholwyr yn gyffredinol."

Mae cymryd rhan mewn trafodion, heb ddatgan buddiannau cofrestradwy yn unol â'r Rheolau Sefydlog hyn, yn drosedd o dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

Datgan Buddiannau Perthnasol (Anhroseddol)

O dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, rhaid i Aelod, ar yr adeg briodol, ddatgan ar lafar unrhyw 'fuddiant perthnasol' y mae'r Aelod neu aelod o'r teulu yn cael neu yn disgwyl ei gael mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn.

Yn ôl Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, ystyr 'buddiant perthnasol' at y dibenion hyn yw buddiant yr ystyrir yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i ddadl neu drafodaeth.

Yn wahanol i'r gofynion ar gyfer datgan unrhyw fuddiant perthnasol cyfredol o dan Reol Sefydlog 2.6 a 2.7, nid yw methiant i ddatgan buddiant yn y dyfodol neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A yn drosedd o dan Ddeddf 2006, ond gall fod yn destun cwyn i'r Comisiynydd Safonau.

94. Isod, mae siart llif yn esbonio sut y mae'r ddau gategori hyn yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd.

Siart llif – Datgan buddiant ar lafar a chyfyngu ar bleidleisio

7.3. Cyfyngu ar bleidleisio

95. O dan Reol Sefydlog 2.9, lle bo gan Aelod fuddiant cofrestradwy y mae'n ofynnol ei ddatgan o dan Reolau Sefydlog 2.6 a 2.7, ni chaniateir i'r Aelod bleidleisio pe gallai'r penderfyniad mewn perthynas â'r buddiant hwnnw arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod sydd yn fwy na'r fantais a ddeuai i ran yr etholwyr yn gyffredinol. Fel arall, caiff Aelodau bleidleisio yn nhrafodion y Senedd.

96. Megis gyda'r gofyniad i gofrestru a datgan buddiannau cofrestradwy, mae methiant i gydymffurfio â rheol sefydlog 2.9 ar y mater hwn yn droseddo dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

97. Wrth bleidleisio, rhaid i Aelod ystyried a fyddai'r penderfyniad yn arwain at fwy o fantais ariannol uniongyrchol iddo ef neu hi na'r etholwyr yn gyffredinol. Felly, dylai'r Aelod ystyried dau gwestiwn:

  • A yw'r mater penodol y pleidleisir arno yn y Senedd yn cynnwys penderfyniad a allai effeithio ar fuddiant y mae gofyn ei gofrestru neu ei ddatgan yn unol â'r Atodiad i Reol Sefydlog 2.
  • A fyddai penderfyniad 'yn debygol o arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod sydd yn fwy na'r fantais a ddeuai i ran yr etholwyr yn gyffredinol'.

98. Os bydd Aelod yn cael mantais ariannol uniongyrchol o benderfyniad a fyddai'n fwy na'r fantais a allai ddod i'r etholwyr yn gyffredinol, byddai ef neu hi yn cael ei wahardd rhag pleidleisio ar y mater hwnnw.

7.4. Datgan buddiannau yn y dyfodol

99. Lle bo angen datganiad llafar o dan Reolau Sefydlog 2.6 a 2.7, dylai'r Aelodau sylweddoli bod y gofynion ar gyfer datganiadau o'r fath yn ehangach eu cwmpas na'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chofrestru buddiannau. Yn ogystal â buddiannau presennol (h.y. y rheini yn y Gofrestr bresennol neu fuddiannau a gafaelwyd yn y pedair wythnos flaenorol), mae gofyn i Aelodau ddatgan y buddiannau a restrir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2 y maent efallai yn disgwyl eu cael cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd os yw'r buddiant mewn unrhyw fater y mae a wnelo'r trafodion ag ef.

100. Efallai y bydd buddiannau y disgwylir eu cael yn y dyfodol yn fwy arwyddocaol na'r buddiannau presennol, ac felly mae'n hanfodol bod yr Aelodau'n onest. Lle bo Aelod, er enghraifft, yn trafod is-ddeddfwriaeth neu'n gwneud sylwadau ar fater y gall yr Aelod yn rhesymol ddisgwyl mantais ariannol bersonol ohono o'r math a bennir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2, rhaid gwneud datganiad.

101. Wrth benderfynu a yw buddiant y gellid, o bosibl, ei gael yn y dyfodol yn ddigon pendant fel bod angen ei ddatgan, y gair allweddol yn y rheol y mae'n rhaid i'r Aelod ei gofio yw 'disgwyl'. Lle bo cynlluniau neu faint ymwneud Aelod mewn prosiect wedi mynd y tu hwnt i obeithion neu ddyheadau amwys ac wedi cyrraedd y cam lle mae yna ddisgwyliad rhesymol y ceir buddiant cofrestradwy, yna dylid gwneud datganiad yn egluro'r sefyllfa. Lle bo'r buddiant o'r fath fel bod rhaid ei ddatgan cyn siarad, dylai Aelodau sicrhau hefyd eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau ar bleidleisio (gweler adran 7.3).

7.5. Datgan buddiannau perthnasol

102. Lle bo angen datganiad llafar o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, dylai'r Aelodau sylweddoli bod yn rhaid iddynt ddatgan unrhyw fuddiant perthnasolsydd ganddynt hwy neu aelod o'r teulu, neu y disgwylir iddynt hwy neu aelod o'r teulu ei gael, ac y gallai gofynion o'r fath fod yn ehangach eu cwmpas na'r 'buddiannau cofrestradwy' a amlinellir ym mharagraff 5 o'r atodiad i Reol Sefydlog 2. Er enghraifft, er nad oes yn rhaid i'r Aelodau gofrestrueu bod yn cyflogi plant dibynnol o dan baragraff 5(iv) o'r atodiad i Reol Sefydlog 2 sy'n ymwneud â 'Chyflogaeth, Swydd, Proffesiwn, ac ati am dâl', efallai y bydd gofyn i Aelodau ddatgan cyflogaeth o'r fath, pe gallai eraill ystyried, o fewn rheswm, ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod at y ddadl neu'r drafodaeth.

103. O dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, mae disgresiwn i'r Aelodau benderfynu a yw unrhyw fuddiant sydd gan Aelod neu aelod o'r teulu, neu y mae Aelod neu aelod o'r teulu yn disgwyl ei gael, yn 'fuddiant perthnasol'. Fel yn achos buddiannau a ddisgwylir yn y dyfodol, felly, mae'n hollbwysig bod yr Aelodau'n onest wrth benderfynu a oes angen gwneud datganiad o dan y Rheol Sefydlog hon ai peidio.

104. Mae'r diffiniad o 'aelodau'r teulu' at ddibenion Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, yr un fath ag a gynhwysir o dan Reol Sefydlog 3 sy'n ymwneud â Chofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu (ceir y diffiniad llawn yn yr eirfa ar ddiwedd y ddogfen).

105. Nid yw'r rheolau sy'n ymwneud â'r cyfyngiadau ar bleidleisio (fel yr eglurir yn adran 6.2) yn gymwys:

  • mewn perthynas â'r gofyniad o dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, i ddatgan unrhyw 'fuddiant perthnasol' sydd gan Aelod neu aelod o'r teulu, neu y mae Aelod neu aelod o'r teulu yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn; neu
  • mewn perthynas ag arfer pleidlais fwrw o dan Reol Sefydlog 6.20.

7.6. Sut y dylai'r Aelodau ddatgan buddiannau?

106. Dylai buddiant gael ei ddatgan os yw naill ai o fewn categori a bennir yn yr atodiad i Reol Sefydlog 2 neu o fewn cwmpas Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, ac os yw'n berthnasol i unrhyw fater y mae'r trafodion [Ystyr “trafodion y Senedd” yw unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.] yn ymwneud ag ef. Cyfrifoldeb yr Aelod yw barnu a yw buddiant yn ddigon perthnasol i drafodion penodol fel bod yn rhaid ei ddatgan.

107. Yr egwyddor sylfaenol yw y dylai Aelodau ddatgan buddiannau cofrestradwy a pherthnasol bob tro y maent yn cymryd rhan yn nhrafodion yn y Senedd, fel a ganlyn:

Buddiant cofrestradwy:

  • Mewn cyfarfod llawn - cyn i Aelod siarad am y tro cyntaf ar bob eitem ar yr agenda ond nid bob tro y mae'n siarad wedyn yn ystod eitem benodol o fusnes.
  • Mewn pwyllgor/is-bwyllgor - ar ddechrau pob cyfarfod.

Buddiant perthnasol:

  • Ar yr adeg briodol yn nhrafodion y Senedd.

108. Cyhyd ag y bo'r manylion (gan gynnwys unrhyw symiau perthnasol) yn y Gofrestr Buddiannau, nid oes yn rhaid i'r Aelod ond cyfeirio at y buddiannau a'r ffaith bod y buddiannau i'w gweld yn y Gofrestr. Os yw'r datganiad yn ymwneud â buddiannau nad ydynt yn y Gofrestr neu eu bod yn rhai y mae'r Aelod, (neu hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod) yn disgwyl eu cael yn y dyfodol, yna bydd gofyn rhoi'r manylion llawn (gan gynnwys unrhyw symiau perthnasol) yn y datganiad.

109. Dylai'r datganiad roi digon o wybodaeth i alluogi'r gwrandäwr i ddeall natur y buddiant sy'n cael ei ddatgan; nid yw'n ddigon dweud 'Mae gennyf fuddiant yn y mater sy'n cael ei drafod'.

110. Hefyd, rhaid i'r datganiad nodi'r math o fuddiant dan sylw. Er enghraifft, 'Rydw i'n ffermwr gyda buddiannau mewn tir neu anifeiliaid y byddai'r cynllun yn effeithio arnyn nhw' neu "Rwy'n berchen tŷ yn yr ardal yr effeithir arni gan y cynllun sy'n cael ei ystyried' neu 'Rwy'n aelod o fwrdd un o'r cyrff y byddai'r penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw'. Os oes gan Aelod fwy nag un buddiant, rhaid iddo ddatgan pob un (ee 'Rwy'n ffermwr a byddai'r cynllun yn effeithio ar fy nhir, ac rydw i hefyd yn berchen ar dŷ y mae fy rhieni'n byw ynddo y byddai'r cynllun yn effeithio arno').

8. Gofynion eraill sy'n ymwneud â Buddiannau'r Aelodau

111. Yn ychwanegol at y gofynion statudol i gofrestru buddiannau o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi'r buddiannau canlynol:

  • Rheol Sefydlog 3: Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn
  • Rheol Sefydlog 4: Cofnodi'r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy
  • Rheol Sefydlog 5: Cofrestru Aelodaeth o Gymdeithasau

112. Mae'r gofynion o dan y Rheolau Sefydlog hyn wedi'u modelu ar y rheini yn Rheol Sefydlog 2 fel bod, er enghraifft, yr amserlenni ar gyfer datgan buddiannau perthnasol yn union yr un fath.  Fel Rheol Sefydlog 2, nid yw'r darpariaethau yn ddewisol nac yn wirfoddol; fodd bynnag, dylai Aelodau nodi nad yw'r gofynion hyn yn cael eu cynnwys yn y sancsiynau troseddol sy'n berthnasol i achosion o dorri rheolau sy'n ymwneud â'r gofrestr buddiannau a datganiadau llafar a nodir o dan Reol Sefydlog.

113. Caiff hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon eu cyhoeddi yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

8.1. Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn

Gofynion y Rheolau Sefydlog (Rheol Sefydlog 3)

O dan Reol Sefydlog 3, rhaid i Aelod sydd, ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd, yn cyflogi (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) berson y mae'r Aelod hwnnw'n gwybod ei fod yn aelod o'i deulu neu'n aelod o deulu Aelod arall, gofrestru'r gyflogaeth honno.

Mae canllawiau pellach ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu ar gael ar wefan y Senedd.

114. Yn ymarferol, caiff cyflogaeth aelodau o'r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn ei gofrestru drwy gwblhau ffurflen Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu. Mae'r amserlenni ar gyfer datgan cyflogaeth aelodau o'r teulu yn union yr un fath â'r rhai sy'n gymwys wrth gofrestru buddiannau yn gyffredinol.

115. Mae'r Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu yn cael ei gadw gan y Swyddfa Gyflwyno. Caiff y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu ei gyhoeddi yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau, a chopïau o gofnodion unigol ar gae drwy gais i’r Swyddfa Gyflwyno.

116. Cytunodd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar 17 Ionawr 2019 na fydd dim cyllid Comisiwn y Senedd ar gael i gyflogi aelodau'r teulu nad oeddent eisoes wedi'u cyflogi cyn 1 Ebrill 2019. Felly, gwaherddir aelodau rhag cyflogi aelodau o'u teulu eu hunain gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd. Fodd bynnag, bydd cyflogau aelodau'r teulu a benodwyd cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau i gael eu hariannu gan y Comisiwn tan ddiwedd y Chweched Senedd, er na chaniateir i gontractau aelodau'r teulu gael eu gwella gan yr Aelod sy'n cyflogi yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ogystal, gall Aelodau barhau i gyflogi aelodau o deuluoedd Aelodau eraill. Felly, mae'r rheolau ar gofnodi cyflogaeth aelodau’r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn yn parhau i fod yn gymwys o dan yr amgylchiadau a amlinellir uchod, ac mae'n dal yn ofynnol i Aelodau gofnodi manylion o'r fath, yn unol â Rheol Sefydlog 3.

8.2. Cofnodi'r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy

Gofynion y Rheolau Sefydlog (Rheol Sefydlog 4)

Os yw'n ofynnol i Aelod gofrestru buddiant o dan Gategorïau 1 (Cyfarwyddiaeth) a 2 (Cyflogaeth, Swyddfa, Proffesiwn ac ati am dâl) (a elwir gyda'i gilydd yn 'weithgarwch cofrestradwy'), rhaid i'r Aelodau hefyd nodi'r amser y bydd yn ymwneud â'r gweithgarwch hwnnw.

117. Rhaid i'r Aelodau gyfeirio at y bandiau canlynol, fel y nodir yn Rheol Sefydlog 4.3, wrth nodi'r amser a dreulir ar weithgarwch cofrestradwy:

  • Band 1: Llai na 5 awr yr wythnos;
  • Band 2: Rhwng 5 ac 20 awr yr wythnos;
  • Band 3: Mwy na 20 awr yr wythnos.

118. Dylid datgan buddiant o dan Reol Sefydlog 4 ar yr un pryd ag y cofrestrir buddiant perthnasol o dan Gategorïau 1 a 2. Gellir gwneud hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon drwy fod yr Aelodau'n llenwi'r adrannau perthnasol ar y Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiant. Cyhoeddir yr hysbysiadau hyn yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

8.3. Cofrestru Aelodaeth o Gymdeithasau

Gofynion y Rheolau Sefydlog (Rheol Sefydlog 5)

O dan Reol Sefydlog 5, mae gofyn i Aelodau gofrestru eu haelodaeth, neu safle o reolaeth gyffredinol, o gymdeithas breifat neu glwb preifat sydd â gofynion mynediad ar gyfer ymaelodi.

119. Yn unol â chyngor y Pwyllgor sy'n gyfrifol am safonau ymddygiad, cyflwynwyd y Gofrestr Aelodaeth o Gymdeithasau wedi i'r Senedd gymeradwyo Rheol Sefydlog 5 ar 19 Ebrill 2005. Mae Rheol Sefydlog 5 yn disodli'r gofyniad blaenorol yn Rheol Sefydlog 2 a oedd yn mynnu bod Aelodau'n cofrestru aelodaeth o'r Seiri Rhyddion.

120. Yn ei hanfod, mae'r polisi'n adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog 2, hynny yw sicrhau bod Aelodau o'r Senedd â'r cyhoedd yn gyson ymwybodol o aelodaeth o unrhyw glybiau neu gymdeithasau preifat y gellid tybio eu bod yn dylanwadu ar ymddygiad neu weithredoedd yr Aelodau yn y Senedd.

121. Enghreifftiau o'r math o gyrff y mae'n rhaideu cofrestru:

  • Cymdeithasau preifat sydd â gofynion aelodaeth yn ychwanegol at, neu yn lle, taliadau aelodaeth a'r gofyniad i gytuno ar delerau ac amodau aelodaeth - yn enwedig lle mae'r Aelodaeth yn cael ei dethol neu ei gwahodd yn unig (er enghraifft y Seiri Rhyddion, Rotari, y Ford Gron);
  • Clybiau preifat sydd â gofynion aelodaeth yn ychwanegol at, neu yn lle, taliadau aelodaeth a'r gofyniad i gytuno ar delerau ac amodau aelodaeth - yn enwedig lle mae'r Aelodaeth yn cael ei dethol neu ei gwahodd yn unig (er enghraifft Clybiau Aelodau Preifat, fel y Cardiff and County Club).

122. Enghreifftiau o aelodaeth o'r math o gyrff nad oes yn rhaid eu cofrestru:

  • Cyrff cyhoeddus (er enghraifft CADW, English Heritage, Historic Scotland);
  • Cymdeithasau preifat sy'n codi tâl aelodaeth yn unig (ee yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RAC, AA, RSPB);
  • Cymdeithasau preifat sydd ag amodau a thelerau aelodaeth (er enghraifft, Prifysgolion neu Golegau Addysg Uwch/Bellach, Cymdeithasau Rhieni/Athrawon, Cyrff Crefyddol, Cyrff Proffesiynol);
  • Clybiau preifat sydd ond yn gofyn am danysgrifiad a/neu gytuno i amodau aelodaeth (ee Clybiau Hamdden neu Glybiau Pobl Gwaith - cyn belled nad oes unrhyw elfen o aelodaeth sydd drwy wahoddiad neu ddethol yn unig).

123. Gall yr Aelodau gyflwyno gwybodaeth o dan y Rheol Sefydlog hon drwy fod yr Aelodau'n llenwi'r adrannau perthnasol ar y Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiant. Cyhoeddir gwybodaeth o'r fath yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

Geirfa

Aelod o'r Teulu: Ystyr aelod o'r teulu yw:

(a) partner yr Aelod;

(b) plentyn neu ŵyr/wyres yr Aelod;

(c) rhiant neu daid/nain yr Aelod;

(d) brawd neu chwaer yr Aelod;

(e) nai neu nith yr Aelod; neu

(f) ewythr neu fodryb yr Aelod;

mae'r ymadroddion "plentyn", "ŵyr/wyres", "rhiant", "nain/taid", "brawd", "chwaer", "ewythr" a "modryb" yr un mor gymwys i hanner perthnasau, llys-berthnasau, perthnasau maeth a pherthnasau mabwysiadol, ac yn gymwys hefyd i bersonau sy'n perthyn yn yr un modd i bartner yr Aelod.

Buddiant cofrestadwy: Y buddiannau a bennir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2.

Buddiant perthnasol: Unrhyw fuddiant y gallai eraill ystyried ei fod, o fewn rheswm, yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i'r ddadl neu'r drafodaeth.

Comisiynydd Safonau: Person annibynnol a benodwyd gan Senedd Cymru, i ddiogelu safonau, cynnal enw da, ac i fynd i'r afael â phryderon.

Deddf 2006: Deddf Llywodreath Cymru 2006.

Gorchymyn 2007: Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007.

Partner: Ystyr "partner" yw priod, partner sifil neu un o bâr, boed o'r un rhyw neu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel priod.

Plentyn Dibynnol: Unrhyw berson sydd, pan gofnodir y buddiant, yn iau nag un ar bymtheg mlwydd oed, neu yn iau na phedair ar bymtheg mlwydd oed ac sy'n derbyn addysg llawn amser mewn sefydliad addysgol cydnabyddedig ac:

(a) sy'n blentyn i'r Aelod; neu

(b) sy'n llysblentyn i'r Aelod drwy briodas; neu

(c) sy'n blentyn a fabwysiadwyd yn gyfreithlon gan yr Aelod; neu

(d) sy'n blentyn y mae'r Aelod yn bwriadu ei fabwysiadu'n gyfreithlon; neu

(e) sy'n blentyn y bu'r Aelod yn ei gefnogi yn ariannol am o leiaf y 6 mis calendr blaenorol.

PPERA 2000: Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Pwyllgor cyfrifol: Ar hyn o bryd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Trafodion y Senedd: Unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

Ffeiliau PDF