- Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Gorffennaf 2022
- Cyswllt: Pennaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau
- Ffeiliau PDF
Mae'r dudalen hon yn rhan o gyfres sy'n cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r holl Reolau a Chanllawiau Cysylltiedig.
chevron_right
Mae'r Rheolau a'r Canllawiau hyn yn cynnwys y tair adran ganlynol a dylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd:
1. Cyhoeddir y Rheolau hyn a chanllawiau cysylltiedig gan y Clerc fel prif swyddog cyfrifyddu Comisiwn y Senedd ac wrth arfer pwerau a ddirprwywyd i’r Clerc gan Gomisiwn y Senedd yn dilyn ymgynghoriad.
2. Diben y Rheolau hyn yw sicrhau rheoleidd-dra a phriodoldeb rheolaeth yr arian cyhoeddus a ddarperir i Gomisiwn y Senedd ac y mae’r Clerc yn atebol amdano fel prif swyddog cyfrifyddu Comisiwn y Senedd o dan adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
3. Mae'r Rheolau hyn yn gymwys i’r Aelodau pryd bynnag y maent yn defnyddio adnoddau’r Comisiwn (fel y’u diffinnir yn y Rheolau hyn) ac mae Rheol 8 o God Ymddygiad yr Aelodau yn ei gwneud yn ofynnol cydymffurfio â'r Rheolau hyn.
4. Pe bai gan y Clerc, fel y prif swyddog cyfrifyddu, sail resymol dros amau na chydymffurfiwyd â'r Rheolau hyn, mae dyletswydd ar y Clerc, o dan adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, i gyfeirio'r sail honno at Gomisiynydd Safonau y Senedd i ymchwilio iddi.
5. At hynny, gall unrhyw berson arall gwyno am y camddefnydd honedig o adnoddau'r Comisiwn i Gomisiynydd Safonau y Senedd.
6. Cyfrifoldeb pob Aelod yw sicrhau ei fod yn deall y rheolau hyn ac yn cydymffurfio â hwy.
7. Nid yw'r Canllawiau a nodir ar ôl pob Rheol yn rhan o'r Rheolau. Eu bwriad yw helpu’r Aelodau a swyddogion y Comisiwn i ddilyn a chymhwyso'r Rheolau. Mae gwybodaeth ychwanegol i helpu’r Aelodau i gydymffurfio â'r Rheolau hyn ar gael hefyd ar fewnrwyd yr Aelodau. Caiff Comisiynydd Safonau y Senedd hefyd roi sylw i’r Canllawiau.
8. Dylai’r Aelodau ofyn am gyngor ymlaen llaw gan staff Comisiwn y Senedd os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a yw gweithgaredd arfaethedig yn ddefnydd a ganiateir o adnoddau'r Comisiwn.
9. Dylai’r Aelodau hefyd gofio bod etholiadau a refferenda yn gyfnodau o sensitifrwydd gwleidyddol uwch a gellir cymhwyso darpariaethau arbennig yn ystod cyfnodau o'r fath, yn ogystal â darpariaethau mewn Rheolau eraill sy'n ymwneud â chyfnodau etholiad. Rhoddir gwybod i'r Aelodau am fesurau o'r fath.
10. Dylai’r Aelodau hefyd sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'u rhwymedigaethau o dan statud o ran derbyn rhoddion (gan gynnwys eiddo, cyfleusterau a gwasanaethau) a rhoi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am y rhain.
11. Yn y Rheolau hyn ac yn y Canllawiau, mae’r ymadroddion isod i’w dehongli fel a ganlyn:
“y Clerc” – yw Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd;
“Adnoddau’r Comisiwn” – yw unrhyw adnodd, boed yn ariannol neu fel arall, a ddarperir i’r Aelodau gan y Comisiwn, naill ai yn unol ag adran 27(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darparu eiddo, staff a gwasanaethau i’r Senedd) neu yn unol â’r Penderfyniad;
“y Penderfyniad” – yw’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau a gyhoeddwyd gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, a lle y darperir adnoddau'r Comisiwn yn unol â'r Penderfyniad, mae'r Rheolau hyn i'w dehongli a'u cymhwyso mewn modd sy'n gyson â'r Penderfyniad;
“dyletswyddau Aelod” – yw gweithgaredd mewn perthynas â busnes y Senedd a busnes etholaethol neu ranbarthol, lle bynnag yr ymgymerir ag ef, yn rhinwedd swydd gyhoeddus Aelod o’r Senedd;
“gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau” – yw gweithgaredd darlledu, ffilmio neu recordio y bydd Aelod (neu unrhyw berson neu sefydliad ar ei ran) yn ymgymryd ag ef ar unrhyw ran o ystâd y Senedd.
Rheol 1 – Atebolrwydd personol
Mae’r Aelodau'n bersonol atebol am ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn sydd ar gael iddynt ac ni chânt eu defnyddio ar gyfer gweithgaredd gwleidyddol plaid nac at ddiben heblaw am gyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau.
Canllawiau
Mae'r Aelodau'n bersonol gyfrifol am yr holl gostau yr eir iddynt neu'r adnoddau a ddefnyddir yn eu henwau. Gall yr Aelodau ddirprwyo trefnu a chyflawni gweithgareddau i eraill, er enghraifft aelodau o'u staff, ond dylai'r Aelodau gofio, pan fyddant yn rhoi trefniadau o'r fath ar waith, eu bod yn parhau i fod yn bersonol atebol am ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn a ddarperir iddynt.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o weithgareddau a fyddai’n torri’r Rheol hon:
- gweithgareddau neu negeseuon personol, busnes neu fasnachol;
- gweithgaredd gwleidyddol plaid o unrhyw fath, megis ceisio effeithio ar gefnogaeth i blaid wleidyddol; gwaith a wneir i blaid wleidyddol neu ar ei chais; trefnu cyfarfodydd gwleidyddol plaid, rhoi cyhoeddusrwydd iddynt neu bresenoldeb ynddynt; neu gynnal trefniadaeth fewnol plaid wleidyddol;
- ymgyrchu i sicrhau canlyniad penodol mewn etholiad i swydd gyhoeddus, neu mewn refferendwm;
- gweithgareddau eraill a allai ddod ag elw ariannol i'r Aelod neu unrhyw berson arall.
Cydnabyddir y gall fod yn anodd weithiau tynnu llinell glir rhwng busnes sy'n ymwneud yn briodol â dyletswyddau Aelodau a gweithgaredd gwleidyddol plaid. Fodd bynnag, er y bwriedir i'r Rheol hon gael ei dilyn yn llym, mae'n annhebygol y bydd cyfeiriad damweiniol at weithgaredd gwleidyddol plaid yn gyfystyr â thorri'r Rheol hon pan fydd Aelod, fel arall, yn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol.
Hefyd, gall camddefnyddio adnoddau’r Senedd fod yn gyfystyr â rhodd i’r Aelod neu ei blaid, a all arwain at atebolrwydd troseddol neu sifil i’r rhai dan sylw. Mae'r rheolau ynghylch rhoddion yn gymwys ar bob adeg ond mae iddynt arwyddocâd arbennig yn y cyfnod cyn etholiad. Dylai’r Aelodau gymryd gofal arbennig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau manwl a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 pan fo’n berthnasol. Dylai’r Aelodau gyfeirio at y Comisiwn Etholiadol ar gyfer canllawiau ar y materion hyn.
Ceir canllawiau yn ymwneud â defnyddio amser staff yn rheol 3.
Rheol 2 – Gwerth am arian, cynaliadwyedd a’r cyfrifoldeb i gynnal enw da
Wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn, rhaid i'r Aelodau weithredu'n ddarbodus a rhoi sylw i’r canlynol:
(a) yr angen am sicrhau gwerth am arian wrth wario arian cyhoeddus,
(b) rhwymedigaethau'r Comisiwn wrth gyflawni ei swyddogaethau o ran sicrhau cyfle cyfartal i bawb a hybu datblygu cynaliadwy,
(c) enw da a bri y Senedd.
Canllawiau
Rhaid i’r Aelodau ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt gan y Comisiwn yn ddarbodus ac o fewn cyfyngiadau'r adnoddau cyffredinol sydd ar gael i'r Aelodau.
Mae'r Rheol hon yn cynnwys gwariant yr Aelodau ar deithio a thynnir sylw at yr “Egwyddorion ar gyfer gwariant y Comisiwn ar deithiau gan Aelodau” a'r lwfansau teithio a bennir yn y Penderfyniad.
Rheol 3 – Cyflogi staff a ariennir gydag adnoddau'r Comisiwn
Rhaid i Aelodau sicrhau bod yr holl staff a gyflogir ganddynt ond yn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â dyletswyddau'r Aelod yn ystod yr amser y maent wedi'u contractio i ymgymryd â gwaith y telir amdano gydag adnoddau'r Comisiwn.
Canllawiau
Mae cymhwyso'r rheol hon yn golygu na ddylai staff cymorth a gyflogir gan Aelod gymryd rhan weithredol mewn gweithgaredd gwleidyddol plaid nac ymgyrchu yn ystod eu horiau gwaith dan gontract. Nid yw'r Comisiwn yn cyfyngu staff rhag ymgymryd â gweithgareddau o'r fath y tu allan i'w horiau gwaith ar gontract (gan ystyried amser i ffwrdd o’r gwaith yn lle tâl neu drefniadau oriau hyblyg unrhyw Aelod gyda’i staff), tr byddant ar wyliau blynyddol neu tra byddant ar absenoldeb arbennig di-dâl. Rhaid rhoi gwybod i'r tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau o flaen llaw am gyfnodau o wyliau arbennig di-dâl fel bod modd gwneud yr addasiad ariannol priodol.
Mae’n rhaid i Aelodau ystyried pa brosesau y mae angen iddynt eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod eu staff yn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â dyletswyddau'r Aelod (h.y. at ba ddiben y gwneir y ddarpariaeth) yn unig yn ystod eu hamser gwaith. Gallai'r broses honno gynnwys cadw cofnodion cywir o oriau a weithiwyd gan bob aelod o staff, ond nid yw’n ofynnol gwneud hynny.
Gall Aelodau neu eu staff, o bryd i'w gilydd, ddal swydd neu rôl arall (e.e. cynghorydd lleol). Pan fo hyn yn codi, dylai’r Aelodau sicrhau nad yw eu staff yn gwneud gwaith yn ystod eu horiau gwaith contract y telir amdano gan adnoddau'r Comisiwn ar fusnes sy'n ymwneud yn briodol â rolau eraill o'r fath, oni bai y caniateir hynny gan y Bwrdd Taliadau. Mae hyn yn gymwys boed a ddarperir adnoddau gan y corff dan sylw ai peidio.
Rheol 4 – Eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn
(1) Rhaid i eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod yn unig.
(2) Mae eitemau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn yn dod yn eiddo i'r Comisiwn ac yn parhau’n eiddo i’r Comisiwn ac maent i'w dychwelyd yn brydlon pan ofynnir amdanynt.
(3) Rhaid i eitemau a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio yn unol ag amodau a bennir gan y Comisiwn o bryd i'w
gilydd yn ymwneud â'r defnydd ohonynt.
Canllawiau
Mae'r rheol hon yn ymwneud ag eitemau a gwasanaethau y mae Aelodau'n eu prynu gydag adnoddau'r Comisiwn neu'n cael eu darparu gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau (er enghraifft, offer TGCh a chontractau gyda darparwyr gwasanaeth).
Mae rheol 4(3) yn cynnwys, yn benodol, fod yr offer TGCh sy’n cael ei ddarparu gan y Comisiwn yn ddarostyngedig i’r Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh, gan gynnwys defnydd personol cyfyngedig ac achlysurol a ganiateir o dan yr Amodau.
Dylai'r Aelodau gofio bod eitemau a brynwyd gydag adnoddau'r Comisiwn yn dod yn eiddo i'r Comisiwn ac yn parhau’n eiddo i’r Comisiwn ac y dylent hwy a'u staff gymryd gofal da o eitemau o'r fath yn unol â hynny. Mae Aelodau'n benodol gyfrifol am ddychwelyd eitemau ar ddiwedd eu cyfnod yn y swydd.
Mae’r Canllawiau ynghylch Rheol 3 sy’n ymwneud â sefyllfa pan fo Aelod, neu aelod o staff Aelod, yn dal rôl arall, hefyd yn gymwys i ddefnyddio eitemau a chyfleusterau sydd wedi’i gynnwys yn y Rheol hon.
Rheol 5 – Cadw at weithdrefnau ariannol
Rhaid i Aelodau gadw at y gweithdrefnau ariannol, a'r trefniadau gwrth-dwyll, mewn cysylltiad â gwariant a defnyddio adnoddau'r Comisiwn y bydd y Comisiwn yn hysbysu’r Aelodau amdanynt o bryd i'w gilydd.
Canllawiau
Mae'r Rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol cadw at y trefniadau a'r gweithdrefnau a bennir gan y Comisiwn a/neu'r Penderfyniad (y bydd y Comisiwn yn hysbysu’r Aelodau amdanynt, gan gynnwys ar fewnrwyd yr Aelodau) a fydd yn cynnwys (ond heb ragfarnu effaith gyffredinol y Rheol hon) ganllawiau diwedd y flwyddyn, manylion colledion ariannol, mesurau gwrth-dwyll, trefniadau ynghylch creu a chadw cofnodion (fel diben siwrneiau a’u manylion, oriau gwaith staff a derbynebau ac anfonebau sy'n ymwneud ag eitemau a brynwyd) a darparu gwybodaeth a chyflwyno hawliadau yn brydlon pan ofynnir am hynny, manylion sy'n ofynnol at ddibenion cyfrifyddu neu archwilio'r Comisiwn, neu at ddibenion eraill y gellir gofyn yn briodol am wybodaeth ariannol yn eu cylch, e.e. mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau.
Rheol 6 – Diogelu data
Rhaid i Aelodau gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â diogelu data personol wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn.
Pan fydd gweithgarwch cyfathrebu neu ymgysylltu a ariennir gan y Comisiwn yn arwain at gasglu data personol, mae’n rhaid defnyddio datganiad clir a syml i’w gwneud yn glir na chaiff y data personol a gesglir eu rhannu, ac eithrio pan fo hynny’n angenrheidiol i gefnogi gwaith achos.
Canllawiau
Byddai’r geiriad hwn yn bodloni’r gofyniad ar gyfer datganiad am ddata personol “Diben y data personol a ddarperir mewn ymateb i’r [arolwg/cyhoeddiad] hwn yw llywio fy ngwaith seneddol ac ni chânt eu rhannu, â thrydydd partïon, ac eithrio pan fo hynny’n angenrheidiol i gefnogi gwaith achos.”
Effaith y Rheol hon yw na all data personol etholwyr a gesglir drwy weithgaredd a ariennir gan y Comisiwn fod ar gael i drydydd partïon ac eithrio pan fo hynny’n angenrheidiol i gefnogi gwaith achos. Yn benodol, ni ellir rhannu data personol â phleidiau gwleidyddol cofrestredig na sefydliadau ymgyrchu gwleidyddol.
Gellir rhannu gwybodaeth a gesglir i lywio ymchwil neu ddatblygu polisi at y diben hwnnw, ar yr amod bod y data personol yn y wybodaeth yn ddienw.
Nid yw'r rheol yn atal darparu gwybodaeth y gellir pennu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith, e.e. mewn cysylltiad ag ymchwiliad gan yr heddlu neu ymchwiliad safonau.
Mae’n rhaid i’r Aelodau sicrhau bod eu hysbysiadau preifatrwydd yn adlewyrchu telerau'r datganiad sy’n ofynnol gan Reol 6 yn gywir.
Rheol 7 – Trin etholwyr yn gyfartal wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn
Rhaid i Aelodau drin pob etholwr yn gyfartal wrth ymgysylltu neu ohebu ag ef gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn.
Yn y Rheol hon, ystyr “yn gyfartal” yw trin etholwyr yn gyfartal ni waeth beth yw eu barn wleidyddol neu eu teyrngarwch neu eu barn wleidyddol neu eu teyrngarwch honedig.
Canllawiau
Rhaid i Aelodau arfer gofal a doethineb wrth baratoi deunyddiau, ar ba ffurf bynnag y bo hynny, er mwyn sicrhau nad yw'r cynnwys yn torri'r Rheol hon a Rheolau 8 i 12 isod.
Rheol 8 – Cyfathrebu ac ymgysylltu ag etholwyr gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn
(1) Wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â'u hetholwyr gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn, ni ddylai’r Aelodau roi’r argraff eu bod wedi’u hariannu gan blaid wleidyddol na’u defnyddio yn y fath fodd fel y gellid eu gweld fel pe baent yn ceisio effeithio ar gefnogaeth wleidyddol i blaid wleidyddol neu ymgeisydd.
(2) Mae’n rhaid i ddeunyddiau ddatgan yn glir bod Comisiwn y Senedd yn eu hariannu o arian cyhoeddus, ac ni ddylid eu hategu â deunyddiau ychwanegol na chaniateir iddynt ddefnyddio adnoddau’r Comisiwn.
(3) Caniateir un defnydd o logo plaid neu grŵp gwleidyddol anymwthiol ar ddeunyddiau ymgysylltu.
Canllawiau
Byddai’r geiriad hwn yn bodloni’r gofyniad ar gyfer datganiad am gyllid “Mae Comisiwn y Senedd wedi ariannu’r eitem hon o arian cyhoeddus.”
Gall Aelodau gyfeirio at eu hymlyniad gwleidyddol eu hunain mewn ffordd gryno, ffeithiol a chymesur. Caniateir defnyddio logos plaid, grŵp neu logos gwahaniaethol eraill unwaith mewn unrhyw neges a dim ond fel dynodydd ymlyniad Aelod wrth blaid neu grŵp yn y Senedd neu statws heb ymlyniad.
Atgoffir yr Aelodau, wrth arfer eu crebwyll am eu defnydd o logo, lliwiau a ffotograffau mewn deunyddiau ymgysylltu, y bydd y rhain yn cyfrannu i’r ffordd y mae'r deunyddiau hynny'n debygol o gael eu gweld. Dylid cymryd gofal i atal canfyddiad bod y deunyddiau’n rhai gwleidyddol plaid.
Caniateir defnyddio logo'r Senedd pan fydd hynny’n cydymffurfio â chanllawiau arddull y Comisiwn i'w ddefnyddio gan yr Aelodau.
Mae’n rhaid i’r gweithgaredd hyrwyddo gael ei anelu at yr etholaeth neu'r rhanbarth a gynrychiolir gan yr Aelod.
Eithrir gohebiaeth drwy lythyr, e-bost neu gyfrwng electronig tebyg â phersonau unigol o'r gofyniad i ddatgan ei bod wedi’i hariannu gan y Comisiwn ond mae unrhyw beth sydd wedi'i gyfeirio i unigolion lluosog neu gynulleidfa ehangach wedi'i gynnwys.
Mae arwyddion ar swyddfa/ffasâd blaen siop Aelod hefyd wedi'u heithrio o'r gofyniad am ddatganiad am gyllid gan y Comisiwn.
Ac eithrio lle y nodir, ni wahaniaethir wrth gymhwyso'r gofynion rhwng deunyddiau ffisegol a digidol.
Lle na wneir hawliad, ni fyddai’r rheolau hyn yn gymwys, er enghraifft dim ond pan hawlir costau danfon y byddai’r mecanwaith danfon ar gyfer eitemau/deunyddiau a gynhyrchir ar gyfer ymgysylltu ag etholwyr yn ddarostyngedig i’r rheolau hyn.
Enghraifft o ddeunyddiau atodol fyddai deunyddiau ychwanegol wedi'u hatodi i gylchlythyr a ganiateir neu wedi'u hamgáu ag ef.
Rheol 9 – Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Rhaid i weithgaredd cyfathrebu ac ymgysylltu sy’n defnyddio adnoddau'r Comisiwn fod yn unol â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol.
Canllawiau
Gellir dod o hyn i'r Cynllun yma.
Rheol 10 – Gwefannau Aelodau
Mae’n rhaid i wefan Aelod sy’n cael ei hadeiladu neu ei chynnal gan ddefnyddio adnoddau’r Comisiwn gael ei defnyddio mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod yn unig, ac mae’n rhaid iddi ddangos, yn glir, ddatganiad bod Comisiwn y Senedd wedi talu costau’r wefan o arian cyhoeddus.
Bydd Aelod yn ad-dalu'r Comisiwn yn brydlon pan ofynnir iddo wneud hynny, os canfyddir bod Aelod wedi torri'r Rheol hon.
Canllawiau
Byddai’r geiriad hwn yn bodloni’r gofyniad ar gyfer datganiad am gyllid “Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau’r wefan hon o arian cyhoeddus.”
Ni ddylai gwefan a ariennir gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn gynnwys na mewnosod cynnwys gwleidyddol plaid. Fodd bynnag, ni fydd y cynnwys a ganlyn, sy'n dangos pwy yw’r Aelod er budd pobl sy’n mynd i'r wefan, yn cael ei ystyried yn gynnwys gwleidyddol plaid o dan y Rheol hon:
(a) Nodi teyrngarwch plaid Aelod, a all gynnwys un logo plaid neu grŵp anymwthiol,
(b) Lincs ar y wefan i un neu ragor o wefannau allanol (heb ddangos cynnwys) sydd â chynnwys gwleidyddol plaid,
(c) Mae ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yr Aelod unigol ei hun wedi'u mewnosod fel cynnwys ar ei wefan ei hun.
Pan gynhwysir lincs, dylai gwefan yr Aelod gynnwys datganiad clir nad yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys sydd wedi’i fewnosod ac nad yw lincs sy’n arwain i wefannau wedi’u hariannu gan adnoddau’r Comisiwn.
Rheol 11 – Gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau
Yn achos gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau:
(a) ni ddylent amharu ar weithgareddau eraill ar ystâd y Senedd na rhwystro ymwelwyr rhag cael mynediad;
(b) ni ddylent gael eu cynnal yn y Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora, yr orielau cyhoeddus, na mannau eraill nad oes gan y cyhoedd fynediad
cyffredinol iddynt oni bai eu bod wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw gan y Llywydd;
(c) os yw’r cynnwys yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, dim ond yn y mannau cyhoeddus ar ystâd y Senedd neu yn swyddfeydd yr Aelod ei hun neu grŵp ei blaid y gellir cynnal y gweithgaredd;
(d) ni chaniateir eu cynnal yn unman ar ystâd y Senedd mewn perthynas ag ymgyrch etholiadol ar gyfer swydd gyhoeddus pan fo ymgyrchu’n digwydd yng Nghymru.
Canllawiau
Dylid gofyn am gydsyniad y Llywydd drwy gysylltu â Swyddfa’r Cyfryngau.
Rheol 12 – Digwyddiadau a noddir gan yr Aelodau
Ni ddylai Aelodau noddi na threfnu digwyddiadau ar ystâd y Senedd, neu fel arall gyda chefnogaeth adnoddau'r Comisiwn, sy'n cynnwys:
(a) gweithgareddau neu gyfathrebu personol, busnes neu fasnachol;
(b) gweithgaredd gwleidyddol plaid, gan gynnwys defnyddio logos neu ddulliau brandio plaid, neu ymgyrchu dros ganlyniad penodol mewn etholiad neu refferendwm;
(c) codi arian o unrhyw fath neu weithgaredd lle codir tâl mynediad;
(d) digwyddiadau, arddangosfeydd neu arddangosiadau o ddeunydd syd,d ym marn y Clerc, yn debygol o achosi tramgwydd;
(e) cyfarfodydd cyffredinol (boed yn gyfarfodydd blynyddol neu'n gyfarfodydd arbennig) sefydliadau allanol; neu
(f) weithgareddau eraill a allai ddod ag elw ariannol i'r Aelod neu unrhyw berson arall.
Canllawiau
Wrth noddi digwyddiadau, dylai'r Aelodau gofio mai diben defnyddio ystâd y Senedd gan Aelodau ar gyfer digwyddiadau yw galluogi'r Senedd i fod yn ddeddfwrfa arloesol sy'n rhoi llais pobl Cymru wrth galon yr hyn a wnawn drwy ymgysylltu’n ystyrlon a thrwy gynnal busnes y Senedd.
Wrth benderfynu a yw rhywbeth yn debygol o achosi tramgwydd, bydd sylw’n cael ei roi i bolisïau’r Senedd sydd ar waith ar y pryd yn ymwneud ag urddas a pharch.
Rheol 13 – Fetio at ddibenion diogelwch
Mae'r defnydd o adnoddau'r Comisiwn, ac eithrio gan Aelodau, wedi'i gyfyngu i bersonau sydd wedi cael eu fetio at ddibenion diogelwch ar y lefel briodol.
Canllawiau
Ni chaiff neb, ac eithrio'r Aelodau, ddechrau gwaith sy’n cynnwys defnyddio adnoddau’r Comisiwn cyn bod yn destun fetio ddiogelwch, boed yn Nhŷ Hywel neu yn rhywle arall.
Caiff unigolion sydd heb basys diogelwch ffotograffig fynd i ystâd y Senedd fel ymwelwyr.