Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol

Cyhoeddwyd 05/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/05/2023   |   Amser darllen munud

  • Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mai 2023
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Clerc y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Ffeiliau PDF

Mae rhagor o wybodaeth am Grwpiau Trawsbleidiol presennol.

 

Mae'r dudalen hon yn rhan o gyfres sy'n cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r holl Reolau a Chanllawiau Cysylltiedig.

Ymweld y gyfres lawn

Mae'r Rheolau hyn yn cynnwys yr adran sy'n dilyn y testun a dylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd:

 

1.  Cyflwyniad

1. Mae gan grwpiau trawsbleidiol gydnabyddiaeth eang am fod yn rhan werthfawr o'r broses ddemocrataidd ac mae’n bwysig bod grwpiau yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw..

2. Cytunwyd ar y 'Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol' drwy benderfyniad y Senedd ym mis Mehefin 2013 ac fe’u diweddarwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 2 Mai 2023.

3. Mae pob Grŵp Trawsbleidiol yn ddarostyngedig i'r 'Rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol', ac mae'n rhaid iddynt gadw at y rhain er mwyn i Grŵp gael ei gydnabod/gofrestru gan y Senedd (h.y. bod ganddo statws) a chael mynediad at yr adnoddau a nodir isod.

2. Diffiniad a statws

4. Diben Grwpiau Trawsbleidiol yw cynnig fforwm i Aelodau o'r Senedd o wahanol bleidiau i ddod ynghyd i drafod ac ystyried meysydd sydd o ddiddordeb cyffredinol iddynt.

5. Nid yw Grwpiau Trawsbleidiol yn grwpiau ffurfiol yn y Senedd ac nid ydynt, felly, yn rhan o drafodion y Senedd, nac ychwaith yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog y Senedd. Nid oes ganddynt unrhyw bwerau fel sydd gan bwyllgorau'r Senedd (h.y. ni allant alw ar unrhyw dystion neu Weinidogion i ddod i'w cyfarfodydd neu i gyflwyno dogfennaeth, ac ni chânt ddefnyddio logo na brand Senedd Cymru).

6. Caiff Aelodau sefydlu Grwpiau Trawsbleidiol i ymdrin ag unrhyw faes sy'n berthnasol i'r Senedd, ond ni ddylai geisio dyblygu meysydd swyddogaeth pwyllgorau'r Senedd. Nid oes ganddynt rôl ffurfiol yn nhrafodion y Senedd mewn perthynas â datblygu polisïau.

3.  Aelodaeth

7. Rhaid i'r Grŵp Trawsbleidiol gynnwys Aelodau o o leiaf tair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd. Rhaid i o leiaf un Aelod o’r Senedd sy’n aelod o’r Grŵp fod yn bresennol ym mhob un o’r cyfarfodydd Grŵp Trawsbleidiol.

8. Caiff Grwpiau Trawsbleidiol hefyd gynnwys aelodau o’r tu allan i'r Senedd. Y Grŵp fydd yn cael penderfynu gwahodd unigolion o'r tu allan i'r Senedd i fod yn aelod.

4. Ethol deiliaid swyddi

9. Rhaid i bob Grŵp Trawsbleidiol ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd .

10. Rhaid i Gadeirydd y Grŵp fod yn Aelod o’r Senedd. Gall Ysgrifennydd y Grŵp fod naill ai'n Aelod Senedd, yn aelod o staff cymorth Aelodau o'r Senedd neu'n unigolyn o'r tu allan i'r Senedd. Ni chaiff yr Ysgrifennydd weithredu heb gael sêl bendith Cadeirydd y Grŵp o flaen llaw. Rhaid i bob hysbysiad, gohebiaeth, dogfennaeth a threfniadau eraill ynghylch gweithgareddau'r Grŵp gael eu cyhoeddi yn enw'r Cadeirydd.

11. Fel arfer, rhaid i Grŵp Trawsbleidiol gynnal cyfarfod i ethol ei ddeiliaid swyddi. Disgwylir y bydd deiliaid swyddi yn cael eu hethol i ddechrau mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol. Fodd bynnag, gall deiliaid swyddi hefyd gael eu hethol yng nghyfarfodydd eraill y Grŵp. Ar ôl ethol deiliad swydd, dylai Cadeirydd y Grŵp roi hysbysiad ynghylch y newid hwn o fewn pedair wythnos, drwy gysylltu â'r swyddogion perthnasol yng Nghomisiwn y Senedd. Bydd gwybodaeth am ddeiliaid swyddi yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Senedd.

5. Cofrestru

12. Ar ôl cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol (gweler adran 8) dechreuol neu ethol deiliaid swyddi drwy ddull arall, dylai Grwpiau Trawsbleidiol gael eu cofrestru drwy ddefnyddio’r ffurflen gofrestru briodol. Rhaid i'r ffurflen gael ei chyflwyno gan Gadeirydd y Grŵp a rhestru holl aelodau'r Grŵp (mae adran 3 yn nodi'r gofynion Aelodaeth).

13. Bydd y manylion ar y ffurflenni cofrestru yn cael eu cyhoeddi gan swyddogion Comisiwn y Senedd ar adran y Grŵp Trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Senedd.

6.  Ailgofrestru Grwpiau Trawsbleidiol ar ôl Cyfnod o Ddiddymiad

14. Mae'n rhaid i Grwpiau ailgofrestru ar ddechrau pob Senedd newydd ar ôl etholiad.

7. Cofnodi newidiadau

15. Cadeirydd y Grŵp sy'n gyfrifol am roi gwybod i swyddogion Comisiwn y Senedd am unrhyw newidiadau i fanylion Grwpiau, gan gynnwys newidiadau i ddeiliaid swyddi, o fewn pedair wythnos i'r dyddiad y daethant i rym. Bydd adran y Grŵp Trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Senedd yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.

8. Y cyfarfod cyffredinol blynyddol a’r Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad Ariannol

16. Cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol fydd ei gyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol. Yn dilyn hynny, rhaid i Grwpiau gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol bob 12 mis, lle mae'n rhaid i'r Grŵp enwebu a phleidleisio dros y deiliaid swyddi (gweler yr adran 'Ethol Deiliaid Swyddi' uchod). Rhaid i'r deiliaid swyddi gael eu hethol yn swyddogol yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol hyd yn oed os yw'r deiliad swydd wedi cael ei benodi eisoes mewn cyfarfod diweddar.

17. O fewn chwe wythnos i gyfarfod cyffredinol blynyddol (ac eithrio’r cyfarfod cyffredinol blynyddol dechreuol), rhaid i Grwpiau gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol. Rhaid i'r adroddiad hwn gynnwys:

  • aelodaeth y Grŵp ac enwau deiliaid y swyddi
  • nifer y cyfarfodydd y mae'r Grŵp wedi'u cynnal ers y cyfarfod cyffredinol blynyddol diwethaf, pwy fu'n bresennol, a chrynodeb o'r materion a drafodwyd;
  • enwau'r holl lobïwyr proffesiynol a'r sefydliadau gwirfoddol ac elusennol y mae'r Grŵp wedi cwrdd â nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol;
  • datganiad ariannol blynyddol sy'n nodi gwariant y Grŵp a pha fuddion a lletygarwch a gafodd y Grŵp. Rhaid i'r datganiad gynnwys dadansoddiad o gostau'r holl nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd, a'r buddion a gafwyd, ac enwau'r darparwr/darparwyr.

18. Rhaid i'r Adroddiad Blynyddol a'r Datganiad Ariannol gael eu cyhoeddi ar adran 'Grwpiau Trawsbleidiol' gwefan y Senedd.

 

Cynnal Cyyfarfodydd

9. Defnyddio Cyfleusterau ac Adnoddau'r Senedd

19. Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Grŵp yn cydymffurfio â'r Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau’r Senedd. Mae hyn yn cynnwys neilltuo ystafelloedd a’r trefniadau sy’n gysylltiedig â’r cyfarfod (megis hebrwng aelodau allanol) a darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i'r Saesneg.

20. Nid oes gan Grwpiau Trawsbleidiol hawl i ddefnyddio unrhyw rai o wasanaethau staffio Comisiwn y Senedd. Fodd bynnag, caiff cyfieithu ar y pryd, o'r Gymraeg i'r Saesneg, ei ddarparu. Gellir darparu hyn os bydd Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol yn gwneud cais amdano.

21. Gellir cynnal cyfarfodydd Grŵp Trawsbleidiol a chyfarfodydd cyffredinol blynyddol wyneb yn wyneb, neu mewn fformat rhithwir neu hybrid yn ôl disgresiwn y Grŵp, ar yr amod bod pob Grŵp yn gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal cyfarfodydd o’r fath. Dylai Grwpiau gyfeirio at ganllawiau TGCh y Senedd ar gyfarfodydd rhithwir.

10. Darparu gwybodaeth yn ieithoedd swyddogol y Senedd

22. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gan Gomisiwn y Senedd ynghylch Grwpiau Trawsbleidiol y mae'n ofynnol ei chyhoeddi ar wefan y Senedd o dan y rheolau hyn, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn unol â darpariaethau Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 a Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am aelodaeth, dyddiad a lleoliadau cyfarfodydd, cofnodion yr holl gyfarfodydd, gan gynnwys y cyfarfod cyffredinol blynyddol, a'r datganiad ariannol blynyddol.

23. Y Grŵp Trawsbleidiol ei hun fydd yn gyfrifol am wneud trefniadau i gyfieithu dogfennau sy'n gysylltiedig â'r Grŵp Trawsbleidiol nad oes angen eu cyhoeddi ar wefan y Senedd, os ydynt yn dymuno iddynt gael eu cyhoeddi’n ddwyieithog..

11. Cymorth ychwanegol

24. Ceir rhagor o fanylion ar y ddarpariaeth ar gyfer cymorth ychwanegol i ymgysylltu ag etholwyr ag anghenion ychwanegol ym mhennod 3A o'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau: 2022-23 a gall y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau roi cyngor ychwanegol ar hyn.

12. Rhoi Gwybod am Gyfarfodydd Ymlaen Llaw

25. Fel arfer, cyfrifoldeb Cadeirydd y Grŵp fydd cyhoeddi gwybodaeth am amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd y Grŵp ac ati gan gynnwys darparu amseroedd/lleoliad cyfarfodydd i swyddogion perthnasol Comisiwn y Senedd i'w cyhoeddi ar wefan y Grŵp Trawsbleidiol. Os yw'r swyddogaeth honno wedi cael ei dirprwyo i Ysgrifennydd y Grŵp, ni chaiff yr unigolyn hwnnw weithredu heb gael sêl bendith Cadeirydd y Grŵp o flaen llaw. Rhaid i bob hysbysiad, gohebiaeth, dogfennaeth a threfniadau eraill ynghylch gweithgareddau'r Grŵp gael eu cyhoeddi yn enw'r Cadeirydd.

13. Rheolau Ariannol a Chofrestru Buddiannau

26. Ac eithrio i dalu am yr adnoddau a nodir yn adrannau 9-11 uchod, rhaid i aelodau'r Grŵp dalu am unrhyw gostau eraill o'r fath eu hunain.

27. Mae'n rhaid i Grwpiau Trawsbleidiol gofio am uniondeb y Senedd wrth ystyried derbyn unrhyw symiau arian, rhoddion, lletygarwch ac ati gan gyrff allanol. Yn benodol, mae gofyn i Aelodau unigol gydymffurfio â'r rheolau ynghylch cofrestru a datgan buddiannau ariannol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd y maent yn ymgymryd â hwy o fewn Grwpiau Trawsbleidiol neu ar ran y Grŵp - fel y'i nodwyd yn Rheol Sefydlog 2. Caiff Aelodau eu hatgoffa hefyd am ddarpariaethau Rheol Sefydlog 2.8, sy'n gwahardd lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth ac sy'n drosedd o dan adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

28. Dylai adroddiad blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol restru'r holl fuddion a gafwyd gan y Grŵp cyfan, neu gan Aelodau unigol, gan gyrff allanol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gymorth ysgrifenyddol neu wasanaethau cymorth eraill a ddarperir i'r Grŵp. Mae hyn yn ychwanegol i'r gofyniad bod Aelodau unigol o Grwpiau Trawsbleidiol yn cofrestru unrhyw symiau arian, rhoddion, lletygarwch neu fuddion eraill gan gyrff allanol ar Gofrestr Buddiannau'r Senedd (yn unol â Rheol Sefydlog 2).

14. Cofnodion Cyfarfodydd

29. Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion pob cyfarfod o'r Grŵp yn cael eu rhoi i swyddogion perthnasol Comisiwn y Senedd o fewn pedair wythnos i gynnal y cyfarfod. Rhaid i'r cofnodion gynnwys:

  • manylion am leoliad y cyfarfod;
  • pwy oedd yn bresennol, gan gynnwys enwau a theitlau deiliaid swyddi'r Grŵp fel y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd, enwau Aelodau'r Grŵp ac ymwelwyr neu westeion allanol, a
  • disgrifiad cryno o'r materion a drafodwyd.

30. Bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar adran y Grŵp Trawsbleidiol perthnasol ar wefan y Senedd.

15. Cydymffurfio â'r Rheolau

31. Cadeirydd y Grŵp, fel llofnodwr y ffurflen gofrestru, fydd yn bennaf cyfrifol am sicrhau bod y Grŵp yn cydymffurfio â'r rheolau, ond mae gan bob Aelod o’r Senedd sy’n aelodau o’r Grŵp Trawsbleidiol gyfrifoldeb dros sicrhau bod y Grŵp yn cynnal ei fusnes mewn modd priodol.

32. Gallai methu â chydymffurfio, neu dorri’r rheolau’n ymwneud â Grwpiau Trawsbleidiol yn cofrestru, ethol swydd-ddeiliaid, cynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol neu ddarparu gwybodaeth sy’n ofynnol yn ôl y rheolau, arwain at ddileu cydnabyddiaeth y Grŵp ar awdurdod y Llywydd (byddai’r Grŵp yn cael ei ddadgofrestru a’i holl fanylion yn cael eu tynnu oddi ar wefan y Senedd).

33. Os oes gan unrhyw Aelod bryder ynghylch dehongli'r Rheolau, dylai gysylltu â swyddog/swyddogion Comisiwn y Senedd sydd â chyfrifoldeb dros gofrestru Grwpiau Trawsbleidiol yn yr achos cyntaf.

34. Dylai unrhyw gwynion ynghylch safonau ymddygiad personol, defnydd priodol o adnoddau'r Senedd a/neu gofrestru buddiannau yn unol â Rheol Sefydlog 2, mewn perthynas â gweithgareddau Aelod sy’n gysylltiedig â Grŵp Trawsbleidiol, gael eu gwneud i’r Comisiynydd Safonau yn unol â Gweithdrefn y Senedd ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd. Gall hyn arwain at osod sancsiynau ar Aelod penodol.

35. O dro i dro, gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyried papur gan swyddogion y Comisiwn sy'n ymdrin â chofrestru gwybodaeth am weithgareddau Grwpiau Trawsbleidiol ac, os yw'n angenrheidiol, gwneud argymhellion i'r Llywydd ynghylch cydymffurfio â'r rheolau hyn.

 

Cytunwyd ar 26 Ebrill 2023.

Ffeiliau PDF